Neidio i'r prif gynnwy

Data ar fasnach nwyddau Cymreig i lefydd tu hwnt i’r DU rhwng Hydref i Ragfyr 2022.

Amcangyfrifon dros dro yw'r data yn yr adroddiad hwn ar gyfer Ionawr 2022 – Rhagfyr 2022 a chânt eu diwygio fel mater o drefn dros y 18 mis nesaf i gyfrif am ffurflenni hwyr. 

Mae'r data yn cwmpasu allforion a mewnforion.  

Ers 31 Rhagfyr 2020, mae'r ffordd y mae CThEM yn casglu data masnach nwyddau wedi’u newid. Golygir toriad yn y gyfres amser ar gyfer ystadegau masnach gyhoeddedig y DU i'r UE ers mis Ionawr 2021, felly dylid trin cymariaethau hanesyddol yn ofalus (gweler nodiadau).

Y flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2022 (dros dro)

Allforion

Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £20.5 biliwn yn 2022, cynnydd o £5.3 biliwn (34.9%) o gymharu â 2021.

O gymharu â 2019 (cyn y pandemig), roedd gwerth allforion nwyddau Cymru wedi cynyddu £2.8 biliwn (15.5%).

Roedd cynnydd £2.5 biliwn (27.5%) mewn gwerthoedd allforion i wledydd yr UE hyd at £11.6 billiwn a chynnydd mewn gwerthoedd allforio i wledydd y tu allan  i'r UE o £2.8 biliwn (45.8%) hyd at £8.9 biliwn, o'i  gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Roedd gwerthoedd allforion i'r UE yn cyfrif am 56.5% allforion Cymru o'i gymharu â 52.1% ar gyfer y DU.

Dominyddir gwerthoedd allforion o Gymru gan 'Beiriannau ac Offer Trafnidiaeth'[troednodyn 1], gwerth £7.5 biliwn (36.8%). Fodd bynnag, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol gwelwyd cynnydd sylweddol o £2.5 biliwn  (116.5%) i £4.6 biliwn yng ngwerthoedd allforion Tanwydd Mwynol, yn cyfateb i 22.6% o holl allforion o Gymru.

Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer oedd y cynnyrch gwerth mwyaf o fewn y categori 'Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth' gyda £3.0 biliwn (14.5%) o allforion Cymru. Mae hwn yn gynnydd o £0.8 billion (39.0%) gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Yn y categori Tanwyddau Mwynol, Petroliwm, Cynhyrchion Petroliwm a Deunyddiau Cysylltiedig' (SITC 33) oedd y cynnyrch gwerth uchaf - gwerth £4.6 biliwn (22.4%) o allforion Cymru. Er bod hwn yn gynnydd o £2.6 biliwn (127.3%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, cynyddodd y cyfaint a allforiwyd dim ond 33.1%.

Troednodiadau

[1] Mae hyn yn cynnwys Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer, Peiriannau Arbenigol ar gyfer Diwydiannau Penodol, Peiriannau Gwaith Metel, Peiriannau Diwydiannol Cyffredinol ac Offer a Rhannau Peiriant nad ydynt wedi'u pennu mewn mannau eraill, Peiriannau Swyddfa a pheiriannau ADP, Telathrebu a Recordio Sain ac Offer a Chyfarpar Atgynhyrchu, Peiriannau Trydan, Cyfarpar ac Offer a rhannau trydan nad ydynt wedi'u pennu mewn mannau eraill, Cerbydau Ffordd (gan gynnwys Cerbydau Clustogau Aer), Offer trafnidiaeth eraill.

Mewnforion

Gwerth mewnforion nwyddau Cymru oedd £24.1 biliwn yn 2022,  sef £8.0 biliwn (49.3%) o gymharu â 2021.

O'i gymharu â 2019 (cyn y pandemig), roedd gwerthoedd mewnforion nwyddau i Gymru wedi cynyddu £5.9 biliwn (32.3%) (r).

Roedd cynnydd mewn gwerthoedd mewnforion nwyddau o £2.1 biliwn o’r UE (36.0%) hyd at £8.1 biliwn, a  gwledydd tu hwnt i’r UE gwerth £5.8 biliwn (57.0%) hyd at £16.0 biliwn, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Roedd gwerthoedd mewnforion o'r UE yn cyfrif am 33.5% o gyfanswm gwerth mewnforion Cymru, o'i gymharu â 48.9% ar gyfer y DU.

‘Tanwyddau Mwynol' yw'r categori gwerth mewnforio mwyaf o hyd, gwerth £8.6 biliwn, sy’n cyfrif am 35.7% o gyfanswm y gwerthoedd mewnforion. Mae'r ail gategori mwyaf yn parhau i fod 'Offer Peiriannau a Thrafnidiaeth' gyda £7.6 biliwn (31.4%) o gyfanswm y mewnforion.

Yn y categori 'Tanwyddau Mwynol', Petroliwm, Cynhyrchion Petroliwm a Deunyddiau Cysylltiedig' oedd y cynnyrch gwerth uchaf gyda £7.5 biliwn (30.9%) o fewnforion Cymreig. Er bod hwn yn gynnydd gwerth £4.0 biliwn (116.0%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, cynyddodd y cyfaint a fewnforiwyd dim ond 28.0%.

Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer oedd y cynnyrch gwerth mwyaf o fewn y categori 'Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth' gwerth £3.2 biliwn (13.3%) o allforion Cymru. Mae hyn yn gynnydd o £1.5 biliwn (87.7%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

(r) Diwygiedig ar 5 Ebrill 2023.

Nodiadau

Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach ychwanegol a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEM ar yr ystadegau hyn.

Fe all rhywfaint o'r data allforion a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio ychydig gan CThEM fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan ‘UK Trade Info’.

Gwybodaeth bellach

Mae'r data uchod yn ymwneud â masnach rhyngwladol nwyddau. Mae’r ystadegau arbrofol a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cynrychioli tua 30% o'r cyfanswm allforion yng Nghymru.

Mae canlyniadau allweddol yn cael eu cyhoeddi yn chwarterol, a mi fydd StatsCymru wedi’u diweddaru gyda’r ffigurau 2022 yr wythnos nesaf. I nodi, mae tim dadansoddwyr masnach y Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi'r gorau i ddiweddaru'r Ciwbiau StatsCymru canlynol wedi gwblhau set ddata 2022. Fodd bynnag, mi fydd y data dal ar gael trwy’r dangosfwrdd rhyngweithiol fasnach nwyddau rhyngwladol ac hefyd gwefan ‘UK Trade Info’. Os bydd hyn yn broblem, neu os hoffech roi adborth i ni, cysylltwch â ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Cerys Ponting

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.