Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad i’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ac aseswyr

Mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (y cyfeirir ato er mwyn hwyluso darllen y ddogfen hon fel ‘y Marc Ansawdd’) yn adnodd unigryw ar gyfer hunanasesu, cynllunio gwelliant ac ennill Marc Ansawdd ar gyfer gwaith ieuenctid. Mae wedi’i rannu’n dair lefel – Efydd, Arian ac Aur.

Er mwyn asesu’n allanol sefydliad sy’n ymgeisio am y Marc Ansawdd yn erbyn safonau ansawdd y tair lefel, mae cronfa o aseswyr – y mae rhai ohonynt yn aseswyr arweiniol. Y gwahaniaeth rhwng asesydd ac asesydd arweiniol yw’r amser mae asesydd wedi bod yn gysylltiedig â’r broses, yr hyfforddiant a gawsant a gwerthusiad o’u parodrwydd i fod yn asesydd arweiniol, ynghyd â pha mor barod ydynt i ymgymryd â’r rôl hon. Nid pob asesydd a ddaw’n asesydd arweiniol, ac er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y Marc Ansawdd, mae angen aseswyr ar y ddwy lefel.

Mae aseswyr wedi cael eu recriwtio a byddant yn parhau i gael eu recriwtio o blith sefydliadau ar draws y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru. Bydd pob asesydd yn derbyn hyfforddiant priodol i sicrhau eu bod yn deall y Marc Ansawdd yn llawn ond hefyd eu bod yn deall eu rôl yn llawn wrth ymgymryd ag asesiadau ac yn gallu cydymffurfio â gofynion y rôl. Trafodir hyn yn fanylach yn ddiweddarach yn y ddogfen hon.

Bydd y contractiwr yn gweithio gydag aseswyr a’r contractiwr fydd yn gyfrifol am sicrhau bod aseswyr priodol yn cael eu neilltuo i sefydliadau sy’n cael eu hasesu, a hefyd am sicrhau ansawdd y gwaith y byddant yn ei wneud.

Rhagwelir y gofynnir i bob sefydliad sy’n ymgysylltu â phroses y Marc Ansawdd a fyddant am gynnig asesydd i gefnogi eraill drwy’r broses y maent eisoes wedi bod drwyddi. Gall hyn fod o fudd sylweddol i’r unigolyn o ran ei ddatblygiad personol ac i sefydliad am y bydd yn ei alluogi i ddysgu o ymarfer da eraill yn y sector.

Rôl yr asesydd

Mae dwy lefel o aseswyr – asesydd ac asesydd arweiniol.

Asesydd

Rôl yr asesydd yw gweithio’n rhan o dîm asesu (grŵp bach o aseswyr a gaiff ei gynull gan y contractiwr a’i arwain gan asesydd arweiniol) i ystyried yr wybodaeth a’r dystiolaeth a ddarperir gan sefydliad sy’n dymuno ymgeisio am Farc Ansawdd ar unrhyw un o’r tair lefel.

Yn ogystal, rôl yr asesydd yw bod yn gyfaill critigol sy’n gefnogol i’r sefydliad, ac sy’n gallu cynnig ei fewnwelediad, ei adborth ac awgrymiadau mewn ffordd empathetig, gyda golwg ar gynyddu sgiliau a gwybodaeth y sefydliad. Nid rôl arolygydd dros y darparydd mohoni.

Bydd gan aseswyr brofiad sydd wedi’i dynnu o amrywiol rolau ym maes gwaith ieuenctid, er enghraifft rheolaeth strategol a gweithredol, arweinydd datblygu’r sector gwirfoddol, goruchwylydd, academaidd. Bydd yn brofiadol ym mhroses y Marc Ansawdd ac mewn asesu, a monitro a gwerthuso.

Mae sawl llwybr y gall asesydd ei ddilyn i gyrraedd y rôl hon. 

