Masnach nwyddau rhyngwladol Cymreig: Gorffennaf 2025 i Mehefin 2026 (prif ddata)
Data ar fasnach nwyddau Cymreig i lefydd tu hwnt i’r DU rhwng Gorffennaf 2025 i Mehefin 2026.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r data yn yr adroddiad hwn yn amcangyfrifon dros dro ar gyfer Gorfennaf 2025 i Fehefin 2026, gyda diwygiadau i’r data yn mynd yn ôl i Ionawr 2025. Bydd y data yn cael ei ddiwygio’n rheolaidd dros y 18 mis nesaf i gyfrif am ddatganiadau tollau hwyr.
Mae’r data yn cwmpasu gwerth (mewn prisiau cyfredol) a chyfaint allforion a mewnforion nwyddau rhyngwladol. Mae’n bwysig ystyried effaith digwyddiadau economaidd byd-eang ar werthoedd masnach, yn ogystal â phwysau chwyddiant sy’n gwthio prisiau cyfredol cynhyrchion i fyny. Dylid felly trin cymariaethau dros amser yn ofalus oherwydd diwygiadau, chwyddiant (prisiau cyfredol), ac anwadalrwydd marchnadoedd byd-eang.
Masnach yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2026 (dros dro)
Mae’r dadansoddiad canlynol yn cymharu’r flwyddyn ddiweddaraf o ddata (y flwyddyn hyd at Fehefin 2026) â’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn hyd at Fehefin 2025).
Cyfanswm masnach (allforion + mewnforion)
- Cyfanswm gwerth masnach oedd £41.6 biliwn, i fyny £2.0 biliwn (5.1%) o £39.6 biliwn.
- Cyfanswm gwerth masnach heb gynnwys ‘Olew’ [troednodyn 1] oedd £33.2 biliwn, i fyny £1.0 biliwn (3.2%) o £32.2 biliwn.
- Cyfanswm cyfaint masnach oedd 23.6 biliwn kg, cynnydd o 0.8 biliwn kg (3.4%) o 22.8 biliwn kg.
- Cyfanswm cyfaint masnach heb gynnwys ‘Olew’ oedd 8.0 biliwn kg, i lawr 0.4 biliwn kg (4.8%) o 8.4 biliwn kg.
Allforion
- Gwerth allforion nwyddau Cymru oedd £20.0 biliwn, i fyny £1.0 biliwn (5.3%) o £19.0 biliwn. Roedd hyn yn bennaf oherwydd cynnydd o £0.3 biliwn yng ngwerth allforion ‘Olew’ a chynnydd o £0.3 biliwn yng ngwerth allforion ‘Cyfarpar Trafnidiaeth Arall’.
- Cyfaint allforion nwyddau Cymru oedd 7.5 biliwn kg, gostyngiad o 0.1 biliwn kg (0.7%) o 7.5 biliwn kg.
- Gwerth allforion nwyddau’r DU oedd £368.5 biliwn, i fyny £5.7 biliwn (1.6%) o £362.8 biliwn.
- Cyfaint allforion nwyddau’r DU oedd 117.7 biliwn kg, i lawr 10.8 biliwn kg (8.4%) o 128.5 biliwn kg.
- Mae pob gwlad yn y DU wedi gweld cynnydd yn gwerth allforion, heblaw Yr Alban sydd wedi gostwng.
- Parhaodd yr UE i gyfrif am y rhan fwyaf o werth allforion Cymru, sef 58.3%. Roedd yr UE yn cyfrif am 49.4% o werth allforion y DU.
- Cynyddodd gwerth allforion i wledydd yr UE £1.1 biliwn (10.5%) i £11.7 biliwn o £10.5 biliwn. Gostyngodd gwerth allforion i wledydd y tu allan i’r UE £0.1 biliwn (1.1%) i £8.3 biliwn o £8.4 biliwn.
- Y 3 phrif gynnyrch yn ôl gwerth a allforiwyd o Gymru oedd ‘Peiriannau a Chyfarpar Cynhyrchu Trydan’ (£4.3 biliwn), ‘Cyfarpar Trafnidiaeth Arall’ (£3.0 biliwn) ac ‘Olew’ (£2.8 biliwn). Roedd y cynhyrchion hyn yn cyfrif am 50.3% o allforion nwyddau Cymru.
