Sut i ddefnyddio mapiau Cyfyngiadau Sectorau Cynllunio Morol a ble i ddod o hyd iddynt.
Dogfennau
Mapiau Cyfyngiadau Sectorau Cynllunio Morol: canllawiau dechrau cyflym , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 510 KB
Manylion
Mae'r mapiau hyn yn dangos y cyfyngiadau caled sy'n atal datblygiad newydd i sector o fewn ardal Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru.
Maen nhw hefyd yn dangos cyfyngiadau meddal a allai arwain at oblygiadau i unrhyw ddatblygiad o sector yn y dyfodol.
Bydd y canllawiau dechrau cyflym yn eich tywys trwy nodweddion allweddol y mapiau i'ch helpu i ddechrau arni.
Mae'r mapiau i'w gweld ar Map Data Cymru:
Cyfyngiadau Dyframaethu Dwygragennog Gwely'r Môr
Cyfyngiadau Dyframaethu Dwygragennog Crog
Cyfyngiadau Dyframaethu Gwymon Crog
Cyfyngiadau Ynni Amrediad Llanw
Cyfyngiadau Ynni Ffrwd Lanw Gwely'r Môr
Cyfyngiadau Ynni Ffrwd Lanw Arwyneb-Canol
Cyfyngiadau Ynni'r Tonnau Gwely'r Môr
