Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei wneud a pham?

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i Weinidogion Cymru wneud deddfwriaeth at ddibenion diogelu bioddiogelwch drwy sicrhau bod categorïau plâu a'r gofynion o ran lleoedd cynhyrchu yn gyfredol ac yn gyson â datblygiadau o ran asesu risg. 

Bydd Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunydd Lluosogi (Cymru) (Diwygio) 2025 ("Rheoliadau 2025") yn diwygio Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunydd Lluosogi (Cymru) 2017 ("Rheoliadau 2017") mewn perthynas â gofynion o ran archwiliadau, profion a safleoedd cynhyrchu ar gyfer Plâu Rheoledig di-Gwarantîn (RNQPs) penodol. 

Mae'r diwygiadau hyn yn cyd-fynd â'r newidiadau a wnaed gan yr Undeb Ewropeaidd i Gyfarwyddeb Weithredu'r Comisiwn 2014/98/EU a Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 2019/2072. Bydd y Rheoliadau drwy hynny'n cynnal cyfwerthedd â'r UE ar gyfer marchnata planhigion ffrwythau a deunydd lluosogi ffrwythau. Maent hefyd yn cyd-fynd â deddfwriaeth gyfatebol sy'n cael ei chyflwyno yn yr Alban a Lloegr.

Mae Plâu Rheoledig di-Gwarantîn (RNQPs) yn blâu planhigion sy'n bresennol mewn gwlad ond nad ydynt yn dod o dan fesurau cwarantîn. Gall eu presenoldeb ar blanhigion y bwriedir eu plannu achosi effeithiau economaidd annerbyniol. Rheoleiddir felly bresenoldeb RNQPs ar blanhigion lletya sy'n blanhigion domestig i'w plannu a phlanhigion wedi'u mewnforio, hynny i leihau eu heffaith bosibl, boed hynny trwy drin poblogaethau ym Mhrydain Fawr neu wrthod mynediad i blanhigion wedi'u heintio sy'n cael eu mewnforio.

Ar hyn o bryd mae Rheoliadau 2017 yn rheoli ansawdd planhigion ffrwythau (ar gyfer cynhyrchu ffrwythau) a deunydd lluosogi ffrwythau ar y farchnad. Gwnânt hyn trwy osod safonau cynhyrchu ar gyfer y deunydd hynny i sicrhau eu bod yn bodloni safonau gofynnol o ran iechyd ac ansawdd planhigion yn ogystal â safonau adnabod amrywogaethau lle bo hynny'n briodol. 

Bydd y ddeddfwriaeth yn ychwanegu profion a gofynion cysylltiedig ar gyfer tri RNPQ newydd (Feirws Crwn Tybaco - Tobacco Ringspot (ToRSV), Feirws Crwn Tomatos - Tomato Ringspot (TRSV) a Pucciniastrum minimum (cawod goch llus) a bydd yn dileu'r Fig Mosaic Agency a Candidatus Phytoplasma australiense fel RNQPs. Mae hefyd yn addasu gofynion o ran safleoedd cynhyrchu ar gyfer Candidatus Phytoplasma pyri (pear decline phytoplasma) i'w gwneud yn gyson â phlâu tebyg eraill. Mae hefyd yn gwneud nifer o fân ddiwygiadau i wneud y Rheoliadau'n fwy eglur. 

Cyflenwyr ffrwythau

Caiff cyflenwr farchnata deunydd planhigion o'r fath dim ond os yw'r cyflenwr wedi'i gofrestru a bod y deunydd planhigion yn bodloni safonau amrywiol gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud ag ansawdd ac iechyd planhigion. 

Yng Nghymru a Lloegr, mae'r Cynllun Ardystio Lluosogi Ffrwythau (FPCS) Cynllun Ardystio Lluosogi Ffrwythau - GOV.UK yn gweithredu gofynion Rheoliadau 2017 mewn perthynas ag is-set o'r genera a rhywogaethau planhigion ffrwythau a gwmpesir gan y Rheoliadau gan gynnwys:

  • ffrwythau meddal – pob rhywogaeth o fefus (Fragaria), mwyar, mafon ac aeron hybrid (Rubus), cyrens du, coch a gwyn, eirin Mair (Ribes) a llus, llugaeron a llus America (Vaccinium)
  • ffrwythau coed – afalau (Malus), pob gellyg bwyta, gan gynnwys gellyg perai (Pyrus), eirin, ceirios sur, ceirios melys (Prunus) a chwins (Cydonia)
  • gwreiddgyff a mathau addurnol o ffrwythau coed
  • deunydd micro-luosogi o unrhyw un o'r cnydau uchod