- Y 3 phrif wlad yr oedd Cymru yn allforio iddynt yn ôl gwerth oedd Yr Almaen (£3.0 biliwn), Yr Unol Daleithiau (£2.9 biliwn) ac Iwerddon (£2.5 biliwn). Roedd y gwledydd hyn yn cyfrif am 41.8% o allforion nwyddau Cymru.
Allforion heb gynnwys ‘Olew’
- Gwerth allforion nwyddau Cymru heb gynnwys ‘Olew’ oedd £17.2 biliwn, i fyny £0.7 biliwn (4.1%) o £16.5 biliwn.
- Cyfaint allforion nwyddau Cymru heb gynnwys ‘Olew’ oedd 2.5 biliwn kg, gostyngiad o 0.4 biliwn kg (12.9%) o 2.9 biliwn kg.
- Gwerth allforion nwyddau’r DU heb gynnwys ‘Olew’ oedd £347.1 biliwn, i fyny £10.8 biliwn (3.2%) o £336.3 biliwn.
- Cyfaint allforion nwyddau’r DU heb gynnwys ‘Olew’ oedd 73.4 biliwn kg, i fyny 1.1 biliwn kg (1.6%) o 72.3 biliwn kg.
Mewnforion
- Gwerth mewnforion nwyddau Cymru oedd £21.6 biliwn, i fyny £1.0 biliwn (4.8%) o £20.6 biliwn. Roedd hyn yn bennaf oherwydd cynnydd o £0.6 biliwn yng ngwerth mewnforion ‘Olew’.
- Cyfaint mewnforion nwyddau Cymru oedd 16.1 biliwn kg, cynnydd o 0.8 biliwn kg (5.4%) o 15.3 biliwn kg.
- Gwerth mewnforion nwyddau’r DU oedd £626.7 biliwn, i fyny £36.9 biliwn (6.2%) o £589.8 biliwn.
- Cyfaint mewnforion nwyddau’r DU oedd 265.7 biliwn kg, i lawr 4.9 biliwn kg (1.8%) o 270.6 biliwn kg.
- Mae pob gwlad yn y DU wedi profi cynnydd yn gwerth mewnforion.
- Cyfrifodd yr UE am 37.4% o werthoedd mewnforio Cymru o'i gymharu â 52.4% o werthoedd mewnforio'r DU.Cynyddodd gwerth mewnforion o wledydd yr UE £0.1 biliwn (1.3%) i £8.1 biliwn o £8.0 biliwn. Cynyddodd gwerth mewnforion o wledydd y tu allan i’r UE £0.9 biliwn (7.0%) i £13.5 biliwn o £12.6 biliwn.
- Y 3 phrif gynnyrch yn ôl gwerth a fewnforiwyd i Gymru oedd ‘Olew’ (£5.5 biliwn), ‘Peiriannau a Chyfarpar Cynhyrchu Trydan’ (£3.9 biliwn) a ‘Peiriannau Trydan, Offer a Chyfarpar’ [troednodyn 2] (£1.0 biliwn). Roedd y cynhyrchion hyn yn cyfrif am 48.3% o fewnforion nwyddau Cymru.
- Y 3 phrif wlad yr oedd Cymru yn mewnforio ohonynt yn ôl gwerth oedd Yr Unol Daleithiau (£4.5 biliwn), Tsieina (£1.8 biliwn) a Ffrainc (£1.4 biliwn). Roedd y gwledydd hyn yn cyfrif am 35.6% o fewnforion nwyddau Cymru.
Niferoedd masnachwyr sy’n allforio ac yn mewnforio
Mae’r dadansoddiad canlynol yn dangos nifer y busnesau masnachu yng Nghymru a oedd yn weithredol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.
