Neidio i'r prif gynnwy

Nod

Darparu cymorth uniongyrchol i bawb sydd wedi dioddef marwolaeth sydyn ac annisgwyl plentyn neu berson ifanc hyd at 25 oed.

Partneriaid:

  • Byrddau Iechyd Lleol, yn cynnwys Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, Gofal Critigol, Unedau Newyddenedigol, Gofal Pediatrig, Gofal Sylfaenol, Nyrsio Cymunedol
  • Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • Heddluoedd
  • Gwasanaethau Tân ac Achub
  • Swyddogion Archwilio Meddygol
  • Crwner Ei Mawrhydi
  • Yr holl ddarparwyr sy’n darparu cymorth i bobl sydd wedi dioddef profedigaeth
  • Trefnwyr Angladdau
  • Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi
  • Timau Achub Mynydd
  • Y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) / Ambiwlans Awyr Cymru
  • Y Tîm Rhoi Organau
  • Grwpiau Cydnerthedd Lleol (yn achos marwolaethau lluosog)

Ardal Ddaearyddol (Cymru Gyfan): Nodwch.

Cyswllt y Bwrdd Iechyd/Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol: Nodwch.

Sut fath o gymorth profedigaeth y gall unigolion a theuluoedd ei ddisgwyl?

Gall unigolion a theuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth ddisgwyl cael cynnig y cymorth canlynol.

1. Ymateb uniongyrchol

Dylid cyflwyno gwybodaeth briodol a fydd yn diwallu anghenion y sawl sydd wedi dioddef profedigaeth ar yr adeg y daw’r brofedigaeth yn hysbys (elfen 1 NICE – Cyffredinol), pa bryd bynnag y bydd marwolaeth yn digwydd.

Dylid cael caniatâd y sawl sydd wedi dioddef profedigaeth i’w atgyfeirio at gydgysylltydd o fewn y Bwrdd Iechyd Lleol neu at wasanaeth profedigaeth priodol a ddarperir gan bartner, fel y gellir siarad â’r sawl sydd wedi dioddef profedigaeth o fewn 24 awr fel arfer (ond o fewn 48 awr ar y mwyaf), ei dywys trwy’r camau nesaf, asesu ei anghenion uniongyrchol a chynnig rhagor o gymorth os oes angen, yn cynnwys ymweld â’i gartref.

Dylai Byrddau Iechyd Lleol a/neu’r partneriaid wneud y canlynol:

  • Yn achos plant a phobl ifanc hyd at 18 oed, ystyried y llwybr hwn ar y cyd â’r gweithdrefnau a nodir yn y ddogfen amlasiantaethol ar gyfer Cymru Gyfan, sef Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaethau Annisgwyl yn ystod Plentyndod (PRUDiC). 
  • Ystyried llunio llyfryn a gwybodaeth ar-lein a fydd yn cynnwys gwybodaeth leol am y cymorth sydd ar gael i deuluoedd yr ymadawedig.
  • Ystyried darparu blychau atgofion: gall y rhain gynnig cysur mawr i deuluoedd yr ymadawedig a dangos tosturi ar adeg anodd dros ben, yn ogystal â chynorthwyo’r staff pan fyddant yn eistedd gyda theuluoedd ar adeg mor anodd. (Mae’n bwysig deall pa mor werthfawr yw creu atgofion yn ystod yr adeg hon, e.e. cudyn o wallt, olion dwylo / traed a lluniau).
  • Darparu cyfleusterau addas mewn ysbytai er mwyn i deuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth allu ymweld â’r ymadawedig, a sicrhau bod lle tawel ar gael er mwyn i glinigwyr allu cyfarfod â’r teulu yn ddigon pell oddi wrth Adrannau Brys / wardiau prysur, lle gall aelodau’r teulu eistedd a bod yn gefn i’w gilydd, gan gydnabod anghenion ffyddau a chrefyddau gwahanol.
  • Sylweddoli bod angen trin eiddo’r ymadawedig mewn modd sensitif a dychwelyd yr eiddo o dan sylw i’r teulu cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol, gan gydnabod bod gan yr eitemau hynny werth personol mawr i deulu’r ymadawedig. 
  • Ystyried yr angen am hyfforddiant aml-ffydd / diwylliannol er mwyn sicrhau bod y cymorth a ddarperir yn diwallu anghenion teuluoedd o ffyddau a chrefyddau gwahanol.
  • Ystyried yr angen am hyfforddiant er mwyn sicrhau y bydd modd diwallu credoau ac anghenion ysbrydol.
  • Sicrhau bod cymorth ar gael yn y Gymraeg bob amser, ac y darperir ar gyfer ieithoedd eraill yn ddibynnol ar yr angen lleol.
  • Sicrhau bod y deunyddiau ar gael mewn amryfal fformatau er mwyn gallu diwallu anghenion pobl â nodweddion gwarchodedig, fel bo’r angen.
  • Galluogi pobl sydd wedi dioddef profedigaeth i gyfathrebu mewn gwahanol ffyrdd, e.e. negeseuon testun, e-byst, gan gydnabod na fyddant o bosibl yn teimlo’n abl i siarad ar y ffôn yn ystod y cyfnod anodd hwn.

