Neidio i'r prif gynnwy

Mae Yasmin Khan wedi bod yn siarad am yr uchelgais o sicrhau mai Cymru yw’r wlad ddiogelaf i fenywod yn Ewrop gyfan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bob mis Gorffennaf, cynhelir Diwrnod Coffa Cenedlaethol ar gyfer dioddefwyr priodas dan orfod a thrais ar sail anrhydedd ar draws y byd.

I nodi’r diwrnod yng Nghymru, trefnodd Bawso ‘Ddiwrnod Deialog’ yng Nghanolfan Cymunedol Butetown yng Nghaerdydd ddoe i godi ymwybyddiaeth o briodas dan orfod a thrais ar sail anrhydedd ac i dynnu sylw at y gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi dioddefwyr. 

Gwahoddwyd Yasmin, a benodwyd, ar y cyd â Nasir Afzal, yn ymgynghorydd Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn gynharach eleni, i annerch y digwyddiad a rhoi diweddariad am waith Llywodraeth Cymru yn y maes.

Dywedodd 

“Rhaid inni ddechrau herio’r ideolegau y tu ôl i briodas dan orfod a thrais ar sail anrhydedd. Troseddau yw’r rhain, ac ni allwn eu hanwybyddu. 

“Os ydym am gyflawni’n hamcanion drwy Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, mae angen newid diwylliant, newid cymdeithasol. Rhaid inni sicrhau ein bod yn atal y gamdriniaeth hon o hawliau dynol gymaint â phosib, yn diogelu’r rhai sy’n agored i risg, ac yn cefnogi’r bobl sy’n gofyn am gymorth.

“Yn ddiweddar, cyhoeddwyd ein Fframwaith Cyflawni ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae’r Fframwaith hwn yn amlinellu rhai o’r camau y byddwn yn eu cymryd i fynd i’r afael â phriodas dan orfod a thrais ar sail anrhydedd. Bydd hyn yn rhoi sail gref ar gyfer y gwaith ac mae’n arwydd o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r dasg o sicrhau mai Cymru yw’r wlad ddiogelaf i fenywod yn Ewrop gyfan.”

Dywedodd Mutale Merrill OBE, Prif Weithredwr Bawso:

“Mae Bawso wedi bod yn gweithio gyda dioddefwyr priodas dan orfod a thrais ar sail anrhydedd ers dros ugain mlynedd. Ers 2011, rydym wedi cefnogi 585 o bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan briodas dan orfod a thrais ar sail anrhydedd. Rydym yn falch o gynnal y ‘Diwrnod Deialog’ hwn, sy’n gyfle i ddod â phobl broffesiynol yn y maes, aelodau o’r gymuned leol a dioddefwyr ynghyd i rannu eu profiadau a thrafod y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael i bobl sy’n cael eu heffeithio gan briodas dan orfod a thrais ar sail anrhydedd.”  

Dywedodd Kim Ann Williamson MBE, Swyddog Cynhwysiant ac Ymgysylltu Cymunedol CPS Cymru-Wales a Chyd-gadeirydd y Grŵp Arweinyddiaeth Strategol  ar Drais ar sail Anrhydedd ac Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod:

“Mae’r troseddau hyn yn gallu bod ymysg y cymhlethaf y mae’r Gwasanaeth Erlyn yn ymdrin â nhw. Mae cyfrannu ar y Grŵp Arweinyddiaeth Strategol  yn caniatáu inni rannu arfer da a chefnogi dioddefwyr mor gynnar â phosib.

“Rydyn ni’n gweithio â’r Heddlu, Llywodraeth Cymru a chyrff yn y trydydd sector i sicrhau bod y troseddau hyn yn cael sylw dyledus a’u bod troseddwyr yn cael eu herlyn.”