Neidio i'r prif gynnwy

Gwnaethom brynu ac rydym yn parhau i gefnogi Maes Awyr Caerdydd er budd Cymru, er mwyn cefnogi twristiaeth a datblygiad economaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ein blaenoriaethau ar gyfer Maes Awyr Caerdydd

Ein blaenoriaethau allweddol ar gyfer y maes awyr yw:

  • cefnogi Maes Awyr Caerdydd i adfer yn sgil effaith COVID-19 ar y busnes a'r diwydiant yn ehangach
  • gweithio gyda Llywodraeth y DU a menter Jet Zero, yn ogystal â Maes Awyr Caerdydd, i leihau effeithiau amgylcheddol hedfan
  • datblygu Maes Awyr Caerdydd fel y gall teithwyr o Gymru hedfan o faes awyr sy'n agosach i'w cartref
  • gweithredu i safon uchel gan ddarparu'r profiad gorau posibl i deithwyr ac i gwmnïau awyrennau
  • creu amgylchedd sy'n hybu twf cwmnïau awyrennau a phartneriaid masnachol
  • manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd er budd economi a busnesau Cymru
  • sicrhau bod y maes awyr yn sefydlog yn ariannol a'i fod yn gweithredu'n effeithiol
  • parhau i ystyried cyfleoedd i gael gwell cysylltiadau rhwng Caerdydd a Chymru â gweddill y DU ac Ewrop.
  • cefnogi Ardal Fenter Sain Tathan-Caerdydd

Mae buddsoddwyr posibl yng Nghymru'n awyddus i weld maes awyr rhyngwladol llewyrchus yng Nghymru. Bydd hyn yn ein helpu i ddenu mwy o fusnes, mewnfuddsoddiad a thwristiaeth.

I gael gwybodaeth am wasanaethau ac i roi adborth cysylltwch â Maes Awyr Caerdydd.

Ein buddsoddiad ym Maes Awyr Caerdydd

Ers 2013, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cyfanswm o £179.6 miliwn ym Maes Awyr Caerdydd, sy'n cynnwys:

  • buddsoddiadau caffael ac ecwiti o £67.9 miliwn
  • benthyciadau o £69.8 miliwn
  • grantiau o £41.9 miliwn

Buddsoddiadau caffael ac ecwiti

Prynwyd y maes awyr am £52 miliwn yn 2013. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud buddsoddiadau ecwiti:

  • 2013 - £3.3 miliwn ar adeg ei brynu
  • 2018 - £6 miliwn
  • 2023 - £6.6 miliwn

Benthyciadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu 5 benthyciad masnachol i Faes Awyr Caerdydd ers 2013:

  • 2014 - £10 miliwn 
  • 2015 - £13 miliwn 
  • 2017-  £15.2 miliwn 
  • 2019 - £21.2 miliwn 
  • 2020 - £4.8 miliwn benthyciad argyfwng COVID-19

Ar 24 Mawrth 2021, cyfanswm y benthyciadau a wariwyd oedd £59.4 miliwn, yn cynnwys:

  • £54.6 miliwn o'r cyfleuster benthyciad masnachol
  • £4.8 miliwn o fenthyciad argyfwng COVID-19

Ym mis Mawrth 2021, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddileu £42.6 miliwn o gyfanswm dyled benthyciad masnachol Maes Awyr Caerdydd o £69.8 miliwn (gan gynnwys llog cronedig o £10.4m). Ar yr un pryd, fe wnaethom ddyfarnu pecyn grant achub ac adfer gwerth £42.6 miliwn.

Ar 6 Mai 2021, y ddyled oedd yn weddill ar ôl dileu rhan o’r ddyled oedd £27.2 miliwn. 

Ar 30 Medi 2023, y ddyled oedd yn weddill oedd £31.4 miliwn. Mae hyn yn cynnwys llog, sy'n cael ei ychwanegu at y balans bob mis.

Grantiau

Yn 2016, dyfarnodd Llywodraeth Cymru £169,000 o gyllid grant i wella diogelwch yn y maes awyr. 

Yn 2019, rhoddodd Llywodraeth Cymru grant o £523,000 i ariannu gatiau e-basbort newydd. 

Ym mis Mawrth 2021, cytunodd Llywodraeth Cymru ar grant Cynllun Achub ac Ailstrwythuro o £42.6 miliwn. Mae'r maes awyr wedi defnyddio £41.2 miliwn o'r cyllid hwn ac mae ganddo tan ddiwedd mis Rhagfyr 2024 i ddefnyddio'r grant. 

Mae Banc Datblygu Cymru yn monitro'r busnes yn erbyn y benthyciadau sy'n weddill i'w had-dalu a'r ceisiadau tynnu grant i lawr ar gyfer y Cynllun Achub ac Ailstrwythuro.