Neidio i'r prif gynnwy

Mae llyfryn newydd ar gael, sy'n rhoi amlinelliad o fanteision bod yn gysylltiedig â menter Ffordd Cymru i fusnesau twristiaeth i helpu iddynt fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r llwybrau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd fersiwn print yn cael ei lansio yn Sioeau Teithiol Croeso Cymru fis Hydref a byddant hefyd ar gael i'w lawrlwytho ar-lein.

Mae Ffordd Cymru, a lansiwyd yn 2017, yn deulu o dair ffordd (Ffordd Cambrian; Ffordd yr Arfordir a Ffordd Gogledd Cymru), sy'n annog ymwelwyr i ddarganfod mwy o Gymru. Mae Ffordd Cymru yn cynnig cyfleoedd gwych i dargedu'r farchnad ymwelwyr sy'n gwario mwy, yn ogystal ag ychwanegu at apêl Cymru a’r hyn y gall ei gynnig mewn marchnadoedd domestig cystadleuol.

Mae Croeso Cymru wedi lansio llawlyfr Ffordd Cymru i'r diwydiant i gynorthwyo busnesau yng Nghymru fanteisio i'r eithaf ar y fenter gyffrous hon sy’n datblygu. Mae'r busnesau ar hyd y llwybrau yn chwarae rôl allweddol yn sicrhau bod ymwelwyr Cymru yn cael y profiad gorau pan fyddant yma - a'u hannog i grwydro ychydig ymhellach - neu i deithio’n 'igam ogam' drwy Gymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

Mae Ffordd Cymru yn fenter gyffrous a bydd y llawlyfr hwn yn annog mwy o fewn y diwydiant i fod yn rhan o hyn er mwyn i'n hymwelwyr ddarganfod y gorau o Gymru ac i gael profiad rhwydd ar Ffordd Cymru.

Fe wyddom bod ffyrdd cenedlaethol yn gweithio, gan eu bod wedi eu profi mewn nifer o wledydd eraill.  Mae Ffyrdd Cenedlaethol Eiconig megis Route 66 yn yr UDA a'r Great Ocean Road yn Awstralia i'r Norwegian Scenic Routes   a'r Wild Atlantic Way yn Iwerddon - mae ganddynt rhywbeth yn gyffredin - maent yn ysbrydoli ac yn annog ymwelwyr, yn cynnig enghreifftiau ar gyfer gweld y gorau o'r hyn sydd gan pob cyrchfan i'w chynnig.

Mae Ffordd Cymru yn llawer mwy na ffordd i yrru arni.  Mae'n hyrwyddo cysylltiadau gwell ar gyfer nifer o wahanol ddulliau o deithio: trên, bws, beic, llwybrau cerdded a marchogaeth.

Cefnogaeth oddi wrth y diwydiant

Mae Gwesty Twr y Felin, yn bwynt pwysig ar hyd Ffordd yr Arfordir meddai Paula Ellis, Rheolwr Cyffredinol y Grŵp:

Mae Ffordd Cymru’n hollol wych, a dyna’n union oedd ei angen ar Gymru. Mae hyn bellach yn gyfle i ddarparwyr twristiaeth a lletygarwch, yn ogystal ag atyniadau i wir gysylltu a rhoi Cymru ar lwyfan rhyngwladol er mwyn denu mwy a mwy o ymwelwyr.

Nodwedd arall o Ffordd yr Arfordir yw Rheilffordd Talyllyn, meddai Daniel King, y Rheolwr Marchnata:

Rydym ni’n llawn cyffro am Ffordd Cymru, am ei bod yn annog ymwelwyr i fentro oddi ar y brif ffordd er mwyn profi cefn gwlad godidog Cymru — sef yr union beth rydym ni’n ei wneud. Mae’r llwybrau yn hybu cyd-farchnata rhwng busnesau a chyrchfannau unigol, sy’n helpu pob un ohonom  i elwa ar y nifer cynyddol o bobl  sy’n ymweld â Chymru.

Meddai Alwyn Griffith, rheolwr gyfarwyddwr cwmni teithio Celticos, o Ogledd-orllewin Cymru:

Mae ein cwsmeriaid ni’n chwilio am flas o Gymru go iawn —  ein hiaith, ein diwylliant, ein treftadaeth a’n tirwedd. Maen nhw eisiau gweld rhai o drysorau cudd ein cenedl, yn ogystal â’r mannau mwy eiconig, a dyna holl bwrpas Ffordd Cymru. Gall busnesau fel ein un ni wasgu budd enfawr allan o’r cyfle marchnata rhyngwladol sy’n cael ei gynnig gan Ffordd Cymru.

Mae Naunton Dickins wedi bod o blaid Ffordd Cymru o'r cychwyn cyntaf. Mae ei gwmni, Pronto Motorhome Hire, bellach yn hyrwyddo canllaw teithio arbennig 'Motorhome The Wales Way', sy'n annog eu cwsmeriaid i ddilyn un - neu fwy - o'r tri llwybr craidd. Dywedodd:

Y farchnad deithio antur yw  un o’r sectorau twristiaeth sy’n  tyfu gyflymaf, ac rwy’n gweld bod hynny, Ffordd Cymru, a llogi cartref modur yn asio’n wych. Mae cartrefi modur yn cynnig ffordd wych o brofi  ein gwlad hardd, a Ffordd Cymru yw’r pwynt cychwynnol delfrydol  er mwyn i ymwelwyr allu darganfod. Felly mae’n hollol synhwyrol ein bod ni’n asio ein mentrau datblygu cynnyrch a marchnata gydag ymgyrchoedd Croeso Cymru.