Medrau llythrennedd, rhifedd a digidol mewn dysgu oedolion yn y gymuned: ymateb y llywodraeth
Yr hyn yr ydyn ni’n bwriadu ei wneud mewn ymateb i adroddiad Estyn ar medrau llythrennedd, rhifedd a digidol mewn dysgu oedolion yn y gymuned.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion yr adroddiad
Comisiynodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg (ar y pryd) Estyn (fel rhan o'i gylch gorchwyl blynyddol, 2024 i 2025) i adolygu pa mor dda mae sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol yn cael eu haddysgu drwy ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned. Bwriad yr adolygiad yw cefnogi blaenoriaeth y Gweinidog i sicrhau sgiliau sylfaenol ym maes dysgu oedolion, a helpu i gyflawni'r cerrig milltir a osodwyd ar gyfer Cymru i leihau nifer yr oedolion o oedran gweithio yng Nghymru sydd heb gymwysterau neu sydd â lefel gymwysterau isel.
Yn dilyn sefydlu Medr a throsglwyddo'r cyfrifoldeb i Medr o ran gweithredu polisi ac arferion gweithredol Dysgu Oedolion yn y Gymuned, bwriad yr adroddiad hwn hefyd yw llywio ymrwymiad Medr (Nod Strategol 2) i: ‘Adolygu dysgu oedolion yn y gymuned ac ystyried sut y gellir gwneud gwelliannau i ddarpariaeth sgiliau hanfodol ac iaith sylfaenol.’
Crynodeb o'r prif ganfyddiadau
Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar y ddarpariaeth ar gyfer sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol i oedolion yn y sector dysgu oedolion yn y gymuned. I lawer, mae'r ddarpariaeth hon yn cynnig ail gyfle i ddatblygu'r sgiliau sylfaenol hyn, neu i wella eu rhagolygon am swyddi, cefnogi eu plant neu adeiladu'r hyder i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas.
Mae'r adroddiad wedi'i strwythuro o amgylch pedair thema: ymgysylltu â dysgwyr; addysgu a dysgu proffesiynol; darpariaeth, cynnydd a chanlyniadau; darpariaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg o ran y sgiliau hyn.
Mae'n tynnu sylw at ddulliau ymgysylltu ac addysgu effeithiol o fewn y sector, a chyfraddau cwblhau uchel sy'n adlewyrchu'r dulliau wedi'u teilwra. Gan gydnabod natur ac anghenion amrywiol (darpar) (d)dysgwyr, mae'n galw am waith parhaus a chryfach i ymgysylltu; ac yn argymell ffyrdd o wella dulliau o asesu a monitro cynnydd dysgwyr, a ffyrdd o fesur a chydnabod yr ystod eang o ganlyniadau cadarnhaol tymor hwy.
Mae'r adroddiad yn nodi'r galw isel am y sgiliau hyn, a lefel ddarpariaeth isel, drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, ac mae'n galw am fwy o gydweithrediad lleol gyda sefydliadau eraill i ehangu ar yr enghreifftiau hynny o arfer da yn y maes hwn.
Argymhellion
Argymhellion ar gyfer Medr a Llywodraeth Cymru
Argymhelliad 1
Adolygu’r ffordd y defnyddir data i fesur deilliannau ar gyfer dysgwyr mewn DOG, gyda ffocws newydd ar ba mor effeithiol y mae darpariaeth yn cynorthwyo dysgwyr i wneud cynnydd.
Argymhelliad 2
Datblygu methodolegau ar gyfer mesur dilyniant a chadw dysgwyr mewn darpariaeth DOG, o fewn y ddarpariaeth, a’r tu hwnt iddi.
Argymhelliad 3
Gwella cyfleoedd i bartneriaethau gymharu a meincnodi eu cynnig darpariaeth, dilyniant dysgwyr a deilliannau gyda phartneriaethau eraill.
Argymhelliad 4
Datblygu canllawiau clir ar gyfer partneriaethau DOG am y disgwyliadau ar gyfer eu darpariaeth, gyda chydbwysedd lleol addas a hyblyg ar gyfer:
- ymgysylltiad, ar gyfer y rhai y mae angen iddynt gymryd y camau cyntaf tuag at ddysgu ffurfiol
- medrau llythrennedd, rhifedd a digidol
- medrau i baratoi oedolion ar gyfer cyflogaeth a chwilio am swydd
- lles a datblygiad personol
- darpariaeth a gynigir yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg
Argymhelliad 5
Gwella argaeledd a chysondeb rhaglenni dysgu teuluol, fel ffordd o ennyn diddordeb dysgwyr a darpar ddysgwyr yn narpariaeth medrau llythrennedd, rhifedd a digidol dysgu oedolion yn y gymuned.