Niferoedd masnachwyr: dull rhif cyfan
Dull rhif cyfan: Mae busnes yn cyfrif fel 1 ym mhob rhanbarth lle mae ganddo weithwyr. Mae hyn yn cynrychioli’r cyfrif gwirioneddol o fusnesau mewn unrhyw ranbarth. Fodd bynnag, bydd hyn yn golygu y bydd cyfanswm y cyfrifon busnes ar gyfer pob rhanbarth yn fwy na’r cyfrif ar gyfer y DU gyfan.
| Blwyddyn | Nifer Yr Allforwyr | Nifer y Mewnforwyr |
|---|---|---|
| 2021 | 4,579 | 12,039 |
| 2022 | 4,512 | 12,650 |
| 2023 | 4,482 | 13,614 |
| 2024 | 4,443 | 13,256 |
| 2025 | 4,322 | 12,019 |
Mae nifer yr allforwyr (dull rhif cyfan) wedi gostwng rhwng 2021 a 2025. Cynyddodd nifer y mewnforwyr (dull rhif cyfan) rhwng 2021 a 2023 ac yna gostyngodd hyd at 2025.
Roedd nifer yr allforwyr yn Q2 2026 (3,054) yn debyg ar y cyfan i gymharu â Q2 2025 (3,076). Gostyngodd nifer y mewnforwyr yn Q2 2026 (7,590) o Q2 2025 (8,052).
Niferoedd masnachwyr: dull cyfrannol
Dull cyfrannol: Caiff cyfrifon busnes eu rhannu’n ffracsiynau ar sail cyfran eu gweithwyr ym mhob rhanbarth. Mae pob busnes yn cyfrif fel 1 yn y DU, wedi’i rannu ar draws pob rhanbarth lle mae ganddo weithwyr.
| Blwyddyn | Nifer Yr Allforwyr | Nifer y Mewnforwyr |
|---|---|---|
| 2021 | 3239 | 10431 |
| 2022 | 3194 | 11051 |
| 2023 | 3220 | 12061 |
| 2024 | 3188 | 11693 |
| 2025 | 3059 | 10437 |
Mae nifer yr allforwyr (dull cyfrannol) wedi gostwng yn gyffredinol rhwng 2021 a 2025. Cynyddodd nifer y mewnforwyr (dull cyfrannol) rhwng 2021 a 2023 ac yna gostyngodd hyd at 2025.
Gostyngodd nifer yr allforwyr yn Q2 2026 (2,015) o gymharu â Q2 2025 (2,056). Gostyngodd nifer y mewnforwyr yn Q2 2026 (6,242) o Q2 2025 (6,715).
Nodiadau
Gall CThEF ddiwygio data masnach fel rhan o’i ddiweddariadau rheolaidd. Mae’r ffigurau diweddaraf ar gael ar ein dangosfwrdd masnach ryngwladol ac ar UK Trade Info (CThEF).
Yn dilyn ymadawiad â’r UE, bu newidiadau i’r ffordd y caiff data ar fewnforion, allforion a chyfrifon busnes ei gasglu. Achosodd y newidiadau doriad yn y gyfres amser ar gyfer data allforion a chyfrifon busnes o Ionawr 2021, ac ar gyfer data mewnforion o Ionawr 2022. Dylid gwneud cymariaethau â chyfnodau cynharach yn ofalus.
Mae newidiadau i’r dull casglu data hefyd yn golygu bod mwy o fasnach â’r UE yn cael ei chofnodi fel ‘heb ei dyrannu-anhysbys’. I gael rhagor o wybodaeth, gweler gwybodaeth CThEF am y fethodoleg a'r ansawdd ar gyfer yr ystadegau hyn.
Rhagor o wybodaeth
Mae’r data uchod yn ymwneud â masnach nwyddau rhyngwladol. Ar gyfer masnach ryngwladol mewn gwasanaethau, mae’r ystadegau swyddogol diweddaraf sy’n cael eu datblygu (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)) (2023), a gynhyrchwyd gan yr SYG, yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cyfrif am tua 30% o gyfanswm allforion Cymru, ac 20% o gyfanswm mewnforion.
Sylwer bod y methodolegau’n wahanol rhwng ystadegau CThEF ac ystadegau’r SYG. Mae rhagor o fanylion am y gwahaniaethau allweddol hyn ar gael yn Adroddiad methodoleg ac ansawdd CThEF ar ystadegau masnach dramor mewn nwyddau (adran 8.4).
