Neidio i'r prif gynnwy

Data ar fasnach nwyddau Cymreig i lefydd tu hwnt i’r DU rhwng Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Amcangyfrifon dros dro yw'r data yn yr adroddiad hwn ar gyfer Ebrill 2022 i Mawrth 2023 a chânt eu diwygio fel mater o drefn dros y 18 mis nesaf i gyfrif am ffurflenni hwyr.

Mae'r data yn cwmpasu gwerthoeddd (prisiau cyfredol) o allforion a mewnforion nwyddau.  

Mae'n bwysig ystyried effaith digwyddiadau economaidd byd-eang ar werthoedd masnach yn ogystal â phwysau chwyddiant sy'n cynyddu prisiau cyfredol nwyddau.

Y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2023 (dros dro)

Allforion

  • Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £20.9 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2023, i fyny £4.3 biliwn (25.6%) o gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2022.
  • Gwerth allforion nwyddau ag eithrio 'Olew' (SITC 33) i Gymru oedd £16.4 biliwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 2023, cynnydd o £2.5 biliwn (18.0%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022.
  • Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023, bu cynnydd o £2.2 biliwn (21.9%) mewn gwerthoedd allforion i wledydd yr UE hyd at £12.0 biliwn a chynnydd mewn gwerthoedd allforion i wledydd y tu allan i'r UE o £2.1 biliwn (30.9%) hyd at £8.9 biliwn, o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022.
  • Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 57.2% o allforion Cymreig o’i gymharu â 52.2% ar gyfer y DU.
  • Parhaodd gwerthoedd allforion o Gymru i gael eu dominyddu gan 'Offer Peiriannau a Thrafnidiaeth'[troednodyn 1], gwerth £8.0 biliwn (38.3%). Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd sylweddol yng ngwerthoedd allforion Tanwyddau Mwynol, i fyny £1.7 biliwn (60.2%) hyd £4.6 biliwn o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd allforion Tanwyddau Mwynol yn cyfrif 21.8% o holl allforion o Gymru.
    • ‘Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer’ oedd y cynnyrch gwerth mwyaf yn y categori ‘Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth' gyda £3.2 biliwn (15.3%) o allforion Cymreig. Mae hyn yn gynnydd o £0.9 biliwn (39.5%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022.
    • Yn y categori Tanwyddau Mwynau, gwerth 'Petrolewm, Cynhyrchion Petroliwm a Deunyddiau Cysylltiedig' (SITC 33) oedd yr uchaf - £4.5 biliwn (21.4%) o allforion Cymru. Mae hyn yn gynnydd gwerth £1.7 biliwn (64.2%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022.

Troednodiadau

[1] Mae hyn yn cynnwys Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer, Peiriannau Arbenigol ar gyfer Diwydiannau Penodol, Peiriannau Gwaith Metel, Peiriannau Diwydiannol Cyffredinol ac Offer a Rhannau Peiriant nad ydynt wedi'u pennu mewn mannau eraill, Peiriannau Swyddfa a pheiriannau ADP, Telathrebu a Recordio Sain ac Offer a Chyfarpar Atgynhyrchu, Peiriannau Trydan, Cyfarpar ac Offer a rhannau trydan nad ydynt wedi'u pennu mewn mannau eraill, Cerbydau Ffordd (gan gynnwys Cerbydau Clustogau Aer), Offer trafnidiaeth eraill.

Mewnforion

  • Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £23.9 biliwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023, cynydd o £5.6 biliwn (30.2%) o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen mis Mawrth 2022.
  • Gwerth mewnforion nwyddau ag eithrio  'Olew' (SITC 33) ar gyfer Cymru oedd £16.6 biliwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 2023, cynnydd o £2.8 biliwn (20.4%) o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen mis Mawrth 2022.
  • Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023, bu cynnydd o £1.5 biliwn (23.1%) gwerthoedd mewnforion nwyddau o’r UE hyd at £8.0 biliwn. Am wledydd y tu allan i'r UE, roedd cynnydd o £4.0 biliwn (34.2%) hyd at £15.9 biliwn, o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022.  
  • Cyfrifodd gwerthoedd mewnforion o'r UE 33.6% o gyfanswm gwerthoedd mewnforion Cymru, o'i gymharu â 49.7% ar gyfer y DU.
  • 'Tanwyddau mwynol' yw'r categori mewnforio gwerth mwyaf - £8.4 biliwn, sy'n cyfrif am 34.9% o gyfanswm gwerthoedd mewnforio, cynnydd o £3.0 biliwn (56.1%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022. Mae'r ail gategori mwyaf yn parhau i fod yn 'Offer Peiriannau a Thrafnidiaeth' gyda £7.8 biliwn (32.5%) o gyfanswm mewnforion.
    • Yn y categori 'Tanwydd Mwynol', 'Petrolewm, Cynhyrchion Petroliwm a Deunyddiau Cysylltiedig' oedd y cynnyrch gwerth uchaf gyda £7.3 biliwn (30.6%) o fewnforion Cymru. Mae hyn yn gynnydd gwerth o £2.7 biliwn (59.6%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022.
    • ‘Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer ‘oedd y cynnyrch gwerth mwyaf o fewn y categori 'Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth’ - gwerth £3.4 biliwn (14.0%) o allforion Cymru. Mae hyn yn gynnydd o £1.3 biliwn (66.3%) o'i gymharu â'r â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022.

Nodiadau

Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach ychwanegol a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEM ar yr ystadegau hyn.

Fe all rhywfaint o'r data allforion a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio ychydig gan CThEM fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan ‘UK Trade Info’.

Gwybodaeth bellach

Mae'r data uchod yn ymwneud â masnach nwyddau rhyngwladol. Mae'r ystadegau arbrofol diweddaraf (2020) a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cyfrif am oddeutu 30% o gyfanswm allforion yng Nghymru, a 20% o gyfanswm fewnforion.

Cyhoeddir canlyniadau allweddol bob chwarter, ac maent ar gael ar dudalennau CThEM ‘UK Trade Info’, ein dangosfwrdd rhyngweithiol ein hunain yn ogystal â StatsCymru.

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn adolygu ei ddadansoddiad a'i gyhoeddiad o ddata masnach Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gan gynnwys cynnwys y bwletin masnach nwyddau blynyddol. Os hoffech fod yn rhan o adolygiad, neu roi unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn, anfonwch e-bost at ystadegau.masnach@llyw.cymru

Cyswllt

Cerys Ponting

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.