Neidio i'r prif gynnwy

Diogelu amgylchedd hanesyddol sy'n cynnal economi a llesiant Cymru sydd wrth wraidd gweledigaeth newydd a ddatgelwyd gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Blaenoriaethau ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru yn nodi sut y gall safleoedd hanesyddol Cymru wneud cyfraniad llawer mwy na dim ond eu gwerth i'r gymdeithas ac i'n gwybodaeth am y gorffennol.

Mae'r weledigaeth yn seiliedig ar bedair thema ryngddibynnol:

  • Gofalu am ein hamgylchedd hanesyddol − er mwyn adeiladu ar y camau mawr rydym wedi'u cymryd yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran gofalu am ein safleoedd hanesyddol unigryw
  • Mae sgiliau'n bwysig − er mwyn sicrhau bod gennym y sgiliau ar draws y sector i helpu gyda’r gwaith o’u gwarchod
  • Trysori a mwynhau ein hamgylchedd hanesyddol − er mwyn annog mynediad gwell ac annog pobl i gymryd mwy o ran mewn gofalu am ein treftadaeth
  • Sicrhau bod ein hamgylchedd hanesyddol yn gweithio er ein llesiant economaidd − er mwyn i’r amgylchedd hanesyddol fedru gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at economi Cymru

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas wrth Aelodau'r Cynulliad:

"Mae'r amgylchedd hanesyddol wrth wraidd ein hunaniaeth ddiwylliannol fel cenedl. Mae’n adrodd yr hanes am le Cymru yn y byd, o’i dechrau cynnar i’w rôl wrth wraidd datblygiad y byd modern. Mae'n etifeddiaeth werthfawr y mae’n rhaid i ni ofalu amdani a’i throsglwyddo i’n plant er mwyn iddynt ei charu, ei thrysori a’i mwynhau.

Mae gan Gymru, yn ôl sawl arsylwr yng Nghymru a thu hwnt, y ddeddfwriaeth fwyaf blaengar yn y Deyrnas Unedig ar gyfer diogelu a rheoli’r amgylchedd hanesyddol. Rwy'n falch iawn o hynny.

Mae cyfle go iawn bellach i’n treftadaeth ragorol fod yn ganolog i’n llesiant yn y dyfodol. Mae treftadaeth yn cyfrannu cymaint at gynifer o’n nodau: ffordd iach ac egnïol o fyw, ein ffyniant economaidd, cyfleoedd dysgu gydol oes a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau ac amgylchedd cynaliadwy.

Mae'r amgylchedd hanesyddol wrth wraidd ein hymdeimlad o falchder fel cenedl − gadewch i ni ddatgloi ei botensial i fod yn asgwrn cefn ein heconomïau lleol gwledig a threfol".