Masnach nwyddau rhyngwladol Cymreig: Ebrill 2024 i Mawrth 2025 (prif ddata)
Data ar fasnach nwyddau Cymreig i lefydd tu hwnt i’r DU rhwng Ebrill 2024 i Mawrth 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Amcangyfrifon dros dro yw'r data yn yr adroddiad hwn ar gyfer Ebrill 2024 i Fawrth 2025, gyda diwygiadau i'r data yn ôl hyd Ch1 2024. Bydd data yn cael eu diwygio yn rheolaidd dros y 18 mis nesaf gan gymryd ffurflenni hwyr i ystyriaeth.
Mae'r data yn cwmpasu gwerthoedd (prisiau cyfredol) o allforion a mewnforion nwyddau.
Mae'n bwysig ystyried effaith digwyddiadau economaidd byd-eang ar werthoedd masnach yn ogystal â phwysau chwyddiant sy'n cynyddu prisiau cyfredol nwyddau.
Y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2025 (dros dro)
Allforion
- Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £15.3 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024, i lawr £3.9 biliwn (20.1%) o gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024. Cafodd hyn ei yrru i raddau helaeth gan ostyngiad gwerth £2.4 biliwn yn allforion 'Olew' (SITC33), a gostyngiad o £1.1 biliwn yng ngwerth 'Peiriannau a Chyfarpar Cynhyrchu Trydan' (SITC71)[troednodyn 1].
- Yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2025, gostyngodd gwerth allforion ar draws holl wledydd y DU, ac eithrio'r yr Alban ble cynyddodd gwerthoedd, o gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024 .
- Gwerth allforion nwyddau ag eithrio 'Olew' (SITC 33) am Gymru oedd £14.5 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2025, gostyngiad o £1.5 biliwn (9.2%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024.
- Yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2025, gostyngodd gwerthoedd allforion i wledydd yr UE gan £1.7 biliwn (15.1%) lawr i £9.5 biliwn, tra gostyngodd gwerthoedd allforion i wledydd y tu allan i'r UE gan £2.2 biliwn (27.3%) lawr i £5.7 biliwn, o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024.
- Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 62.4% o allforion Cymreig o’i gymharu â 48.9% ar gyfer y DU.
- Parhaodd gwerthoedd allforion o Gymru i gael eu dominyddu gan 'Peiriannau ac Offer Thrafnidiaeth'[troednodyn 2] gwerth £7.1 biliwn (46.8%), gostyngiad o £1.1 biliwn (13.5%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024. 'Nwyddau a Weithgynhyrchir ' oedd yr ail gategori mwyaf, gwerth £2.5 biliwn, sef 16.3% o holl allforion o Gymru.
- ‘Cyfarpar Trafnidiaeth Arall’ oedd y cynnyrch gwerth mwyaf yn y categori ‘Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth' gyda £2.6 biliwn (16.9%) o allforion Cymreig. Mae hyn yn ostyngiad o £0.3 biliwn (14.5%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024.
- Yn y categori 'Nwyddau a Weithgynhyrchir’, gwerth ‘Haearn a Dur' oedd y mwyaf - gwerth £1.0 biliwn (6.4%). Gostyngiad gwerth £0.1 biliwn (13.2%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024.
Mewnforion
- Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £20.2 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2025, gostyngiad o £0.7 biliwn (3.5%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024.
- Yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2025, cynyddodd gwerthoedd mewnforion Lloegr a Gogledd Iwerddon, tra bod gwerthoedd Cymru a'r Alban wedi gostyngi, o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024.
- Gwerth mewnforion nwyddau ag eithrio ‘Olew' (SITC 33) ar gyfer Cymru oedd £14.9 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2025, gostyngiad o £0.2 biliwn (1.5%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024.
- Yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2025, gwelwyd cynnydd yng ngwerthoedd mewnforion nwyddau o’r UE o £0.2 biliwn (2.3%) hyd at £7.7 biliwn. Am wledydd y tu allan i'r UE, roedd gostyngiad o £0.9 biliwn (6.7%) hyd at £12.5 biliwn, o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024.
- Cyfrifodd mewnforion o'r UE am 38.2% o gyfanswm gwerthoedd mewnforion Cymru, o'i gymharu â 53.1% ar gyfer y DU.
- Parhaodd 'Peiriannau ac Offer Thrafnidiaeth' fel y categori mewnforio gwerth mwyaf £7.5 biliwn - sy'n cyfrif am 37.0% o gyfanswm gwerthoedd mewnforion – gostyngiad o £0.5 biliwn (6.0%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024. Yr ail gategori mwyaf oedd 'Tanwyddau mwynol' gwerth £5.7 biliwn, sef 28.1% o holl fewnforion i Gymru.
- ‘Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer ‘oedd y cynnyrch gwerth mwyaf o fewn y categori 'Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth’ - gwerth £2.9 biliwn (14.4%) o fewnforion Cymru. Mae hyn yn ostyngiad o £0.4 biliwn (12.0%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024.
- Yn y categori 'Tanwyddau Mwynol', ‘Olew' (SITC 33) oedd y cynnyrch gwerth uchaf gyda £5.3 biliwn (26.4%) o fewnforion Cymru. Mae hyn yn ostyngiad gwerth £0.5 biliwn (8.7%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024.
Nodiadau
Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach ychwanegol a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEF ar yr ystadegau hyn.
Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys diwygiadau a drefnwyd ar gyfer data a’u cyhoeddwyd yn flaenorol.
Fe all rhywfaint o'r data masnach a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio ychydig gan CThEF fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan ‘UK Trade Info’.
Gwybodaeth bellach
Mae'r data uchod yn ymwneud â masnach nwyddau rhyngwladol. Mae'r ystadegau arbrofol diweddaraf (2022) a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cyfrif am oddeutu 30% o gyfanswm allforion yng Nghymru, a 20% o gyfanswm fewnforion.
Cyhoeddir canlyniadau allweddol bob chwarter, ac maent ar gael ar dudalennau CThEF ‘UK Trade Info’ ac ein dangosfwrdd rhyngweithiol ein hunain.
Troednodiadau
[1] Cynghorir defnyddwyr i fod yn ofalus wrth ddefnyddio data sy'n gysylltiedig â 'Peiriannau a Chyfarpar Cynhyrchu Trydan’ (SITC71). Ar hyn o bryd mae CthEF yn ymchwilio i mewn i ddata masnach o dan SITC71. Nodwyd bod rhai symudiadau sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw ac atgyweirio wedi'u cofnodi o dan y codau nwyddau cywir, ond heb y wybodaeth ychwanegol sy'n ofynnol ar gyfer dosbarthiad cywir o dan y system fasnach arbennig o ystadegau masnach ryngwladol. Mae ymchwiliadau'n parhau i benderfynu a yw cyfnodau data cynharach hefyd yn cael eu heffeithio. Efallai y bydd y ffigurau yn destun adolygiad pellach.
[2] Mae hyn yn cynnwys Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer, Peiriannau Arbenigol ar gyfer Diwydiannau Penodol, Peiriannau Gwaith Metel, Peiriannau Diwydiannol Cyffredinol ac Offer a Rhannau Peiriant nad ydynt wedi'u pennu mewn mannau eraill, Peiriannau Swyddfa a pheiriannau ADP, Telathrebu a Recordio Sain ac Offer a Chyfarpar Atgynhyrchu, Peiriannau Trydan, Cyfarpar ac Offer a rhannau trydan nad ydynt wedi'u pennu mewn mannau eraill, Cerbydau Ffordd (gan gynnwys Cerbydau Clustogau Aer), Offer trafnidiaeth eraill.

