Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymarfer i fapio lleoliadau cerdd lleol er mwyn gwella'r gefnogaeth i'r diwydiant cerdd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r lleoliadau hyn yn ganolfannau lleol pwysig ar gyfer talentau cerddorol gan gynnig llwybr gwych i feithrin a datblygu creadigrwydd cerddorion a pherfformwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu talentau'r diwydiant cerdd ac mae'n poeni bod cymaint o leoliadau'n dirywio ac yn cau.

Mae cau canolfan yn fater cymhleth a gall lleoliad wynebu cymysgedd o broblemau gydag asiantaethau gwahanol fel awdurdodau lleol, asiantaethau gorfodi'r gyfraith a sefydliadau cefnogi busnesau yn ogystal â'r llywodraeth, yn gyfrifol amdano.

Bydd yr ymarfer mapio yn: 

  • Penderfynu ar ddiffiniad o 'leoliad cerdd lleol' sy'n seiliedig ar ddiffiniad y Music Venue Trust ond sydd wedi'i addasu i sefyllfa Cymru;
  • Paratoi map o leoliadau cerdd lleol ledled Cymru, gan gofnodi gwybodaeth am bob lleoliad; a 
  • Nodi clystyrau o leoliadau ac unrhyw nodweddion cyffredin. 

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Rydym am ei gwneud yn haws i bobl ddawnus ddatblygu gyrfaoedd hirdymor yn y diwydiant cerdd yng Nghymru. Mae rhan o hynny'n golygu helpu lleoliadau cerdd lleol i'w cadw ar agor.

"Mae prinder lleoliadau ar gyfer cynnal cerddoriaeth fyw yn bygwth y llwybr magu talent yng Nghymru. Rydyn ni'n gwybod am lawer o'r problemau sy'n eu hwynebu ar draws y wlad a byddwn yn dal i chwilio am ffyrdd i gydweithio â'r sector i'w datrys.

"Rhaid i unrhyw benderfyniad ynghylch sut i gefnogi'r rhan hon o'r diwydiannau creadigol fod yn seiliedig ar dystiolaeth gywir a chyfoes ac i'r perwyl hwnnw, rydyn ni wedi comisiynu tîm profiadol iawn o Landsker i greu map o leoliadau cerdd lleol ledled Cymru.