Mae'r ymchwil hon yn darparu adolygiad o'r llyfryddiaeth sy'n dadansoddi manteision economaidd addysg.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif gasgliadau’r
- Yn gyffredinol mae ymchwil economaidd yn cefnogi’r safbwynt bod yna berthynas bositif rhwng gwelliannau mewn cyflawniadau addysgol a thwf economaidd. Mae astudiaethau rhyngwladol yn tueddu i ddangos bod ymyrryd yn gynnar ym mywyd plentyn yn gwella’r siawns o gael dylanwad positif ar gyflawniad addysgol wedi hynny.
- Mae cyfraddau preifat a chymdeithasol manteision addysg yn arwyddocaol bositif yn y DU. Mae’r manteision cymdeithasol yn is gan bod cyfraniad y wladwriaeth tuag at gost addysg yn cael ei ystyried.
- Mae’n ymddangos nad yw rhai graddau yn cael fawr o effaith ar enillion ar gyfartaledd o’u cymharu ag enillion pobl â chymhwyster Safon A, tra bod pynciau eraill yn cael effaith sylweddol ar enillion.
- Mae bwlch cyflog rhwng y ddau ryw yn gostwng po uchaf yw’r cymhwyster, ond nid yw’n diflannu’n gyfangwbl. Mae’r tueddiad bod menywod wedi’u tangynrychioli mewn pynciau sy’n darparu’r elw mwyaf a’u gorgynrychioli yn y rhai sy’n rhoi elw lled isel yn ffactor arwyddocaol wrth egluro’r bwlch cyflog rhwng y ddau rhyw.
- Mae cyfraddau manteision addysg uwch yng Nghymru yn lled debyg i’r rhai yng ngweddill Prydain, o ran maint y manteision a thueddiad y manteision i amrywio yn ôl pwnc gradd. O ran dynion fodd bynnag, mae manteision dilyn gradd yng Nghymru rhywfaint yn is na chyfartaledd Prydain, sy’n dangos ei bod yn bosib fod y sector gwasanaethau ariannol â chyflog uchel wedi ei dan-gynrychioli yn economi Cymru. Ar y llaw arall, mae’r astudiaeth yn dangos bod premiwm enillion menywod sy’n raddedigion yng Nghymru o’i gymharu â menywod heb radd yng Nghymru yn fwy ar gyfartaledd na’r premiwm a enillir gan fenywod sy’n raddedigion mewn rhannau eraill o Brydain.
Adroddiadau
Economic returns to education (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Update (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 249 KB
PDF
249 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.