Neidio i'r prif gynnwy
Mark Hooper AS

Cyfrifoldebau'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth

Cyfrifoldebau

  • Polisi trafnidiaeth
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Ffyrdd, gan gynnwys adeiladu, gwella a chynnal y traffyrdd a'r cefnffyrdd
  • Gwasanaethau bysiau
  • Gwasanaethau rheilffyrdd drwy fasnachfraint Cymru a'r Gororau
  • Y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd
  • Teithio llesol
  • Polisi hedfanaeth
  • Polisi porthladdoedd
  • Diogelwch ar y ffyrdd; llwybrau mwy diogel i'r ysgol; cludiant ar gyfer plant a phobl ifanc; rheoleiddio croesfannau i gerddwyr a pharcio ar y stryd

Bywgraffiad

Hanes personol

Gwleidydd Plaid Cymru a dyn busnes yw Mark Hooper.

Cefndir proffesiynol

Yn 2016, fe wnaeth sefydlu IndyCube, cwmni buddiannau cymunedol sy'n gweithredu mannau cydweithio yng Nghymru.

Mae’n rhan o'r prosiect i greu Banc Cambria, banc cymunedol arfaethedig i Gymru, ac yn gwasanaethu fel aelod o fwrdd y sefydliad.  Mae hefyd yn gweithio i Ynni Cymunedol Cymru fel Rheolwr Datblygu Busnes.

Hanes gwleidyddol

Mae Mark Hooper wedi gwasanaethu fel cynghorydd ar gyfer ward Baruc ar Gyngor Bro Morgannwg ers mis Mai 2022. Cyn hynny, gwasanaethodd fel cynghorydd ar gyfer ward Buttrills ar Gyngor Tref y Barri rhwng 2017 a 2022.

Bu’n gweithio fel Cynghorydd Arbennig rhan-amser i Lywodraeth Cymru o 25 Medi 2023 hyd at ymddiswyddiad Mark Drakeford fel Prif Weinidog ym mis Mawrth 2024.

Yn etholiad y Senedd yn 2026, cafodd ei ethol yn AS, yn cynrychioli etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwg. Ar 13 Mai 2026 penodwyd Mark Hooper yn Ddirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth.

Ysgrifennu at Mark Hooper