Manylion Cwsmer: asiantau
Canllawiau manwl i asiantau ac undebau ffermio ar sut i ddefnyddio eich cyfrif RPW Ar-lein.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion yr asiant
Dewiswch Hafan Asiant wedyn dewiswch y tab Manylion CRN o'r bar gwyrdd yn eich hafan. Manylion Cwsmer fydd yr opsiwn cyntaf ar y gwymplen. Ar ôl ei ddewis, bydd y system yn mynd â chi i'r adran Manylion Cwsmer lle byddwch yn gweld tri thab:
- Manylion Cyffredinol
- Cyfeiriadau
Manylion Cyffredinol
Mae'r tab hwn yn dangos Enw Masnachu, Prif Enw Cyswllt a'r Iaith a Ffefrir. Gellir diweddaru'r manylion hyn drwy ddewis y botwm Diweddaru'r wybodaeth hon.
Cyfeiriadau
Bydd eich cyfeiriad gohebu yn cael ei restru yma. I'w ddiweddaru, dewiswch y botwm Diweddaru'r wybodaeth hon.
Manylion y Cwsmer
Dewiswch y tab Manylion CRN o'r bar gwyrdd ar hafan eich cwsmer a dewiswch Manylion yr Cwsmer o'r gwymplen. Rhaid i chi gael caniatâd gan weinyddwr y cwsmer i Diwygio Manylion Busnes. Unwaith y bydd y caniatâd sydd ei angen ar waith, bydd y system yn mynd â chi i'r adran Manylion y Cwsmer, sy'n cynnwys tri thab:
- Manylion Cyffredinol
- Cyfeiriadau
- Meysydd Busnes
Manylion Cyffredinol
Mae'r tab hwn yn dangos gwybodaeth fusnes allweddol ar gyfer y cwsmer, gan gynnwys yr Enw Masnachu, Enw Cyswllt Sylfaenol, y Prif CPH a'r Iaith a Ffefrir. Ar gyfer cwsmeriaid sy'n gwneud hawliad, mae hefyd yn dangos y Statws Cyfreithiol a'r dyddiad y sefydlwyd y busnes. Os yw hynny'n berthnasol, dangosir y Rhif Cofrestru Elusen a Rhif Cofrestru'r Cwmni.
Rhaid diweddaru'r manylion hyn yn rheolaidd. Os oes gennych y caniatâd priodol, dewiswch y tab Diweddaru'r wybodaeth hon wrth ymyl y pennawd Manylion Cyffredinol i fynd i'r dudalen Diweddaru Manylion Cyffredinol. Gallwch olygu'r meysydd sydd ar gael, ond ni ellir diwygio'r blychau llwyd – Rhif y Prif CPH, Dyddiad Sefydlu'r Busnes a Statws Amcan 1 Presennol .
Ar ôl gwneud eich newidiadau, dewiswch Cadw Newidiadau i ddiweddaru'r wybodaeth. I adael heb arbed, dewiswch Canslo i ddychwelyd i'r dudalen Manylion y Cwsmer .
Cyfeiriadau
Mae tri chyfeiriad wedi'u rhestru ar gyfer y cwsmer:
- Cyfeiriad Gohebu:
Dyma lle bydd yr holl ohebiaeth bapur yn cael ei hanfon
- Cyfeiriad Safle
Dyma'r cyfeiriad lle mae unrhyw weithgareddau busnes yn cael eu cynnal
- Cyfeiriad Masnachu
Dyma'r cyfeiriad y mae'r busnes yn gweithredu ohono
Dewiswch y cyfeiriad perthnasol drwy ddewis Diweddaru'r wybodaeth hon er mwyn agor y dudalen gyfeiriad gyfatebol.
Mae'r maes Enw Masnachu wedi ei gloi ac ni ellir ei olygu. Mae'r meysydd Cod Post a Chyfeiriad yn orfodol, fel y nodir gan y seren. Gallwch hefyd ychwanegu rhifau ffôn os oes angen.
Nodwch: Ni fydd y rhifau ffôn a roddir yma yn cael eu defnyddio ar gyfer hysbysiadau RPW Ar-lein. I ddarparu manylion hysbysu, ewch i Dewisiadau Ar-lein o dan y tab Manylion CRN.
Ar ôl gwneud eich diweddariadau, dewiswch Cadw Newidiadau i'w cadw. I adael heb gadw neu i ddychwelyd i'r dudalen Manylion y Cwsmer, dewiswch Canslo.
Meysydd Busnes
O dan y tab Meysydd Busnes, mae dwy adran yn cael eu dangos: Meysydd Busnes a Sectorau Amaethyddol I ddiweddaru'r naill adran neu'r llall, rhaid ichi gael caniatâd gweinyddwr eich cwsmer naill ai i Diwygio Manylion Busnes neu Cwblhau Ceisiadau a Hawliadau. Dewiswch Diweddaru'r wybodaeth hon yn yr adran berthnasol.
Meysydd Busnes
Bydd y Maes Busnes yn cael ei lenwi'n awtomatig ag 'Amaethyddiaeth a Choetir Fferm' os yw'r busnes yn gwsmer Taliadau Gwledig Cymru ac wedi derbyn taliadau. Os na ddewisir yr opsiwn Amaethyddiaeth a Choetir Fferm, ni fydd y dudalen Sectorau Amaethyddol ar gael.
Gallwch ychwanegu / tynnu categorïau drwy roi tic yn y blwch opsiynau priodol – dylech ddewis pob categori sy'n berthnasol i fusnes eich cwsmer. Mae'r holl gategorïau isod:
- Amaethyddiaeth a Choetir Ffermydd
- Rheoli Llifogydd
- Coedwigaeth
- Morol / Dyframaethu
- Datblygu Gwledig
Sectorau amaethyddol
Mae'r adran hon yn ddewisol ac yn casglu gwybodaeth am feysydd busnes eich cwsmer sy'n gweithredu fel mentrau masnachol. Yr opsiynau sydd ar gael yw:
- Godro
- Cig Eidion
- Defaid
- Moch
- Dofednod
- Âr
- Garddwriaeth
- Geifr
- Coetir/Amaeth-goedwigaeth
- Glaswelltir/Porthiant yn unig (Dim anifeiliaid)
- Coetir (Masnachol)
- Cadw Gwenyn (Gwenynyddiaeth)
- Camelidau
- Ceirw
Neu, os nad yw'r opsiwn sydd ei angen arnoch ar gael, dewiswch Arall.
Wedyn dewiswch 'Cadw Newidiadau' i ddiweddaru'r wybodaeth.
Mae'r adran Maes Busnes yn orfodol – rhaid dewis o leiaf un opsiwn .
Mae'r adran Sector Amaethyddol yn ddewisol ac mae'r data yn cael ei gasglu at ddibenion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn unig.
Mae diffiniadau o Feysydd Busnes a Sectorau Amaethyddol ar gael ar ein gwefan.