Argymhelliad 6
Sicrhau bod gan bartneriaethau gytundebau partneriaeth cadarn rhwng eu darparwyr cyfansoddol, gan amlinellu’n glir y trefniadau ar gyfer arweinyddiaeth ac atebolrwydd, cyllid, darpariaeth, dilyniant a sicrhau ansawdd.
Argymhelliad 7
Hyrwyddo dysgu proffesiynol – achrededig ac anachrededig – sy’n cynorthwyo tiwtoriaid i ddatblygu medrau addysgu yn benodol i bwnc.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r canfyddiadau yn yr adroddiad a, lle bo'n briodol, byddant yn gweithio gyda Medr a'i bartneriaid i gefnogi'r argymhellion.
Mae argymhellion 1 i 4 a 6 i 7 ar gyfer Medr.
Mae Argymhelliad 5 ar gyfer Llywodraeth Cymru
Mae Fframwaith Dysgu fel Teulu, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a'i gyhoeddi ar 2 Gorffennaf 2025, yn darparu model hyblyg i ddarparwyr addysg oedolion ac ysgolion sydd am gymryd rhan neu ddatblygu darpariaeth dysgu i deuluoedd. Ei nod yw cryfhau rôl dysgu teuluol fel llwybr i ddysgu pellach, datblygu sgiliau, cyflogadwyedd a chyfleoedd cyflogaeth. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r fframwaith ac yn monitro ei ddefnydd i sicrhau ei fod yn llwyddiannus wrth ymgysylltu â chymunedau targed.
Argymhelliad ar gyfer partneriaethau
Argymhelliad 8
Sicrhau bod gan ddysgwyr neu ddarpar ddysgwyr ffyrdd hygyrch ac uniongyrchol o ddod i wybod am ddarpariaeth y bartneriaeth lawn, sy’n ystyried y rhwystrau sy’n wynebu oedolion wrth ymgysylltu â dysgu.
Argymhelliad 9
Sicrhau bod cynllunio darpariaeth yn caniatáu llwybrau clir i ddysgwyr i symud ymlaen i lefelau pellach wrth iddynt ddysgu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol.
Argymhelliad 10
Mireinio hunanwerthuso i ganolbwyntio’n gliriach ar sut mae dysgwyr yn symud ymlaen i ddarpariaeth llythrennedd, rhifedd a digidol, trwy’r ddarpariaeth, a’r tu hwnt iddi Medrau llythrennedd, rhifedd a digidol mewn dysgu oedolion yn y gymuned.
Argymhelliad 11
Defnyddio ystod eang o wybodaeth i werthuso sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd, gan gynnwys deilliannau a data cofrestru, ond gwybodaeth hefyd o gynlluniau dysgu unigol, gwybodaeth o asesiadau cychwynnol ac ailadroddol a dyheadau’r dysgwyr eu hunain.
Argymhelliad 12
Gwneud y mwyaf o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol, ysgolion ac asiantaethau statudol i ennyn diddordeb dysgwyr newydd mewn darpariaeth i gefnogi medrau llythrennedd, rhifedd a digidol.
Argymhelliad 13
Nodi cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth i gynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog.
Argymhelliad 14
Sicrhau bod dysgu proffesiynol ar gyfer tiwtoriaid yn cynnwys ffocws priodol ar ddatblygu medrau addysgu yn benodol i bwnc fel bod gan diwtoriaid ystod eang o offer addysgu i ddiwallu anghenion dysgwyr.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu ac yn cefnogi'r argymhellion hyn sydd wedi’u llunio ar gyfer partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned.
Argymhelliad ar gyfer tiwtoriaid yn y sector
Argymhelliad 15
Sicrhau bod eu harfer addysgu yn cael ei llywio gan ddysgu proffesiynol yn yr addysgeg sy’n benodol i bwnc ar gyfer addysgu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol i oedolion.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu ac yn cefnogi'r argymhelliad hwn sydd wedi’i lunio ar gyfer y tiwtoriaid.
Manylion cyhoeddi
Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 18 Medi 2025, a gellir ei weld ar wefan Estyn.
Gellir gweld ymateb Medr i'r argymhellion ar Newyddion a chyhoeddiadau: Medr.
