Masnach nwyddau rhyngwladol Cymreig: Hydref 2024 i Medi 2025 (prif ddata)
Data ar fasnach nwyddau Cymreig i lefydd tu hwnt i’r DU rhwng Hydref 2024 i Medi 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Amcangyfrifon dros dro yw'r data yn yr adroddiad hwn ar gyfer Hydref 2024 i Medi 2025, gyda diwygiadau i'r data yn ôl hyd Chwarter 1 2025. Bydd data yn cael eu diwygio yn rheolaidd dros y 18 mis nesaf gan gymryd ffurflenni hwyr i ystyriaeth. Mae CThEF wedi cyhoeddi cywiriadau sylweddol heb eu trefnu i ystadegau masnach dramor y DU mewn nwyddau, sy'n effeithio'n benodol ar allforion 'Olew' [troednodyn 1] (SITC 33). Bydd y diwygiadau hyn yn cynyddu gwerthoedd a chyfeintiau allforio 'Olew' a adroddwyd, gan effeithio ar gyfansymiau pennawd ar gyfer allforion a masnach gyffredinol yn y dadansoddiad Mawrth 2025 (gweler Nodiadau). Gan nad yw'r cywiriadau hyn wedi'u cymhwyso eto, mae darparu allforion ac eithrio 'Olew' yn sicrhau llinell sylfaen sefydlog nes bod data diwygiedig yn cael ei gyhoeddi. Ni ddisgwylir i ffigurau mewnforio newid yn sylweddol ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yma.
Mae'r data yn cwmpasu gwerthoedd (prisiau cyfredol) o allforion a mewnforion nwyddau.
Mae'n bwysig ystyried effaith digwyddiadau economaidd byd-eang ar werthoedd masnach yn ogystal â phwysau chwyddiant sy'n cynyddu prisiau cyfredol nwyddau.
Y flwyddyn yn gorffen Medi 2025 (dros dro)
Mae'r dadansoddiad canlynol yn gymhariaeth rhwng y flwyddyn ddiweddaraf o ddata (blwyddyn sy'n dod i ben Medi 2025) a'r flwyddyn flaenorol (blwyddyn sy'n dod i ben Medi 2024).
Cyfanswm y fasnach (allforion + mewnforion)
- Cyfanswm gwerth y fasnach Gymreig oedd £37.7 biliwn, i lawr £1.7 biliwn (4.3%) o £39.4 biliwn.
- Cyfanswm gwerth masnach heb 'Olew' i Gymru oedd £32.1 biliwn, cynnydd o £0.4 biliwn (1.4%) o £31.7 biliwn.
- Cyfanswm y cyfaint masnach Gymreig oedd 20.0 biliwn kg, gostyngiad o 3.2 biliwn kg (13.8%) o 23.2 biliwn kg.
- Cyfanswm y gyfaint masnach heb 'Olew' i Gymru oedd 8.2 biliwn kg, gostyngiad o 1.9 biliwn kg (18.9%) o 10.2 biliwn kg.
Allforion
- Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £16.9 biliwn, i lawr £1.3 biliwn (7.3%) o £18.3 biliwn. Cafodd hyn ei yrru i raddau helaeth gan ostyngiad gwerth £1.4 biliwn yn allforion 'Olew'. [troednodyn 2]
- Cyfaint allforion nwyddau Cymreig oedd 3.8 biliwn kg, gostyngodd 2.1 biliwn kg (35.7%) o 6.0 biliwn kg. Cafodd hyn hefyd wedi'i yrru i raddau helaeth gan ostyngiad o 2.0 biliwn kg yng nghyfaint allforion 'Olew'.
- Gwerth allforion nwyddau ar gyfer y DU oedd £352.3 biliwn, i lawr £3.5 biliwn (1.0%) o £355.8 biliwn.
- Cyfaint allforion nwyddau ar gyfer y DU oedd 110.9 biliwn kg, gostyngodd 7.5 biliwn kg (6.3%) o 118.4 biliwn kg.
- Gostyngodd gwerth allforion ar draws holl wledydd y DU, ac eithrio'r yr Alban ble cynyddodd gwerthoedd.
- Parhaodd yr UE i gyfrif am fwyafrif o werthoedd allforio Cymru, yn cyfrif am 56.2%, tra bod yr UE yn cyfrif am 48.5% o werthoedd allforio'r DU.
- Gostyngodd gwerthoedd allforion i wledydd yr UE gan £1.2 biliwn (11.3%) i £9.5 biliwn oddi £10.7 biliwn. Gostyngodd gwerthoedd allforion i wledydd y tu allan i'r UE gan £0.1 biliwn (1.7%) i £7.4 biliwn oddi £7.5 biliwn.
- Y 3 prif gynnyrch a allforiwyd o Gymru oedd 'Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer' (£4.3 biliwn), ‘Cyfarpar Trafnidiaeth Arall’ (£2.5 biliwn) a 'Haearn a Dur' (£0.9 biliwn). Roedd y cynhyrchion hyn yn cyfrif am 44.9% o allforion nwyddau Cymru.
- Y 3 phrif wlad a allforiodd Cymru iddynt oedd yr Almaen (£2.6 biliwn), yr Unol Daleithiau (£2.2 biliwn) a Ffrainc (£1.7 biliwn). Roedd y gwledydd hyn yn cyfrif am 38.0% o allforion nwyddau Cymru.
Allforion heb 'Olew'
- Gwerth allforion nwyddau llai Olew i Gymru oedd £16.4 biliwn, cynnydd o £0.1 biliwn (0.5%) o £16.3 biliwn.
