Neidio i'r prif gynnwy
Llun o Mehreen Suleman Is-gadeirydd Pwyllgor Optometrig Cymru

Is-gadeirydd Pwyllgor Optometrig Cymru

BSc (Anrhyd), MCOptom, Tystysgrif Ôl-raddedig IP, Tystysgrif Broffesiynol Glawcoma

Graddiodd Mehreen o Brifysgol Aston yn 2010 ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio fel Optometrydd a Goruchwyliwr Cyngofrestru mewn amrywiaeth o leoliadau ymarfer ledled y DU. Ers 2019 mae wedi'i lleoli yng ngogledd Cymru, gan weithio fel optometrydd cymunedol a phresgripsiynydd annibynnol gan ddarparu gwasanaethau Gwasanaeth Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS), ac fel Optometrydd Arbenigol yn y Gwasanaeth Llygaid yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae'n aelod gweithredol o Bwyllgor Optegol Rhanbarthol Gogledd Cymru, mae'n gwasanaethu fel Arweinydd Cydweithredol Optometreg ar gyfer Clwstwr Gogledd-ddwyrain Sir y Fflint, ac mae'n eistedd ar Banel Cynghori Polisi Coleg yr Optometryddion. Mae'n angerddol am ddyfodol optometreg, gan eirioli dros grwpiau cleifion agored i niwed a gwella cydweithredu rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd.