Neidio i'r prif gynnwy

Mae mam sydd wedi elwa o ehangu rhaglen Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru wedi canmol y cynllun am y fantais y mae wedi'i roi i'w phlentyn ieuengaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae merch Stephanie Thomas yn mynychu meithrinfa ddydd Little Sprouts yng Nghastell-nedd fel rhan o'r fenter, ac mae Stephanie'n dweud bod ansawdd y ddarpariaeth yn rhagorol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd ei tharged diweddaraf ar gyfer cam 2 yng nghynllun ehangu'r rhaglen, gyda 4,500 o leoedd gofal plant ychwanegol yn cael eu cynnig yn ystod 2023 i 2024.

Mae ehangu rhaglen Dechrau'n Deg yn rhan o broses raddol i ehangu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwyflwydd oed yng Nghymru, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg. Dyma un o ymrwymiadau'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Mae Dechrau'n Deg yn helpu teuluoedd sydd â phlant ifanc yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae cam presennol ehangu Dechrau'n Deg yn canolbwyntio ar ddarparu gofal plant rhan-amser, wedi’i ariannu, o ansawdd uchel i blant rhwng dwy a thair oed sy'n byw yn yr ardaloedd hynny.

Dywedodd Mrs Thomas:

Pan ddechreuon ni gyntaf roedd gan fy merch broblemau ymlyniad, felly roedd hi'n anodd iawn ei gadael. Ond roedd y staff mor dda gyda hi, fe wnaethant y broses o bontio mor hawdd. Mae hi wrth ei bodd yn mynd yno nawr.

Dywedodd Mrs Thomas ei bod yn teimlo bod ei merch wedi elwa'n sylweddol o'r gofal a gafodd diolch i'r rhaglen.

Ychwanegodd:

Mae datblygiad enfawr wedi bod yn ei sgiliau cymdeithasol a'i gallu i gyfathrebu.

Mae hi nawr yn paratoi i ddechrau mynd i'r ysgol am hanner diwrnodau ym mis Mawrth, ac rwy'n gwybod y bydd y profiad hwn yn helpu'n aruthrol gyda hynny.

Ni chafodd fy merch arall, sydd bellach yn yr ysgol, yr oriau o ofal plant am ddim. Mae fy merch ieuengaf filltiroedd ar y blaen o'i chymharu â fy merch arall ar y pryd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar, Jayne Bryant:

Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol yn ein hymdrechion i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.

Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg yn wasanaeth hanfodol sy'n helpu plant i ddysgu, i dyfu ac i ffynnu.

Yn ei sgil, rydym yn cyrraedd at fwy o deuluoedd a all elwa o'r cynnig hwn ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, darparwyr gofal plant a phartneriaid eraill i sicrhau ansawdd a chynaliadwyedd gofal plant Dechrau'n Deg.

Dywedodd Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru:

Mae gennym raglen uchelgeisiol i wella gofal plant yng Nghymru ac rwy'n falch iawn ein bod yn gwneud cynnydd sylweddol ar ein hymrwymiad i gynnig gofal plant i bob plentyn dwyflwydd oed yng Nghymru, gyda 4,500 o leoedd gofal plant yn cael eu cynnig fel rhan o'r cynllun ehangu.

Mae'r rhaglen hon yn gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i deuluoedd ac i flynyddoedd cynnar datblygiad plant. Hoffwn ddiolch i bawb sydd ynghlwm â'r cynllun am eu gwaith caled wrth ein helpu i sicrhau bod plant iau yng Nghymru yn gallu cael mynediad at ofal plant. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i ddarparu ein rhaglen gofal plant.