2. Gofal a gynlluniwyd/gofal tymor byr

Dylai’r Bwrdd Iechyd Lleol neu gydgysylltydd yr asiantaeth bartner drefnu i ffonio’r sawl sydd wedi dioddef profedigaeth ddim hwyrach na deg diwrnod ar ôl ei gyswllt cyntaf (neu o fewn y cyfnod hwn os nad ymgysylltodd teulu’r ymadawedig ar y cychwyn). Dylai’r alwad hon asesu anghenion aelodau’r teulu a’r opsiynau cymorth sydd ar gael iddynt (a chan bwy), os oes angen. Os yw’r teulu wedi ymgysylltu eisoes, efallai y bydd cymorth (yn cynnwys ymweliad â’r cartref, os yn berthnasol) ar waith yn barod.

Yn dilyn yr asesiad, bydd y cydgysylltydd yn gofyn i’r unigolion o dan sylw a ydynt yn dymuno cael eu hatgyfeirio ar gyfer cymorth pellach (elfen 2 NICE – Dewisol / Penodol) a/neu a ydynt angen rhagor o gymorth gan y Bwrdd Iechyd Lleol. Os na fydd yr unigolion sydd wedi dioddef profedigaeth yn gofyn am ragor o gymorth ar yr adeg honno, dylid rhoi gwybod iddynt y gallant gysylltu â’r cydgysylltydd drachefn ar unrhyw adeg yn y dyfodol pe baent angen rhagor o wybodaeth neu pe baent yn teimlo bod eu hanghenion wedi newid. Dylid rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i deuluoedd er mwyn iddynt allu gwneud trefniadau o’r newydd yn y dyfodol pe baent yn dymuno gwneud hynny.

Dylai Byrddau Iechyd Lleol a/neu’r partneriaid wneud y canlynol:

  • Darparu cyfleoedd ar gyfer cefnogaeth gan gymheiriaid – mewn modd rhithwir ac yn y cnawd pan fo modd.
  • Ystyried therapi chwarae e.e. ar gyfer brodyr/chwiorydd/cyfeillion sydd wedi dioddef profedigaeth.

3. Gofal hirdymor

Yn achos anghenion cymorth tymor hwy a bennir yng ngham (2) uchod neu a nodir yn ddiweddarach gan y sawl sydd wedi dioddef profedigaeth ar ôl iddo ffonio’r Bwrdd Iechyd Lleol neu’r partner arall ar unrhyw adeg, dylid trefnu atgyfeiriad at ddarparwr cymorth profedigaeth fel y gellir cynnal asesiad arall a chynnig cymorth pellach.

Efallai y bydd hyn yn cynnwys cymorth mwy arbenigol (elfen 3 NICE – Dynodedig) ar gyfer pobl a all fod mewn perygl oherwydd anghenion cymhleth neu yn sgil effeithiau galar hirdymor neu gymhleth.

Dylai Byrddau Iechyd Lleol a/neu’r partneriaid wneud y canlynol:

  • Cynnig gwasanaeth cwnsela profedigaeth i’r holl deulu, yn cynnwys brodyr a chwiorydd.
  • Sicrhau bod cymorth o fath arall yn cael ei gynnig, yn ogystal â chymorth sy’n ymwneud yn benodol â phrofedigaeth, e.e. cymorth oherwydd y posibilrwydd o hunan-niweidio neu gyflawni hunanladdiad etc.
  • Cynnig sesiynau cymorth mewn grŵp.
  • Ystyried therapïau amgen, e.e. therapi cyflenwol.

4. Atal/llesiant

Dylai’r cymorth amserol a pherthnasol a roddir i bobl sydd wedi dioddef profedigaeth, ac a nodir yn y camau uchod, eu helpu ar eu siwrnai trwy alar ar adeg eithriadol o anodd, gyda’r gobaith y bydd lleihad yn yr ymyriadau cymorth galar mwy trawmatig yn ddiweddarach.

Dylai Byrddau Iechyd Lleol a/neu’r partneriaid wneud y canlynol:

  • Ystyried cynnal digwyddiadau cymdeithasol i deuluoedd.
  • Ystyried penwythnosau preswyl lle byddai ystod o gymorth ar gael, yn cynnwys therapi chwarae, therapïau cyflenwol, gweithdai creadigol etc.
  • Ystyried cynnal digwyddiadau cymunedol; mae digwyddiadau o’r fath yn bwysig, oherwydd gallant atal teimladau ynysig a rhoi rhyddid i deuluoedd yr ymadawedig barhau i siarad am eu profedigaethau, ni waeth pa mor bell yn ôl y digwyddasant.
  • Ystyried estyn llaw i deuluoedd yr ymadawedig ar adegau arwyddocaol, e.e. pen-blwydd y farwolaeth, pen-blwydd yr unigolyn a fu farw, y Nadolig etc.