- Roedd cyfaint yr allforion nwyddau llai Olew i Gymru yn 2.8 biliwn kg, gostyngiad o 0.1 biliwn kg (4.7%) o 2.9 biliwn kg.
- Gwerth allforion nwyddau llai Olew i'r DU oedd £334.9 biliwn, cynnydd o £4.1 biliwn (1.2%) o £330.8 biliwn.
- Roedd cyfaint yr allforion nwyddau llai Olew i'r DU yn 72.0 biliwn kg, cynnydd o 0.2 biliwn kg (0.3%) o 71.7 biliwn kg.
Mewnforion
- Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £20.8 biliwn, gostyngiad £0.3 biliwn (1.6%) o £21.1 biliwn. Cafodd hyn ei yrru i raddau helaeth gan ostyngiad o £0.7 biliwn yng ngwerth mewnforion 'Olew'.
- Cyfaint y mewnforion nwyddau i Gymru oedd 16.2 biliwn kg, gostyngiad o 1.1 biliwn kg (6.2%) o 17.2 biliwn kg.
- Gwerth mewnforio nwyddau i'r DU oedd £597.2 biliwn, cynnydd o £18.5 biliwn (3.2%) o £578.6 biliwn.
- Roedd cyfaint y mewnforion nwyddau ar gyfer y DU yn 271.5 biliwn kg, cynnydd o 5.0 biliwn kg (1.9%) o 266.6 biliwn kg.
- Profodd holl wledydd y DU gynnydd yng ngwerth mewnforion, ac eithrio Cymru a ostyngodd.
- Cyfrifodd yr UE am 37.9% o werthoedd mewnforio Cymru o'i gymharu â 52.9% o werthoedd mewnforio'r DU.
- Cynyddodd gwerthoedd mewnforio o wledydd yr UE £0.3 biliwn (3.6%) i £7.9 biliwn o £7.6 biliwn. Gostyngodd gwerthoedd mewnforio o wledydd y tu allan i'r UE £0.6 biliwn (4.5%) i £12.9 biliwn o £13.5 biliwn.
- Y 3 phrif gynnyrch a fewnforiwyd i Gymru oedd 'Olew' (£5.0 biliwn), 'Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer' (£3.8 biliwn) ac 'Offer Trafnidiaeth Arall' (£1.1 biliwn). Roedd y cynhyrchion hyn yn cyfrif am 47.7% o fewnforion nwyddau Cymru.
- Y 3 phrif wlad y mewnforiodd Cymru ohonynt oedd yr Unol Daleithiau (£3.8 biliwn), Tsieina (£1.8 biliwn) a'r Iseldiroedd (£1.4 biliwn). Roedd y gwledydd hyn yn cyfrif am 33.5% o fewnforion nwyddau Cymru.
Nodiadau
Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach ychwanegol a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEF ar yr ystadegau hyn.
Bydd cywiriadau heb eu trefnu i'r data hwn ym mhennawd y chwarter nesaf, yn dilyn y Cyn-gyhoeddiad o gywiriadau i ystadegau masnach dramor y DU mewn nwyddau gan CThEF. Bydd canlyniad y cywiriadau hyn yn gweld cynnydd mewn gwerthoedd allforio a chyfeintiau 'Olew' (SITC33). Disgwylir yr effeithiau mwyaf yn Llundain, Cymru, a Heb ei dyrannu, tra disgwylir i bob rhanbarth arall brofi newidiadau lleiaf yn dilyn y cywiriadau. Fel effaith arwyddocaol o'r cywiriadau hyn, bydd gwerthoedd allforio Cymru rhwng Ionawr a Rhagfyr 2024 yn cynyddu oddeutu 7.9%, sydd tua £1.4 biliwn yn fwy na'r cyfanswm blynyddol a gyhoeddwyd ar hyn o bryd yn 2024, sef £17.5 biliwn. Ar gyfer Ionawr i fis Medi 2025, bydd y cynnydd tua 12.1% neu £1.5 biliwn yn fwy na'r cyfanswm cyfredol a gyhoeddwyd yn 2025 o £12.7 biliwn.
Fe all rhywfaint o'r data masnach a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio ychydig gan CThEF fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan ‘UK Trade Info’.
Cyn-gyhoeddiad o gywiriadau i ystadegau masnach dramor y DU mewn nwyddau gan CThEF.
Gwybodaeth bellach
Mae'r data uchod yn ymwneud â masnach nwyddau rhyngwladol. Ar gyfer masnach ryngwladol mewn gwasanaethau, mae'r ystadegau swyddogol odan datblygiad (2023) a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn awgrymu bod gwasanaethau yn cyfrif am oddeutu 30% o gyfanswm yr allforion yng Nghymru, ac 20% o gyfanswm y mewnforion.
Sylwch fod y dulliau yn wahanol rhwng ystadegau CThEM a'r SYG. Mae mwy o fanylion ar gael am y gwahaniaethau allweddol hyn yn 'Overseas trade in goods statistics methodology and quality report' (adran 8.4) (CThEM).
Mae'r prif ganlyniadau a'r cyfrifiadau busnes yn cael eu cyhoeddi'n chwarterol ac maent ar gael ar wefan CThEM ‘Gwybodaeth Masnach y DU’ ac ystadegau masnach nwyddau y DU (CThEM), ochr yn ochr â'n dangosfwrdd rhyngweithiol ein hunain.