  • Caiff aseswyr eu tynnu o gronfa ehangach o brofiad. Yn ddelfrydol, byddant yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid fel isafswm, o leiaf bum mlynedd o brofiad mewn maes arbenigedd penodol neu brofiad cyffredinol ehangach o weithio gyda phobl ifanc ac o ddarparu gwaith ieuenctid. Gallai fod ganddynt brofiad o broses y Marc Ansawdd ond byddant yn derbyn hyfforddiant mewn asesu a hyfforddiant ‘yn y gwaith’ tra’n cymryd rhan mewn asesiadau byw.
  • Bydd gan aseswyr brofiad sylweddol o weithio gyda phobl ifanc mewn swydd broffesiynol neu ddisgyblaeth arall ac yn meddu ar gymhwyster proffesiynol, er enghraifft cyfiawnder ieuenctid, addysgu, tai, eiriolaeth neu gymorth lles. Byddant yn meddu ar y nodweddion a’r rhinweddau angenrheidiol sy’n ofynnol i fod yn asesydd ond nid Cymhwyster Gwaith Ieuenctid cydnabyddedig.
  • Gall aseswyr fod yn fyfyrwyr Lefel 5 neu 6 sy’n defnyddio’r Marc Ansawdd i gynorthwyo’u dysgu ar gyfer cwrs gradd cysylltiedig â gwaith ieuenctid. Byddent yn mynychu asesiadau i arsylwi ac at ddibenion dysgu ac ymarfer myfyriol yn unig.

Aseswyr arweiniol

Caiff aseswyr arweiniol eu tynnu o blith cronfa o aseswyr cyfredol. Byddant yn meddu ar nodweddion arweinyddiaeth ychwanegol a chymhwyster Lefel 6 mewn Gwaith Ieuenctid neu gymhwyster cyfatebol.

Yn ogystal â rôl asesydd, bydd gan asesydd arweiniol brofiad o ymgymryd ag Asesiadau Marc Ansawdd fel asesydd, a bydd yn meddu ar allu a chapasiti digonol i:

  • ddarparu’r sgiliau arwain i ymgymryd â’r cyfrifoldebau ychwanegol i gydlynu’r tîm asesu
  • cysylltu ag ymgeiswyr am asesiad Marc Ansawdd
  • llywio a darparu cyngor i aseswyr newydd yn rhan o hyfforddiant yn y gwaith

Mae aseswyr arweiniol yn hollbwysig wrth gynnal a chydlynu’r asesiad. Byddant yn cysylltu â’r sefydliad sy’n ymgeisio ac yn ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol sy’n cynnwys:

  • datblygu amserlen ar gyfer yr asesiadau
  • casglu tystiolaeth ychwanegol os bydd ei hangen
  • sicrhau bod aseswyr eraill yn y tîm asesu’n ymwybodol o’u rolau ac yn ateb gofynion y rôl honno
  • nodi os oes gwybodaeth ddigonol yn rhan o’r asesiad
  • llunio adroddiad ar gyfer y contractiwr i seilio’r argymhelliad i ddyfarnu’r Marc Ansawdd arno

Pa broses bydd aseswyr yn ei dilyn?

Caiff tîm o aseswyr ei neilltuo gan y contractiwr pan fydd sefydliadau sy’n ymgeisio am y Marc Ansawdd yn barod am eu hasesiad allanol. Cyn i unrhyw arolygiad ddechrau, bydd aseswyr arweiniol yn cael mynediad i’r holl dystiolaeth sydd ei hangen ar y tîm asesu i sefydlu llinellau ymholi cychwynnol. Drwy drafodaeth, byddant yn nodi’r materion allweddol sy’n wynebu sefydliad i gyfeirio aelodau’r tîm asesu at dystiolaeth bellach, lle mae angen hyn. Mae disgwyl i’r holl aseswyr ddilyn y cod ymddygiad ar gyfer Asesiadau’r Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid a ddangosir isod, a disgwylir i’r tîm asesu weithredu gydag urddas a pharch bob amser wrth ymgymryd â’r asesiad, a chânt eu trin yn yr un modd gan y sefydliad sy’n cael ei asesu.

Bydd aseswyr yn gweithio drwy’r holl wybodaeth ofynnol a gyflwynir gan sefydliad y mae ei hangen er mwyn ateb lefel benodol y Marc Ansawdd yr ymgeisir amdani, ac yn paratoi adroddiad terfynol i’r contractiwr ei ystyried cyn anfon ei argymhelliad i ddyfarnu’r Marc Ansawdd at Lywodraeth Cymru.

Mae rôl yr asesydd, yn arbennig yr asesydd arweiniol, yn drwm ac mae'n gofyn iddynt arddel y gwrthrychedd sy'n hanfodol i broses asesu. Bydd gofyn hefyd i aseswyr barchu cyfrinachedd llwyr ynghylch yr holl drafodaethau asesu, a fydd yn cynnwys gwybodaeth fusnes sensitif.

