Neidio i'r prif gynnwy

Bydd darpariaethau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ("Deddf 2016") yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2022.  Bydd Deddf 2016 yn helpu i egluro hawliau a chyfrifoldebau deiliaid contractau a landlordiaid yng Nghymru. 

Ar y dyddiad y daw Deddf 2016 i rym ("y diwrnod penodedig") bydd yr holl denantiaethau sicr yng Nghymru yn troi'n gontractau meddiannaeth.

Ar y diwrnod penodedig, bydd unrhyw feddaniaethau amaethyddol sicr ("AAOs") sy'n bodoli yng Nghymru, yn cael eu trin yn yr un modd â thenantiaethau sicr, hynny yw, byddant yn trosi'n gontractau meddiannaeth o dan Ddeddf 2016 a bydd darpariaethau perthnasol Deddf 2016 yn gymwys, gan gynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â hawliau aseiniadau, olyniaeth, goroesedd ac etifeddiaeth.

Er mwyn sicrhau bod diogelwch deiliadaethau a ddarperir ar hyn o bryd gan AAOs yn cael ei gadw, bydd tenantiaethau cyfnodol sy'n AAOs yn troi'n gontractau meddiannaeth safonol na fydd yn ddarostyngedig i adran 173 o'r Ddeddf, sy'n golygu na all y landlord gyflwyno hysbysiad landlord (hysbysiad 'dim bai' fel y'i gelwir) mewn perthynas â'r contractau hyn. Bydd tenantiaethau tymor penodol sy'n AAOs yn troi'n gontractau safonol tymor penodol na fyddai adran 173 yn berthnasol iddynt. Pan fo contract safonol cyfnodol yn codi ar ddiwedd y cyfnod penodol, ni fydd y contract safonol cyfnodol hwn hefyd yn ddarostyngedig i hysbysiad adran 173. 

Yn olaf, mewn perthynas â'r contractau meddiannaeth hyn, os yw'r landlord yn hysbysu deiliad y contract bod rhent yn codi, bydd gan ddeiliad y contract hawl i wneud cais i'r Pwyllgor Asesu Rhent am ddyfarniad rhent.

O'u rhan hwy, bydd gofyn i ddeiliaid contract feddiannu'r annedd fel eu hunig neu brif gartref.  Os nad yw deiliad y contract yn meddiannu'r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref, byddant yn torri contract, sy'n golygu y gall y landlord geisio meddiant yn rhinwedd adran 157 o Ddeddf 2016.

Pan ddaw darpariaethau Deddf 2016 i rym ar 1 Rhagfyr 2022 ni fydd hi'n bosibl creu unrhyw AAOs pellach yng Nghymru: bydd pob tenantiaeth neu drwydded newydd sy'n cael eu cynnwys ar ôl y dyddiad hwnnw naill ai'n gontractau meddiannaeth diogel neu'n gontractau meddiannaeth safonol.