Neidio i'r prif gynnwy

Data ar fasnach nwyddau Cymreig i lefydd tu hwnt i’r DU rhwng Ionawr hyd Rhagfyr 2023.

Amcangyfrifon dros dro yw'r data yn yr adroddiad hwn ar gyfer Ionawr 2023 – Rhagfyr 2023, gyda diwygiadau i'r data yn ôl i Ch1 2022. Cânt y data eu diwygio fel mater o drefn dros y 18 mis nesaf i gyfrif am ffurflenni hwyr. Bydd dadansoddiad manylach o ddata 2023 yn cael ei ychwanegu yma ym mis Ebrill 2024.

Mae'r data yn cwmpasu gwerthoedd (prisiau cyfredol) o allforion a mewnforion nwyddau.

Mae'n bwysig ystyried effaith digwyddiadau economaidd byd-eang ar werthoedd masnach yn ogystal â phwysau chwyddiant sy'n cynyddu prisiau cyfredol nwyddau.

Y flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2023 (dros dro)

Allforion

  • Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £19.4 biliwn yn 2023, i lawr £1.1 biliwn (5.2%) o gymharu â 2022.
  • Yn 2023, gostyngodd gwerth allforion ar draws holl wledydd y DU, ac eithrio'r Gogledd Iwerddon ble cynyddodd gwerthoedd.
  • Gwerth allforion nwyddau ag eithrio 'Olew' (SITC 33) am Gymru oedd £16.1 biliwn yn 2023, cynnydd o £0.2 biliwn (1.0%) o'i gymharu â 2022.
  • Yn 2023, arhosodd gwerthoedd allforion i wledydd yr UE yn fras yr un fath ar £11.5 biliwn, tra gostyngodd gwerthoedd allforion i wledydd y tu allan i'r UE £1.1 biliwn (11.9%) i £7.9 biliwn, o'i gymharu â 2022.
  • Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 59.5% o allforion Cymreig o’i gymharu â 50.4% ar gyfer y DU.
  • Parhaodd gwerthoedd allforion o Gymru i gael eu dominyddu gan 'Peiriannau ac Offer Thrafnidiaeth'[troednodyn 1] gwerth £8.3 biliwn (42.6%), cynnydd o £0.7 biliwn (9.7%) o'i gymharu â 2022. Mae 'Tanwydd mwynau' yn parhau i fod yr ail gategori mwyaf, gwerth £3.5 biliwn yn 2023, sef 18.1% o holl allforion o Gymru.
    • ‘Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer’ oedd y cynnyrch gwerth mwyaf yn y categori ‘Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth' gyda £3.2 biliwn (16.4%) o allforion Cymreig. Mae hyn yn gynnydd o £0.2 biliwn (6.7%) o'i gymharu â 2022.
    • Yn y categori Tanwydd Mwynau, gwerth 'Petrolewm, Cynhyrchion Petroliwm a Deunyddiau Cysylltiedig' (SITC 33) oedd yr uchaf - gwerth £3.3 biliwn (17.1%) o allforion Cymru. Gostyngiad gwerth £1.2 biliwn (27.0%) o'i gymharu â 2022.

Mewnforion

  • Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £21.3 biliwn yn 2023, gostyngiad o £2.8 biliwn (11.7%) o'i gymharu â 2022.
  • Yn 2023, profodd holl wledydd y DU ostyngiad yng ngwerth mewnforion, ac eithrio Gogledd Iwerddon a welodd gynnydd.
  • Gwerth mewnforion nwyddau ag eithrio ‘Olew' (SITC 33) ar gyfer Cymru oedd £15.3 biliwn yn 2023, gostyngiad o £1.3 biliwn (7.8%) o'i gymharu â 2022.
  • Yn 2023, bu gostyngiad o £0.4 biliwn (4.9%) gwerthoedd mewnforion nwyddau o’r UE hyd at £7.7 biliwn. Am wledydd y tu allan i'r UE, roedd gostyngiad o £2.4 biliwn (15.2%) (r) hyd at £13.6 biliwn, o'i gymharu â 2022.
  • Cyfrifodd gwerthoedd mewnforion o'r UE 36.0% o gyfanswm gwerthoedd mewnforion Cymru, o'i gymharu â 53.6% ar gyfer y DU. 
  • Parhaodd 'Peiriannau ac Offer Thrafnidiaeth' fel y categori mewnforio gwerth mwyaf £7.8 biliwn - sy'n cyfrif am 36.8% o gyfanswm gwerthoedd mewnforion - cynnydd o £0.3 biliwn (3.5%) o'i gymharu â 2022. Yr ail gategori mwyaf oedd 'Tanwydd mwynol' gyda £6.6 biliwn (30.8%). o gyfanswm mewnforion.
    • ‘Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer ‘oedd y cynnyrch gwerth mwyaf o fewn y categori 'Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth’ - gwerth £3.3 biliwn (15.5%) o allforion Cymru. Mae hyn yn gynnydd o £0.1 biliwn (2.7%) o'i gymharu â 2022.
    • Yn y categori 'Tanwydd Mwynol', 'Petrolewm, Cynhyrchion Petroliwm a Deunyddiau Cysylltiedig' (SITC 33) oedd y cynnyrch gwerth uchaf gyda £5.9 biliwn (27.9%) o fewnforion Cymru. Mae hyn yn gostyngiad gwerth £1.5 biliwn (20.5%) o'i gymharu â 2022.

(r) Diwygiedig ar 10 Ebrill 2024.

Troednodiadau

[1] Mae hyn yn cynnwys Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer, Peiriannau Arbenigol ar gyfer Diwydiannau Penodol, Peiriannau Gwaith Metel, Peiriannau Diwydiannol Cyffredinol ac Offer a Rhannau Peiriant nad ydynt wedi'u pennu mewn mannau eraill, Peiriannau Swyddfa a pheiriannau ADP, Telathrebu a Recordio Sain ac Offer a Chyfarpar Atgynhyrchu, Peiriannau Trydan, Cyfarpar ac Offer a rhannau trydan nad ydynt wedi'u pennu mewn mannau eraill, Cerbydau Ffordd (gan gynnwys Cerbydau Clustogau Aer), Offer trafnidiaeth eraill.

Nodiadau

Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach ychwanegol a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEF ar yr ystadegau hyn.

Fe all rhywfaint o'r data allforion a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio ychydig gan CThEF fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan ‘UK Trade Info’.

Gwybodaeth bellach

Mae'r data uchod yn ymwneud â masnach nwyddau rhyngwladol. Mae'r ystadegau arbrofol diweddaraf (2021) a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cyfrif am oddeutu 30% o gyfanswm allforion yng Nghymru, a 20% o gyfanswm fewnforion. 

Cyhoeddir canlyniadau allweddol bob chwarter, ac maent ar gael ar dudalennau CThEF ‘UK Trade Info’, ein dangosfwrdd rhyngweithiol ein hunain yn ogystal â StatsCymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Cerys Ponting

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.