Diagram: Delwedd o’r llwybr cymorth.

  1. Pobl sydd wedi dioddef profedigaeth yn cael cynnig gwybodaeth uniongyrchol a galwad atgyfeirio o fewn 48 awr
  2. Galwad i'r person sydd wedi dioddef profedigaeth i asesu anghenion uniongyrchol, y camau nesaf, ac i gynnig cymorth pellach yn ôl yr angen
  3. Galwad ddilynol 7-10 diwrnod yn ddiweddarach i gael sgwrs arall, rhoi gwybod am gymorth pellach, ateb unrhyw gwestiynau ac egluro bod modd cysylltu'n ôl unrhyw bryd.

Y gweithlu

Bydd angen i Fyrddau Iechyd Lleol neilltuo cydgysylltydd profedigaeth penodol (os nad yw’r rôl hon yn bodoli eisoes). Bydd y cydgysylltydd hwn yn gweithio’n agos gyda’r holl bartneriaid.

Bydd angen i’r partneriaid atgyfeirio fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o ran atgyfeirio pobl o’r tu allan at gydgysylltydd y Bwrdd Iechyd Lleol, a hefyd bydd angen iddynt fod yn ymwybodol o fanyleb y gwasanaethau a gynigir.

Rhaid i’r partneriaid cymorth weithio’n agos gyda’r holl bartïon er mwyn sicrhau y gellir mynd ati’n briodol i asesu, monitro a gwerthuso atgyfeiriadau a wneir i’w gwasanaethau.

Bydd angen i’r holl bartïon ddadansoddi’r anghenion hyfforddi, a bydd angen canfod yr hyfforddiant perthnasol a’i gyflwyno i’r staff a’r gwirfoddolwyr, fel y bo’n berthnasol.

Mae rôl cydgysylltydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn hollbwysig i’r broses hon – hynny yw, ei rôl o ran asesu anghenion uniongyrchol a thymor byr yr unigolyn sydd wedi dioddef profedigaeth ac o ran asesu’r cymorth y gellir ei gynnig i deulu’r ymadawedig; a rhaid darparu hyfforddiant llawn a chymorth parhaus.

Yn achos staff y Bwrdd Iechyd Lleol y gallai’r farwolaeth effeithio arnynt, gallant hwythau hefyd gael gafael ar gymorth. Hefyd, dylid cynnal ôl-drafodaethau yn dilyn digwyddiad trawmatig, gyda phartneriaid yn hwyluso’r trafodaethau hynny os yn briodol.

Cyfathrebu

Bydd angen cynnal ymgyrch ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth gyda phob partner/darparwr cymorth profedigaeth. Yn achos staff y Bwrdd Iechyd Lleol a ddaw i gysylltiad â phobl sydd wedi dioddef profedigaeth, bydd angen iddynt fod yn ymwybodol o’r gwasanaeth a ddarperir a’r llwybrau atgyfeirio, yn ogystal â chael mynediad at wybodaeth ategol gywir y gallant ei rhoi i bobl sydd wedi dioddef profedigaeth (elfen 1 NICE).

Technoleg

Rhaid i’r holl bartneriaid sicrhau eu bod yn delio ag atgyfeiriadau mewn da bryd ac mewn modd diogel, a bod y dechnoleg a ddefnyddir yn cyd-fynd â’r protocolau diogelwch arferol.

Monitro/gwerthuso

Dylai’r holl bartneriaid gasglu data ansoddol a meintiol er mwyn sicrhau eu bod yn delio’n briodol â gofynion cysylltu’r llwybr, yr atgyfeiriadau i wasanaeth neu sefydliad arall a phrofiadau pobl sydd wedi dioddef profedigaeth mewn perthynas â’r cymorth a roddwyd iddynt yn ystod pob cam o’r llwybr. Dylai’r mesurau penodol gynnwys:

  • Rhoi gwybodaeth i bobl sydd wedi dioddef profedigaeth ar yr adeg y daw’r brofedigaeth yn hysbys.
  • Galwad gychwynnol gan y cydgysylltydd o fewn 48 awr.
  • Atgyfeirio’r sawl sydd wedi dioddef profedigaeth at ddarparwr cymorth profedigaeth a derbyn ei ymateb o fewn x diwrnod / darparu cymorth 'carlam' pan fo angen a monitro bod hyn wedi digwydd.
  • Galwad ddilynol rhwng y cydgysylltydd a’r sawl sydd wedi dioddef profedigaeth ddim hwyrach na 10 diwrnod ar ôl y cyswllt cyntaf.
  • Adborth ansoddol gan bobl sydd wedi dioddef profedigaeth yn ymwneud â’r cymorth a gawsant (cydnabyddir y gall fod yn anodd cael gafael ar adborth o’r fath oherwydd natur drawmatig y brofedigaeth a ddaeth i ran y bobl).

Dylid adolygu’r llwybr yn flynyddol.