Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r achosion presennol o Ffliw Adar yn cael effaith sylweddol ar lawer o ffermwyr a cheidwaid dofednod yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno, er Rheoliadau'r UE a ddargedwir 1308/2013 a 543/200, y gellir gwerthu tyrcïod, yn gyfan a choronau, gwyddau a hwyaid sydd wedi cael eu dadrewi, am gyfnod dros dro.

Mae effaith cynnig o'r fath yn golygu bod gan gynhyrchwyr a phroseswyr yr opsiwn o ladd eu hadar yn gynnar i leihau'r risg o Ffliw Adar rhwng nawr a'r adeg lladd arferol. Wedyn gellid rhewi a storio adar ac, yn nes ymlaen, eu dadrewi i'w gwerthu yn barod am y Nadolig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i hyn ar sail y canlynol:

  • Bydd y dull hwn yn berthnasol i dyrcïod cyfan a choronau, hwyaid, gwyddau a chapryniaid, yn ogystal â thyrcïod cyfan neu goronau, gwyddau a hwyaid a phrydau rhost 2-3 adar (y ‘cynhyrchion’) wedi'u stwffio. Nid yw unrhyw gynhyrchion dofednod eraill, fel cyw iâr neu gynhyrchion wedi'u prosesu wedi'u cynnwys.)
  • Gellir rhewi adar a laddir yn gynnar, ac wedyn eu dadrewi i'w gwerthu i ddefnyddwyr rhwng 28 Tachwedd a 31 Rhagfyr 2022 yn unig. Ni ddylai unrhyw gynnyrch dan sylw gael ei werthu ar ôl y dyddiad hwn, a bydd rhoi 31 Rhagfyr yn ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn sicrhau hyn.
  • Rhaid labelu'r cynhyrchion hyn yn unol â rheoliadau labelu bwyd (yn benodol Rheoliad yr UE a ddargedwir 1169/2011 (Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr) Atodiad VI mewn perthynas a chynnwys y dynodiad ‘wedi'i ddadrewi’. Yn ogystal, rhaid i'r dynodiad 'wedi'i ddadrewi’ bod mewn lle amlwg ar flaen y pecyn, i sicrhau bod y cwsmer yn ei weld.
  • Lle bo hynny'n briodol, rhaid bod arwyddion priodol yn y siop a gwybodaeth ar-lein i gwsmeriaid. Rhaid i'r wybodaeth mae'n ofynnol ei rhoi i gwsmeriaid, gan gynnwys gwybodaeth am storio a chanllawiau defnyddio, bob amser adlewyrchu arferion gorau’r diwydiant.

Barn y Llywodraeth yw nad yw'r hyblygrwydd a geisir ynddo ei hun yn peri unrhyw risg uwch i ddiogelwch defnyddwyr, ar yr amodau canlynol, yn unol â chyfraith bwyd:

  • bod y diwydiant yn rhewi ac yn dadrewi'r cynnyrch o dan amodau addas;
  • bod yr amodau hyn yn cael eu monitro;
  • bod mesurau ar waith i sicrhau bod unrhyw gynnyrch a werthir dan y   disgrifiad wedi'i oeri wedi cael ei ddadrewi yn llwyr;
  • bod yr oes silff ar gyfer unrhyw gynnyrch yn briodol.

Nid yw'r penderfyniad i ganiatáu hyblygrwydd dros dro yn golygu bod y gyfraith wedi newid.

Dylai masnachwyr sydd am ddefnyddio'r hawddfraint hon ymgynghori â'u Swyddog Safonau Masnach neu Awdurdod Sylfaenol wrth wneud y newidiadau hyn i'w gweithrediadau

Mae Swyddogion Safonau Masnach yng Nghymru wedi cael eu hysbysu am yr uchod a gofynnwyd iddynt weithredu mewn ffordd gymesur ac ar sail risg o dan yr amgylchiadau presennol.

Cytunwyd ar y safbwynt polisi hwn ar gyfer Cymru. Mae DEFRA wedi cadarnhau ac wedi cyhoeddi mai dyma eu safbwynt nhw ar gyfer Lloegr. Mae Llywodraeth yr Alban yn ystyried y mater, gyda'r bwriad o gyhoeddi eu penderfyniad cyn bo hir. Ni fydd yr hyblygrwydd ar gael ar gyfer gwerthu'r cynhyrchion dan sylw yng Ngogledd Iwerddon oherwydd Protocol Gogledd Iwerddon.