Rhaid i linach yr holl ddeunydd a ychwanegir at y cynllun fod yn hysbys a rhaid eu tyfu o dan amodau penodol o ran safle a'u hynysu oddi wrth gnydau eraill. Ychwanegir cnydau at y cynllun i gynhyrchu gradd benodol ac fel arfer, byddant yn cael eu hardystio ar y radd honno. Y graddau yw: Cyn-sylfaenol, Sylfaenol ac Ardystiedig. Mae'r deunydd sydd o'r radd uchaf (cyn-sylfaenol a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer lluosogi) yn cael ei gynhyrchu o dan amodau llym iawn. Yna mae'n cael ei luosi trwy wahanol raddau nes ei fod ar gael i'w ddefnyddio gan dyfwyr masnachol. Mae ardystiedig yn cynrychioli gradd y planhigion y gellir eu gwerthu ar gyfer cynhyrchu ffrwythau. Bydd cnwd ffrwythau yn cael ei archwilio o leiaf unwaith y flwyddyn gan Arolygydd Iechyd Planhigion a Hadau APHA cymwysedig. Mae niferoedd ac amseriad archwiliadau'n amrywio yn ôl y categori o blanhigyn a lefel goddefiant gwahanol blâu a chlefydau. 

Yn ystod archwiliad, caiff deunydd planhigion ei archwilio'n weledol i gadarnhau naill ai nad oes pla neu glefydau perthnasol arno neu fod rhai plâu neu glefydau yn bresennol o dan lefelau goddefiant rhagnodedig, yn unol ag Atodiad I neu II Cyfarwyddeb 2014/98/EU. Lle bo angen, gellir cynnal gwaith samplu a phrofion labordy hefyd. I fod yn ddi-bla neu i fodloni'r lefelau goddefiant, efallai y bydd yn rhaid cael gwared ar blanhigion heintiedig a / neu eu trin yn fiolegol, ffisegol neu gemegol. Ambell waith, efallai y bydd angen dinistrio'r cnwd cyfan. Cyhoeddir manylion ardystio mewn cofrestr flynyddol a gynhyrchir gan APHA.

Er na all y cynllun warantu y bydd pob planhigyn sydd wedi'i ardystio yn gwbl rhydd o blâu a chlefydau, mae'r cynllun yn cynnig lefel werthfawr o sicrwydd ynghylch iechyd planhigion gan fod planhigion sydd o dan y cynllun yn cael eu tyfu o dan amodau llym. Mae hyn yn lleihau'r risg o gyflwyno plâu a chlefydau niweidiol i'r safle cynhyrchu ac yn sicrhau bod modd eu holrhain gan fodloni gofynion marchnata llym deunydd ardystiedig sy'n ddisgynyddion o stoc tarddiol sydd wedi'i brofi o ran iechyd ac egni. 

* Mae deunydd gradd Conformitas Agraria Communitatis (CAC), y safonau gofynnol y dylai unrhyw blanhigyn ffrwythau ar gyfer cynhyrchu ffrwythau eu bodloni yng Nghymru lle mae'n cael ei werthu, yn cael ei reoleiddio o dan Reoliadau 2017. Rhaid iddo hefyd fod yn rhydd i bob pwrpas o blâu a chlefydau penodol fel y bo'n briodol i'r genws neu'r rhywogaeth, ond y cyflenwr sy'n gyfrifol am gynnal archwiliadau gweledol a samplu a phrofi deunydd CAC. (Yn y paragraff hwn, ystyr "practically free"/ “rhydd i bob pwrpas” yw bod y graddau y mae plâu yn bresennol ar y deunyddiau lluosogi neu’r planhigion ffrwythau yn ddigon isel i sicrhau bod y deunyddiau lluosogi o ansawdd a defnyddioldeb derbyniol).

Tymor hir, atal, integreiddio, cydweithio a chynnwys

Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, bydd y diwygiadau a wneir i Reoliadau 2017 gan Reoliadau 2025 yn cynnal ac yn gwella'r amddiffyniad i ddeunydd planhigion rhag plâu planhigion ac yn gwneud y drefn arolygu deunydd lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau yn gyson â threfn gwledydd eraill y DU a'r UE. 

Cydweithio

Yn gynharach eleni, cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu dwyieithog ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban drwy e-bost. Anfonwyd yr e-bost at randdeiliaid sydd â diddordeb gan gynnwys arbenigwyr lluosogi ffrwythau a bridwyr a'r rheini mewn diwydiannau cysylltiedig ledled y DU. Ceisiodd yr ymgynghoriad farn ar gynnig i ddiwygio'r gofynion ar gyfer ardystio planhigion ffrwythau a deunydd lluosogi ffrwythau o dan y Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunydd Lluosogi perthnasol sy'n ymwneud â samplu a phrofi a'r gofynion ar gyfer safleoedd cynhyrchu, lleoedd cynhyrchu neu ardaloedd RNQPs penodol. Ni ddaeth unrhyw ymatebion i law. Hynny, fwy na thebyg am fod yr yr RNQPs hyn eisoes wedi'u hychwanegu at y gyfundrefn Iechyd Planhigion ac felly roedd y diwydiant wedi rhagweld y byddai'r diwygiadau cysylltiedig o ran safleoedd cynhyrchu, profion ac archwiliadau yn cael eu gwneud i'r ddeddfwriaeth marchnata ffrwythau.

