Materion allweddol: cyfathrebiadau digidol
Bydd holl waith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn seiliedig ar dystiolaeth. Bydd ein gwaith ar gyfathrebiadau digidol dros y flwyddyn nesaf yn canolbwyntio ar y ddau fater isod. Mae’r cwestiynau’n rhoi mwy o fanylder ynglyn â’r fath o dystiolaeth ry’n ni nawr yn ei cheisio.
Cynnwys
Band eang cyflym iawn
Ar hyn o bryd, rydyn ni o’r farn, tra bod nifer sylweddol o eiddo yng Nghymru yn methu cael mynediad at fand eang cyflym iawn o hyd, o ran cyllid cyhoeddus, dylid canolbwyntio’n bennaf ar ymestyn band eang cyflym iawn i gynifer o gartrefi â phosibl, gan ddefnyddio’r dechnoleg leiaf costus, ac y dylid asesu’r arian cyhoeddus a fyddai’n angenrheidiol i ymestyn ffeibr i bob cartref yng Nghymru erbyn 2033 yn erbyn defnyddiau eraill posibl. Rydyn ni’n chwilio am dystiolaeth ynghylch a fydd ffocws Llywodraeth y DU ar ymestyn technoleg gigabit, ffeibr drytach i bob cartref yn y DU yn gofalu am fuddiannau dinasyddion Cymru yn y ffordd orau, gan gynnwys y rhai hynny sydd yn dal i fod ddim yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn.
Cwestiynau i randdeiliaid:
- Oes yna dystiolaeth bod gwerth buddion economaidd rhaglen CyflymuCymru, a chymharu â chostau, yn rhagori ar fuddion rhaglenni cyfatebol yng ngweddill y DU? Os yw’r dystiolaeth yn bodoli – ydy hi’n egluro pham bod buddion CyflymuCymru yn rhagori?
- Faint sydd wedi defnyddio Talebau Band Eang Gigabit yng Nghymru a sut mae hyn yn cymharu â'r nifer sy'n manteisio dros weddill y DU?
- A oes unrhyw dystiolaeth economaidd o fuddion ffeibr i’r cartref (yn ychwanegol at fuddion band eang cyflym iawn) i fusnesau neu aelwydydd yng Nghymru?
- Tan bryd y bydd trothwy Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol (USO) band eang y DU o 10 Mbit yr eiliad yn parhau i fod yn berthnasol i aelwydydd? A ddylid ei gynyddu cyn 2033, pan fydd Llywodraeth y DU yn disgwyl i bob cartref yn y DU cael mynediad at ffeibr i’r cartref? Os felly, pa dechnoleg fyddai'n cael ei defnyddio i gyflawni'r rhwymedigaeth ddiwygiedig?
- A ddylai fod yn ofynnol i rai cartrefi sydd â band eang cyflym iawn o 30 Mbit yr eiliad aros tan 2033 i gael band eang cyflymach o gysylltiad ffeibr i’r cartref? Os na, pa dechnolegau y dylid eu defnyddio yn y cyfamser a pha bolisïau sy'n ofynnol i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio?
- Pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ddarparu ffeibr i’r cartref i Gymru ar ôl i Lywodraeth y DU wneud yn 2017?
- Faint o aelwydydd yng Nghymru y mae Llywodraeth Cymru yn meddwl y gellid neu a fydd yn cael mynediad at ffeibr i’r cartref ar sail fasnachol? I ba raddau y mae hyn yn dibynnu ar weithredu mesurau a gynigiwyd yn Adolygiad Seilwaith Telathrebu Dyfodol (FTIR) Llywodraeth y DU?
- A yw Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif cost ymestyn ffeibr i’r cartref i 100% o aelwydydd Cymru erbyn 2033, fel y mae polisi cyfredol Llywodraeth y DU yn ei gynnig?
- Pa gyfran o 15 miliwn o aelwydydd ffeibr i’r cartref BT ar gyfer 2025 a allai fod yng Nghymru?
- I faint o aelwydydd y bydd rhaglen ‘Project Lightening’ Virgin Media yn cyflwyno ffeibr i’r cartref?