Amcangyfrif o'r amser y bydd ei angen i ymgymryd ag asesiadau

Er y gallai amrywio gyda phob asesiad, rhagwelir mai'r amser y bydd ei angen i asesu lefel unigol o’r Marc Ansawdd yw:

  • 1 diwrnod ar gyfer adolygiad pen desg o'r dystiolaeth, datblygu a chyfathrebu cynllun ar gyfer yr ymweliad asesu
  • 1 diwrnod ar gyfer ymweliad asesu
  • 0.25 i 0.5 diwrnod i gynhyrchu adroddiad byr ar ganlyniad yr asesiad
  • 0.25 i 0.5 diwrnod i fynychu cyfarfod o'r panel cymedroli
  • 0.5 diwrnod os bydd angen ymweliad asesu dilynol

Cod ymddygiad ar gyfer aseswyr

Disgwylir y bydd aseswyr yn ymddwyn mewn modd priodol wrth ymgymryd â rôl asesydd. Bydd yr wybodaeth ganlynol yn cynorthwyo aseswyr i gyflawni eu rôl yn llwyddiannus.

  • Dylai aseswyr fod yn gwrtais ac yn broffesiynol, gan gofio tra’n gweithio gydag ymgeiswyr am y Marc Ansawdd eu bod yn cynrychioli proses y Marc Ansawdd a Llywodraeth Cymru.
  • Mae’n rhaid i aseswyr gyflawni eu rôl asesu mewn modd cefnogol, agored a gonest.
  • Mae’n rhaid i aseswyr sicrhau eu bod yn trin tystiolaeth gyda pharch a chyfrinachedd priodol.
  • Mae’n rhaid i aseswyr gadw deialog bwrpasol gyda phob un sy’n gysylltiedig â’r asesiad ac adrodd mewn modd gonest, teg a dibynadwy.
  • Mae angen i aseswyr arsylwi ymarfer gwaith ieuenctid a siarad â staff, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill, ac ymdrin â’r ymgysylltiad hwn gyda pharch a sensitifrwydd.
  • Mae’n rhaid i aseswyr dynnu unrhyw bryderon am yr asesiad (bod hynny drwy gysylltiad digidol neu ar ymweliad ymarferol) at sylw’r asesydd arweiniol a’r prif gyswllt yn y sefydliad mewn modd amserol ac addas, er enghraifft os datgelir mater diogelu difrifol neu os bydd mater iechyd a diogelwch yn codi.

Dylai aseswyr hefyd fod yn sicr nad oes unrhyw achosion o wrthdaro wrth ymgymryd â’r asesiad ar gyfer sefydliad. Os bydd unrhyw wrthdaro’n codi, dylid adrodd amdanynt yn syth naill ai at yr asesydd arweiniol neu’r contractiwr.

Ymgeisio i fod yn asesydd

Os ydych yn ystyried ymgeisio i fod yn asesydd, mae’r wybodaeth isod yn darparu manylion ychwanegol ynghylch yr hyn y bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth ohono yn eich cais. Mae manylion am sut a phryd gallwch ymgeisio ar gael gan y contractiwr, a gallwch hefyd fynegi diddordeb mewn rowndiau recriwtio yn y dyfodol.

Gwybodaeth

Bydd aseswyr yn meddu ar wybodaeth gadarn o’r canlynol:

  • y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru ac ystod y sefydliadau sy’n darparu gwaith ieuenctid
  • polisïau, strategaethau, mentrau a chanllawiau sy'n ategu gwaith ieuenctid yng Nghymru
  • y gwahanol leoliadau lle mae gwaith ieuenctid yn digwydd
  • theori, diben ac ymarfer gwaith ieuenctid
  • systemau a phrosesau sicrhau ansawdd
  • systemau a phrosesau rheoli perfformiad
  • llwybrau datblygu’r gweithlu a chymwysterau

Sgiliau a galluoedd

Mae’n hanfodol bod aseswyr yn meddu ar y sgiliau a’r galluoedd canlynol i:

  • ddehongli a chymhwyso’r safonau ansawdd a’r dangosyddion ar gyfer y tair lefel
  • adolygu a gwerthuso ystod eang o wybodaeth gan gynnwys polisïau a chanllawiau, data ystadegol, adroddiadau, adborth gan randdeiliaid, a chynnyrch o'r gweithle, er enghraifft tystiolaeth o gynllunio a gwerthuso
  • gwerthuso effeithiolrwydd dulliau sefydliad o asesu ei ansawdd, ei berfformiad, ei effaith a'i gosteffeithiolrwydd, drwy ddadansoddi a dehongli data a gwybodaeth
  • asesu ansawdd ac effaith ymwneud pobl ifanc â gwaith cynllunio, gwerthuso a gwneud penderfyniadau
  • dehongli tystiolaeth o ddysgu, cyflawniad a chynnydd pobl ifanc o ganlyniad i'w cyfranogiad mewn gwaith ieuenctid
  • asesu polisïau, cynlluniau ac ymarfer gyda'r nod o hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • cyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys pobl ifanc, staff, gwirfoddolwyr, arweinwyr strategol, ymddiriedolwyr ac aelodau etholedig
  • cyfathrebu'n effeithiol yn ysgrifenedig a chynhyrchu adroddiadau cryno ar ganlyniad prosesau asesu
  • bod yn ddiduedd wrth adolygu ac asesu tystiolaeth
  • bod yn agored i her a ffyrdd newydd o weithio
  • gweithio’n unol ag amserlenni a therfynau amser tynn

