Neidio i'r prif gynnwy

Dysgwch am y tarfu ar gyflenwadau meddyginiaethau ADHD a sut i gael eich presgripsiwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw'r broblem?

Ers hydref 2023, mae tarfu ar gyflenwadau meddyginiaethau ADHD. Mae pobl sy'n cael meddyginiaethau ADHD ar bresgripsiwn wedi wynebu trafferthion wrth geisio cael gafael ar rai o'r meddyginiaethau hyn.

Mae'r tarfu sy'n effeithio ar nifer o'r meddyginiaethau hyn bellach wedi'i ddatrys. Fodd bynnag, rydym yn dal i fonitro'r sefyllfa o ran y cyflenwad o feddyginiaethau sy'n cynnwys methylffenidad.

Pam mae yna brinder?

Mae achosion o darfu ar gyflenwadau yn cael effaith ledled y DU ac fe'u hachosir gan gyfuniad o faterion gweithgynhyrchu a chynnydd yn y galw byd-eang.

Pryd mae disgwyl i'r prinder gael ei ddatrys?

Mae achosion o darfu parhaus ar wahanol frandiau o dabledi methylffenidad sy’n rhyddhau dan reolaeth. 

Pan gaiff achosion o darfu ar gyflenwadau eu datrys, gall gymryd ychydig o amser i gyflenwadau lleol sefydlogi. Mae hyn oherwydd bod angen i gyfanwerthwyr a fferyllfeydd cymunedol gael cyflenwad o stoc. Yn ogystal, mae angen i'r fferyllfeydd hynny ddosbarthu unrhyw bresgripsiynau a gadwyd yn ôl yn ystod y cyfnod pan oedd cyflenwadau yn brin. 

Beth sy'n cael ei wneud i ddatrys y prinder?

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gynnal parhad cyflenwadau meddyginiaethau i'r DU. Hoffem sicrhau bod unrhyw darfu ar gyflenwadau yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar y mwyafrif o bobl sy'n cael y meddyginiaethau hyn ar bresgripsiwn. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn gweithio gyda:

  • Llywodraeth y DU
  • Yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd
  • byrddau iechyd
  • meddygon teulu
  • fferyllfeydd cymunedol

Rydym yn rhoi ystod o gamau gweithredu ar waith i liniaru effeithiau'r tarfu ar gyflenwadau meddyginiaethau ADHD. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor clinigol i bresgripsiynwyr ar opsiynau triniaeth amgen. Mae hyn yn crynhoi'r gwahaniaethau rhwng gwahanol feddyginiaethau ADHD a rhwng brandiau meddyginiaethau sy'n cynnwys yr un cynhwysyn actif.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi gosod gwaharddiad ar gyfanwerthwyr rhag allforio neu grynhoi cyflenwadau o feddyginiaethau ADHD.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n cael trafferth cael fy mhresgripsiwn?

Yn y lle cyntaf, dylech geisio cysylltu â fferyllfeydd gwahanol.

Efallai y bydd rhai fferyllfeydd mwy yn darparu gwirwyr stoc ar-lein. Mae'r rhain yn eich galluogi chi i chwilio am fferyllfeydd yn eich ardal chi a allai fod â stoc.

Ym mhob achos, byddai'n ddoeth ichi ffonio'r fferyllfa cyn mynd. Gellir cael gwybodaeth am gysylltu â fferyllfeydd yn eich ardal yn GIG 111 Cymru.

Os ydych chi'n parhau i gael trafferth cael cyflenwad o feddyginiaeth, a hynny ar ôl cysylltu â fferyllfeydd gwahanol, efallai y bydd angen ichi siarad â'ch arbenigwr neu'ch meddyg teulu ynghylch meddyginiaethau neu gamau eraill y gallwch chi eu cymryd i helpu i reoli unrhyw symptomau.