Mathau o ystadegau ac ymchwil
Mae’r Gwasanaethau Ystadegol yn cynhyrchu nifer fawr o allbynnau bob blwyddyn
Allbynnau ystadegol
- Datganiadau Ystadegol Cyntaf cyhoeddi data am y tro cyntaf o set ddata newydd.
- Mae bwletinau ystadegol yn ddiweddarach yn ddadansoddiad manylach o set ddata a gyhoeddwyd eisoes.
- Erthyglau Ystadegol yn ymwneud â dadansoddiad unigol lle nad oes unrhyw gynlluniau i’w ddiweddaru.
Ystadegau Swyddogol
Mae bron yr holl allbynnau ystadegol yn cael eu diffinio’n Ystadegau Swyddogol yn ôl Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007. Maent yn cael eu cynhyrchu yn unol ag egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Pan nad ydynt yn Ystadegau Swyddogol, mae egwyddorion y Cod yn parhau i gael eu dilyn.
Ystadegau Gwladol
Ystadegau Swyddogol sydd wedi'u hardystio gan Awdurdod Ystadegau'r DU i fod yn unol â'i God Ymarfer yw Ystadegau Gwladol.
Ewch i wefan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig am fwy o wybodaeth.
Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth
Ymchwil sydd wedi'i chynnal yn unol â Cod ymarfer Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth yw Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.