Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo masnachfraint Cymru a’r Gororau i ddwylo cyhoeddus er mwyn diogelu gwasanaethau, gwarchod swyddi a gwella seilwaith yng ngoleuni heriau di-dor y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O 7 Chwefror, Trafnidiaeth Cymru fydd yn rhedeg gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, hynny fel is-gwmni, ‘Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf/Transport for Wales Rail LTD’.

Cafodd y penderfyniad ei gyhoeddi yn y lle cyntaf ym mis Hydref 2020, yn dilyn cwymp sylweddol yn nifer y teithwyr.  Y bwriad yw sicrhau’r sefydlogrwydd ariannol tymor hir sydd ei angen i fwrw ymlaen â chynlluniau i wella’r seilwaith a gwella’r gwasanaethau i deithwyr.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd:

“Mae gwasanaethau’n rheilffyrdd yn ased hynod bwysig y mae’n rhaid ei ddiogelu. Ers dechrau’r pandemig, rydym wedi rhoi llawer iawn o arian i gadw’r trenau i redeg.  

Mae’r angen am fwy o reolaeth gyhoeddus yn sgil pwysau di-baid y coronafeirws a’r heriau sy’n cael eu teimlo ar draws y diwydiant rheilffyrdd gan fod y galw’n parhau’n isel.

“Rydym yn benderfynol o gadw at yr ymrwymiadau a wnaethom ar ddechrau taith Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys creu systemau Metro a chyflenwi cerbydau newydd sbon. Bydd dod â’r fasnachfraint o dan reolaeth gyhoeddus yn ein helpu i sicrhau’r dyfodol gwell hwn i deithwyr. Mae’n drafnidiaeth gyhoeddus, sy’n eiddo i’r cyhoedd, er lles y cyhoedd.”

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Mae’r rheilffyrdd yn rhan annatod o rwydwaith trafnidiaeth Cymru ac rydym am iddyn nhw fod hyd yn oed yn bwysicach yn y dyfodol.

“Mae mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd yn golygu ei gwneud yn haws i bobl adael eu ceir a throi at gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.  Bydd 

Trafnidiaeth Cymru yn gweithio yn yr holl feysydd hyn i greu system trafnidiaeth integredig a mwy cyfleus.

"Bydd rhoi’r fasnachfraint yn nwylo’r cyhoedd yn ein helpu i droi’r uchelgais hon yn realiti i deithwyr.”

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:

“Mae Covid 19 wedi cyflwyno sawl her i ni yn TrC a bydd y rhain yn parhau wrth i ni esblygu fel sefydliad.  Fodd bynnag, rydym wedi gallu aros yn gadarn, a’n prif flaenoriaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn oedd cadw ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yn ddiogel.

“Bydd y cam nesaf hwn ar ein taith yn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr ar draws ein rhwydwaith, diogelu swyddi a chyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol i wella’r rhwydwaith trafnidiaeth.

“Ar ddechrau mis Ionawr, llwyddwyd i gwblhau blocâd tair wythnos ar y rheilffyrdd i’r gogledd o Radur, gan ein galluogi i symud ymlaen gyda cham nesaf y gwaith ar gyfer Metro De Cymru.”

“Rydyn ni’n parhau i gyflawni ein cynlluniau trawsnewidiol, a bydd y model newydd hwn yn ein galluogi i gyflawni’n gweledigaeth a gwella bywydau pobl ledled Cymru a’r Gororau."