Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddyd i awdurdodau lleol

Cyfarwyddyd o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i ddiwygio’r amserlen ar gyfer cyflwyno mapiau rhwydwaith integredig (gyda newid canlyniadol i’r dyddiad ar gyfer cyflwyno mapiau pellach o lwybrau presennol) (LlC23-50)

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

I bob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru

Cyfarwyddyd sy'n diwygio amserlenni ar gyfer ailgyflwyno mapiau llwybrau presennol a mapiau rhwydwaith integredig, a elwir bellach yn fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol

Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 4(10) o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”), yn gwneud y Cyfarwyddyd a ganlyn.

Y cefndir statudol

Mae adran 3(10) o'r Ddeddf yn darparu unwaith y bydd map llwybrau presennol a lunnir gan awdurdod lleol wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru: 

  1. rhaid i’r awdurdod lleol ei adolygu’n barhaus,
  2. caiff yr awdurdod lleol ei ddiwygio, a
  3. rhaid i’r awdurdod lleol ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ar bob achlysur y caiff map rhwydwaith integredig yr awdurdod lleol ei gyflwyno i’w gymeradwyo o dan adran 4.

Mae adran 4(1) o'r Ddeddf yn darparu bod yn rhaid i bob awdurdod lleol:

  1. lunio map rhwydwaith integredig, ac
  2. ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo. 

Mae adran 4(9) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno rhifyn nesaf y map rhwydwaith integredig o fewn cyfnod o dair blynedd ar ôl diwrnod y rhifyn a gymeradwywyd yn flaenorol.

Fodd bynnag, caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir o dan adran 4(10) o'r Ddeddf bennu cyfnod gwahanol.

O dan gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru cyflwynwyd rhifyn cyntaf y mapiau llwybrau presennol ar 22 Ionawr 2016, a'r mapiau rhwydwaith integredig cyntaf ar 03 Tachwedd 2017. Cyflwynwyd yr ail rifyn o'r mapiau llwybrau presennol a'r mapiau rhwydwaith integredig, a gyfunwyd yn Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol yng ngoleuni Canllawiau Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru 2021, ar 31 Rhagfyr 2021, gyda saith awdurdod lleol yn cael cyfarwyddyd i gyflwyno ar ôl cyfnod estynedig.

O ganlyniad i adolygiad o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 mae'r Bwrdd Teithio Llesol a'r Grŵp Trawsbleidiol ar y Ddeddf Teithio Llesol wedi argymell cynyddu'r cylch ar gyfer cyflwyniadau yn y dyfodol o dair i bum mlynedd. Mae Gweinidogion Cymru yn cytuno ei bod yn briodol ymestyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno'r rownd nesaf o fapiau rhwydwaith integredig a mapiau llwybrau presennol wedi'u diweddaru, a elwir gyda'i gilydd yn Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol. Felly, maent yn gwneud y Cyfarwyddyd canlynol. 

Y Cyfarwyddyd

Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt o dan adran 4(10) o'r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo bod yn rhaid i'r map rhwydwaith integredig y mae'n rhaid i bob awdurdod lleol ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo o dan adran 4(9) (c) o'r Ddeddf gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo erbyn 1 Rhagfyr 2026. Pan fyddant yn cyflwyno eu mapiau rhwydwaith integredig i'w cymeradwyo erbyn y dyddiad hwn, rhaid i bob awdurdod lleol gyflwyno ar yr un pryd y map llwybrau presennol i Weinidogion Cymru i'w cymeradwyo fel sy'n ofynnol o dan adran 3(10)(c) o'r Ddeddf.

Llofnodwyd gan Lee Waters AS,
Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, 
ar ran Gweinidogion Cymru

Date: 23 Tachwedd 2023