- Pam nad oes mwy o gynlluniau band eang cymunedol yng Nghymru? Beth arall y gellid ei wneud a faint o aelwydydd y gellid eu gwasanaethu gyda ffeibr i’r cartref gan ddefnyddio'r model hwn? A fyddai cynlluniau band eang cymunedol yn ffafrio cymunedau cyfoethog (ac a yw hyn o bwys)?
- Pa gyfran o gronfa Her Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol Llywodraeth y DU (£200 miliwn) sydd wedi'i dyrannu i brosiectau yng Nghymru?
- Pa gyfran o Gynllun Cysylltedd Gigabit Gwledig Llywodraeth y DU y disgwylir iddo gael ei ddyrannu i brosiectau yng Nghymru?
Band eang symudol
Dyma ein barn dros dro: mae hi’n bosibl mai band eang symudol 4G a 5G yw’r dechnoleg leiaf costus i ddarparu cysylltiadau cyflym iawn i rai cartrefi yng Nghymru; mae cysylltedd symudol yn arwain at fanteision cymdeithasol ac economaidd ychwanegol sylweddol mewn cymunedau gwledig; ac felly, dylid dyrannu cyfran fwy o arian cyhoeddus i’r seilwaith symudol, yn hytrach na’r seilwaith band eang sefydlog nac unrhyw amcanion seilwaith eraill. Rydyn ni’n chwilio am dystiolaeth ynghylch a allai Llywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol gymryd unrhyw gamau ychwanegol (yn annibynnol ar Ofcom, y cwmnïau eu hunain, neu Lywodraeth y DU), a pha rai fyddai’n gwella’r ddarpariaeth band eang symudol, gan gynnwys 5G, yn sylweddol yng Nghymru. Pa amcanion ddylem eu cael ar gyfer y ddarpariaeth symudol?
Cwestiynau i randdeiliaid:
- A ddylai Cymru fod â thargedau seilwaith signal ffonau symudol a strategaeth i'w cyflawni (yn ychwanegol at unrhyw beth y gallai Llywodraeth y DU gytuno arno gyda gweithredwyr ffonau symudol y DU fel y cyhoeddwyd ym mis Hydref 2019)? Os felly, beth ddylen nhw fod?
- A yw targed Llywodraeth y DU y dylai mwyafrif y boblogaeth allu cael mynediad at wasanaethau 5G erbyn 2027 yn un y dylai Cymru ei fabwysiadu (a sut mae hyn yn wahanol i'r targed ledled yr UE bod dinasoedd a phrif lwybrau trafnidiaeth yn cael eu cynnwys erbyn 2025) ?
- Beth fyddai buddion economaidd-gymdeithasol ymestyn darpariaeth signal yng Nghymru (a) o fewn adeiladau (b) y tu allan (y tu hwnt i'r hyn a gynigiwyd yn y cytundeb arfaethedig rhwng Llywodraeth y DU a'r diwydiant symudol)? Ydy’r buddion wedi'u meintioli?
- Beth yw statws cyfredol yr ‘achos busnes’ ar gyfer cymhorthdal i safleoedd symudol ‘in fill’, y cyfeiriodd y Gweinidog ato yn ei hymateb i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn 2018 (tudalen 26)? Pa gasgliadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu tynnu ohono a sut y bydd y cytundeb arfaethedig rhwng y diwydiant symudol a Llywodraeth y DU yn effeithio ar y cynlluniau hyn a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019?
- Sut gallai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cymhorthdal cyhoeddus i fastiau symudol sy’n mynd i’r afael â ‘total not spots’ yn sgorio’n uwch nag un mewn cymhareb budd i gost?
- Beth yw’r cymhareb budd i gost mae Llywodraeth y DU yn disgwyl o'r £500 miliwn y mae'n bwriadu ei fuddsoddi yn y Rhwydwaith Gwledig a Rennir?
