Neidio i'r prif gynnwy

Map Rhanbarthau TB Cymru yn dangos plwyfi, unedau gofodol ac Ardaloedd TB ledled Cymru a gynhelir ar Fap Data Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwnaethom sefydlu’r rhaglen dileu TB, gyda nod hirdymor o ddileu TB mewn gwartheg. Ers 1 Hydref 2017, mae Ardaloedd TB wedi dangos statws y clefyd ar draws daliadau mewn ardal ddiffiniedig. Mae'r ardaloedd Isel, Canolradd ac Uchel yn gyfuniad o unedau gofodol, sy'n cynnwys plwyfi. Mae'r unedau gofodol yn cyd-fynd â'r system CPH ac mae pob un yn cynnwys nifer debyg o fuchesi. Nid yw newidiadau i ffiniau awdurdodau lleol yn effeithio ar y dull hwn. Mae’n hyblyg hefyd i gyd-fynd â sefyllfa'r clefyd. Byddwn yn olrhain sefyllfa’r clefyd yn yr ardaloedd, ac yn adolygu'r unedau gofodol yn rheolaidd.

Mae'r map hwn yn dangos ffiniau cyfredol yr Ardal Digwyddiad TB ar 1 Tachwedd 2021. Ar 1 Tachwedd 2021 cafodd unedau gofodol CL1, CL2 a GW1 eu hailddosbarthu dros dro fel rhan o'r Ardal TB Ganolradd y Gogledd (ITBAN) o'r Ardal TB Isel. Mae hyn yn wahanol i fapiau a gyhoeddwyd cyn y dyddiad hwn. Mae hefyd yn wahanol i'r dangosfwrdd diweddaraf (Ch2 2021) a gyhoeddwyd gyda data hyd at 30 Mehefin 2021. Bydd dangosfwrdd Ch4 2021 yn cynnwys ailddosbarthu'r unedau gofodol hyn. Bydd hefyd yn cynnwys y data ar gyfer y cyfnod o 1 Tachwedd 2021 pan gafodd yr unedau gofodol eu hailddosbarthu.

Map Rhanbarthau TB Cymru

Canllawiau

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar sut i ddefnyddio’r map:
Map Rhanbarthau TB Cymru: canllawiau