Mae deddfwriaeth gyfatebol yn cael ei gwneud yn Lloegr a'r Alban i ddiwygio eu rheoliadau marchnata ffrwythau hwythau. Disgwylir i'r Rheoliadau yn Lloegr a'r Alban ddod i rym ar yr un dyddiad â Rheoliadau Cymru (7 Hydref 2025). Mae Gogledd Iwerddon eisoes yn ddarostyngedig i'r trefniadau hyn o dan gyfraith yr UE.

Section 8. Conclusion

Sut y mae pobl y bydd y cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt yn cael eu cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?

Cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu dwyieithog anffurfiol rhwng 7 Mawrth a 2 Mai 2025 yn gwahodd rhanddeiliaid i fynegi barn am y newidiadau arfaethedig i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunydd Lluosogi (Cymru) 2017. Roedd y rhanddeiliaid hyn yn cynnwys arbenigwyr lluosogi ffrwythau, bridwyr a chyrff cynrychioliadol o fewn y diwydiannau hynny yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. 

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Effeithiau o arwyddocâd

Mae'r newid hwn i ddeddfwriaeth o natur dechnegol sy'n ychwanegu gofynion ar gyfer rhai Plâu Rheoledig Di-Gwarantîn (RNQPs) ar blanhigion ffrwythau a deunydd lluosogi ffrwythau penodol o ran profion, archwiliadau a lleoedd cynhyrchu. Bydd hyn yn gwella mesurau bioddiogelwch sydd eisoes ar waith trwy ychwanegu gofynion i brofi am dri RNQP ychwanegol. Caiff deunyddiau perthnasol eu profi a'u harchwilio o dan y Cynllun Ardystio Lluosogi Ffrwythau. Ar hyn o bryd un busnes yng Nghymru sydd wedi'i gofrestru o dan y cynllun hwn. Bach felly fydd effeithiau'r ddeddfwriaeth. 

Effeithiau cadarnhaol

Bydd y Rheoliadau'n cyflwyno mesurau sy'n cyfateb i fesurau sy'n cael eu cyflwyno yn Lloegr a'r Alban ac i fesurau sydd wedi'u cyflwyno yn yr UE. Mae hyn yn golygu y bydd y rhai sy'n ymwneud â marchnata rhai planhigion ffrwythau a deunydd lluosogi ffrwythau yn gweithredu i'r un safonau 'di-bla' uchel ac ni fydd unrhyw rwystrau i fasnachu.  Er na all yr FPCS warantu y bydd pob planhigyn sydd wedi'i ardystio yn gwbl rhydd o blâu a chlefydau, mae'r cynllun yn cynnig lefel werthfawr o sicrwydd ynghylch iechyd planhigion gan fod planhigion sydd o dan yr FPCS yn cael eu tyfu o dan amodau llym. Mae hyn yn lleihau'r risg o gyflwyno plâu a chlefydau niweidiol i'r safle cynhyrchu ac yn sicrhau bod modd eu holrhain gan fodloni gofynion marchnata llym deunydd ardystiedig sy'n ddisgynyddion o stoc tarddiol sydd wedi'i brofi o ran iechyd ac egni. 

Effeithiau negyddol

Gan fod planhigion ffrwythau sy'n dod o dan yr FPCS eisoes yn cael eu harchwilio ar gyfer plâu eraill, nid ydym yn rhagweld y bydd unrhyw gynnydd sylweddol mewn costau oherwydd amser archwilio gan y bydd arolygwyr yn chwilio am y plâu hyn ar yr un pryd â phlâu rheoledig eraill. Bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â phrofi planhigion tarddiol, y mae'n rhaid i'r tyfwr dalu amdanynt fel y mae'n rhaid iddo dalu am y profion eraill sydd eu hangen. Dim ond cyfran fach iawn o'r deunydd a brofir o dan y FPCS sy'n blanhigion tarddiol.

Gan ystyried yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig yn cefnogi nodau llesiant Llywodraeth Cymru?

Bydd y Rheoliadau hyn yn cael effaith gadarnhaol ar gyfrannu at y nod llesiant cenedlaethol o 'Gymru gydnerth' a'r effeithiau cysylltiedig ar 'Gymru ffyniannus' drwy weithredu mesurau bioddiogelwch ychwanegol a lleihau unrhyw effeithiau ar fasnach a bioamrywiaeth ehangach pe na baem yn cyflwyno'r Rheoliadau hyn.

Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?   

Byddwn yn gallu monitro a gwerthuso trwy'r Cynllun Ardystio Lluosogi Ffrwythau (FPCS) gan fod manylion yn cael eu cyhoeddi mewn cofrestr flynyddol a gynhyrchir gan APHA. Gwyddom fod un tyfwr ffrwythau yng Nghymru wedi cofrestru ar y cynllun hyd yma a fydd yn elwa o'r Rheoliadau ac yn gallu parhau i fasnachu yn yr UE.