- Ydy defnyddio 5G ar gyfer band eang cartref yn optiwn ymarferol, o leiaf dros dro nes bod seilwaith ffeibr i’r cartref yn ei le (neu fel backstop yn erbyn y risg na fydd ffeibr i’r cartref byth yn cael ei ddefnyddio mewn rhai ardaloedd)? Beth sy'n ofynnol er mwyn darparu band eang cartref 5G i nifer sylweddol o aelwydydd a busnesau yng Nghymru (gan gynnwys y rhai sydd ar hyn o bryd heb fynediad at gysylltiad band eang sefydlog o fwy na 10 Mbit yr eiliad)?
- A oes unrhyw dystiolaeth o gostau cymharol darparu gwasanaethau band eang o > 100 Mbit yr eiliad trwy 5G, o gymharu â thrwy ffeibr i’r cartref, i aelwydydd a busnesau mewn ardaloedd gwledig?
- A yw gwasanaethau band eang cartref 5G cyfredol yn gynaliadwy ar bwyntiau prisiau cyfredol wrth i'r defnydd o ffonau clyfar gynyddu? A fyddent yn gynaliadwy dim ond mewn ardaloedd llai poblog lle mae'r galw gan ddefnyddwyr symudol yn is?
- A yw barn gyfredol Ofcom (a Llywodraeth y DU) o’r darpariaeth symudol yng Nghymru yn gywir (t. 28)? A ellir ei gysoni â chanfyddiadau eraill, megis astudiaeth Arcadis 2017? A ddylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi mewn datblygu darlun gwell o’r darpariaeth yng Nghymru? Os felly, sut?
- A yw EE a Three wedi cydymffurfio â'u hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau llais symudol i 90% o ehangdir y DU erbyn 2017? (Nid yw data Ofcom o Fai 2019 yn awgrymu hynny.)
- A yw Cymru'n cymryd rhan ddigonol yn y gwahanol fentrau sy'n cael eu cynnal fel rhan o strategaeth 5G y DU, megis rhaglenni treialon 5G, y Gronfa Cymunedau Cysylltiedig Gwledig ac amrywiol weithgareddau sy'n ymwneud â darpariaeth symudol ar ochr y ffordd ac ar ochr y trac? Sut y dylid cydgysylltu a rheoli ymgysylltiad o'r fath?
Sut mae ymateb
Nodwch pa fater(ion) a chwestiwn/cwestiynau mae eich tystiolaeth yn cyfeirio ato/atynt. Dylid anfon ymatebion drwy e-bost i:
ComisiwnSeilwaithCenedlaetholCymru@llyw.cymru
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu eglurhad arnoch, bydd ysgrifenyddiaeth y comisiwn yn cysylltu â chi. Os oes angen cyflwyno copi caled arnoch, anfonwch eich ymatebion i:
Swyddfa Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
Yr Adran Gynllunio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Byddai ysgrifenyddiaeth y comisiwn yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cais hwn am dystiolaeth drwy e-bost yn y cyfeiriad uchod.
Datganiadau preifatrwydd a rhyddid gwybodaeth
Mae’n bosibl y byddwn yn cyhoeddi ymatebion sy’n dod i law. Os ydych chi’n credu bod rheswm pam y dylai eich ymateb neu unrhyw ran ohono gael ei ystyried yn gyfrinachol, rhowch fanylion os gwelwch yn dda. Mae’n bosibl y bydd gwybodaeth a roddir mewn ymateb i’r cais hwn am dystiolaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, yn cael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu ddeddfwriaeth berthnasol arall.
Os ydych chi am i wybodaeth rydych chi’n ei rhoi gael ei thrin yn gyfrinachol, dylech fod yn ymwybodol bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio â chod ymarfer statudol o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth sy’n ymdrin â rhwymedigaethau cyfrinachedd, ymysg pethau eraill.
O gofio hyn, byddai’n ddefnyddiol pe baech chi’n gallu esbonio pam rydych chi’n ystyried yr wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi yn gyfrinachol. Os bydd y comisiwn yn cael cais am ddatgelu’r wybodaeth, bydd yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni all roi sicrwydd y bydd modd cadw cyfrinachedd o dan bob amgylchiad.
Bydd y comisiwn yn prosesu eich data personol yn unol â’r gyfraith diogelu data berthnasol.