Sgiliau Cymraeg

Mae gofyn sgiliau Cymraeg yn y tîm aseswyr, ond nid oes gofyn i bob un o’r aseswyr a benodir feddu ar y sgiliau hyn. Y sgiliau Cymraeg gofynnol yw:

  • darllen: y gallu i ddarllen deunydd yn gysylltiedig â gwaith
  • siarad: y gallu i siarad yn rhugl mewn sefyllfaoedd o bob math yn gysylltiedig â gwaith
  • deall: y gallu i ddeall pob sgwrs yn gysylltiedig â gwaith
  • ysgrifennu: y gallu i baratoi gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg

Profiad

Bydd aseswyr yn meddu ar brofiad o’r canlynol:

  • gweithio mewn ystod o gyd-destunau gwaith ieuenctid
  • cynorthwyo, rheoli neu ddarparu gwaith ieuenctid
  • dadansoddi a dehongli data a gwybodaeth
  • asesu ansawdd a pherfformiad mewn lleoliadau gwaith ieuenctid
  • rheoli a gwerthuso gwaith ieuenctid
  • cymhwyso prosesau a systemau sicrhau ansawdd

Tasgau a chyfrifoldebau

Ymhlith tasgau a chyfrifoldebau allweddol asesydd mae’r canlynol:

  • gwerthuso ystod o dystiolaeth a gyflwynir gan sefydliadau sy'n ymgeisio am y Marc Ansawdd drwy:
    • adolygiad pen desg o dystiolaeth ddogfennol
    • cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid gan gynnwys pobl ifanc, y gellid eu cynnal yn rhithwir neu wyneb yn wyneb
  • ymweliadau â darpariaeth
  • asesu addasrwydd sefydliad i dderbyn y Marc Ansawdd yn erbyn y safonau ansawdd a’r dangosyddion ar gyfer y tair lefel
  • datblygu cynllun ar gyfer yr ymweliad asesu ar sail canfyddiadau'r adolygiad pen desg, a chyfathrebu a chytuno ar gynllun gyda'r sefydliad sy'n cael ei asesu
  • cadw cofnodion o'r dystiolaeth sydd wedi'i hadolygu
  • cynnal cyfweliadau asesu, y gellid eu cynnal drwy ddulliau digidol neu wyneb yn wyneb, a gallai cyfweliadau gynnwys:
    • cyfarfodydd â phobl allweddol yn y sefydliad
    • cyfarfodydd â rhanddeiliaid gan gynnwys pobl ifanc
    • ymweliadau byr â darpariaeth y sefydliad
    • adborth ysgrifenedig i'r sefydliad ar ddiwedd ymweliad
  • cadw cofnodion o gyfarfodydd ac ymweliadau i arsylwi darpariaeth
  • cynhyrchu adroddiad asesu cryno sy'n nodi canlyniad yr ymweliad ac yn cyflwyno argymhelliad i'r corff dyfarnu
  • cadw dulliau cyfathrebu ar waith gyda'r contractiwr a'r corff dyfarnu a'r sefydliad sy'n ymgeisio am y Marc Ansawdd
  • nodi materion wrth iddynt godi a chymryd camau i'w datrys
  • ymwneud â'r broses apeliadau lle y bo'n briodol
  • mynychu o leiaf ddau ddigwyddiad hyfforddi a dau asesiad bob blwyddyn

Camau nesaf

Os oes diddordeb gennych mewn bod yn asesydd neu os hoffech wybod mwy am y rôl, dylech gysylltu â’r contractiwr yn y lle cyntaf. Os nad ydych wedi derbyn yr wybodaeth hon yn uniongyrchol gan y contractiwr, gallwch gysylltu â Llywodraeth Cymru a fydd yn sicrhau bod eich manylion yn cael eu trosglwyddo, drwy gwaithieuenctid@llyw.cymru.