Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wrth arfer eu swyddogaethau. Gosodir y ddyletswydd hon gan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Ystyriwyd CCUHP yn wreiddiol o dan y diwygiadau AGA gan gyfrannu at y ddogfen Meini Prawf a gyhoeddwyd yn 2017. Mae'r Meini Prawf diwygiedig yn ei gwneud yn fwy eglur y disgwyliadau o dan CCUHP a sut y mae dysgwyr mewn ysgolion i’w cefnogi o dan adran 5.11 o'r ddogfen Meini Prawf (mae'r adran hon hefyd yn trafod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (CCUHPA)). Mae hi’n ofynnol cael Asesiad llawn o’r Effaith ar Hawliau Plant ac mae wedi ei gwblhau.

Yr erthyglau CCUHP a ganlyn yw’r rhai mwyaf perthnasol i’r cynnig:

  • Erthygl 3 1. “In all actions concerning children, whether undertaken by public or private social welfare institutions, courts of law, administrative authorities or legislative bodies, the best interests of the child shall be a primary consideration.”
  • Erthygl 29 1. “States Parties agree that the education of the child shall be directed to: (a) The development of the child’s personality, talents and mental and physical abilities to their fullest potential;”
  • Erthygl 30 (plant o grwpiau lleiafrifol neu frodorol) 'In those States in which ethnic, religious or linguistic minorities or persons of indigenous origin exist, a child belonging to such a minority or who is indigenous shall not be denied the right, in community with other members of his or her group, to enjoy his or her own culture, to profess and practise his or her own religion, or to use his or her own Language”

Mae anghenion a hawliau dysgwyr ymhlith y gwerthoedd a'r ymagweddau sy'n sail i'r safonau proffesiynol y mae'n ofynnol i athrawon cymwys eu bodloni er mwyn gallu ymarfer yng Nghymru. Nid yw'r gofyniad i athrawon sy'n fyfyrwyr fodloni safonau’r Statws Athro Cymwysedig (SAC) (yn rhan o'r safonau proffesiynol ehangach) drwy eu cymwysterau AGA wedi newid.

Mae'r asesiad llawn wedi penderfynu bod y ddogfen Meini Prawf yn gwella hawliau plant o dan yr Erthyglau a ddyfynnir uchod.

Asesiad o’r effaith ar hawliau plant

Amcanion polisi

Mae'r asesiad hwn yn ymwneud â'r Meini Prawf diwygiedig ar gyfer Achredu Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru (y 'Meini Prawf’). Cyhoeddwyd y Meini Prawf gwreiddiol yn 2017 a'r bwriad oedd sicrhau ansawdd AGA i athrawon sy'n fyfyrwyr ac, yn y tymor hwy, helpu i wella’r addysgu mewn lleoliadau a gynhelir gan gynnwys addysgu'r cwricwlwm newydd, diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a thegwch mewn addysg. Mae'r Meini Prawf wedi'u hadnewyddu fel bod pob rhan o’r gyfres nesaf o Raglenni AGA achrededig yng Nghymru yn:

  • adlewyrchu’r diwygiadau addysgol sefydledig yng Nghymru, gan ymgorffori newidiadau deddfwriaethol a chyfeiriadau at y canllawiau diweddaraf ar faterion cysylltiedig
  • adlewyrchu'r gwersi a ddysgwyd o'r broses achredu gyntaf, y ddarpariaeth achrededig, a'r pandemig
  • gwreiddio arferion da o bob rhan o'r sector AGA i gryfhau'r ddarpariaeth a Phartneriaethau ymhellach
  • codi ein huchelgeisiau a'n disgwyliadau ar gyfer rhaglenni a Phartneriaethau AGA er mwyn cefnogi ein nod o AGA flaenllaw yng Nghymru i barhau i alluogi sefydliadau ac unigolion i ffynnu a chreu'r amodau i sicrhau ystafelloedd dosbarth cynhwysol i bob dysgwr

Bydd y Meini Prawf diwygiedig hyn yn llywio rhaglenni AGA a gaiff eu hachredu gan Fwrdd Achredu Addysg Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg yn y dyfodol, ac yn arwydd o'r ymrwymiad cenedlaethol estynedig i'r diwygiadau a'r daith barhaus tuag at sicrhau proffesiwn addysgu o ansawdd uchel a gefnogir yn dda.

Mae'r cynnig hwn yn ffurfio un o lawer o ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cefnogi ymarferwyr, gan sicrhau bod athrawon newydd sy'n ymuno â'r proffesiwn yn meddu ar yr wybodaeth a'r sgiliau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr yn yr ystafell ddosbarth.

Bydd canlyniadau arfaethedig cwricwlwm a gyflwynir yn llwyddiannus drwy ddysgu ac addysgu o ansawdd uchel yn gwella addysg plant a phobl ifanc.

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Bwriad y cynnig yw effeithio ar fywydau plant yn gadarnhaol; sicrhau bod athrawon newydd yn barod ac yn hyderus i gyflwyno diwygiadau addysg, yn enwedig ar gyfer y Cwricwlwm newydd, diwygiadau ADY a thegwch mewn addysg.

Nid oedd y plant a’r bobl ifanc yn rhan uniongyrchol o waith cyd-lunio i ddatblygu'r Meini Prawf. Fodd bynnag, byddant yn fuddiolwyr anuniongyrchol, gan y bydd y Meini Prawf yn arwain at weithlu addysgu gwell yn y tymor hwy, yn seiliedig ar dystiolaeth, yn ymdrin ag ymchwil, yn alluog ac yn barod i gyflwyno'r cwricwlwm i Gymru i bob dysgwr. Roedd modd i blant a phobl ifanc roi mewnbwn drwy'r ymgynghoriad ehangach ar y ddogfen Meini Prawf diwygiedig. Er hynny:

  • mae'r Meini Prawf yn dechnegol iawn, yn gofyn am arbenigedd penodol
  • ystyriwyd y byddai’r Meini Prawf yn annhebygol o ddenu llawer o ystyriaeth a mewnbwn gan y rhai nad oeddent yn gweithio yn y sector addysg
  • ni chafwyd fersiwn ar gyfer plant neu bobl ifanc o'r dogfennau ymgynghori, o ystyried y ddau bwynt uchod

Mae pob ymateb i'r ymgynghoriad wedi cael eu hystyried. Ni dderbyniwyd unrhyw ymatebion gan blant na phobl ifanc (na'u rhieni/gofalwyr).

Roedd y dystiolaeth a ddefnyddiwyd i adnewyddu'r Meini Prawf yn amrywio o arbenigwyr AGA a gomisiynwyd, partneriaid allweddol o ran cyflawni a chefnogi'r system AGA yng Nghymru (Partneriaethau AGA, Cyngor y Gweithlu Addysg ac Estyn) a rhanddeiliaid addysg ehangach, ac adroddiadau OECD (y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd) sy'n ymwneud ag AGA, dysgu proffesiynol ac addysg yng Nghymru.

Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith

Gan ddefnyddio'r dystiolaeth yr ydych chi wedi ei chasglu, pa effaith y mae eich polisi yn debygol o'i chael ar blant a phobl ifanc? Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i liniaru a/neu leihau unrhyw effeithiau negyddol?

Mae'r cynnig hwn yn ffurfio un o lawer o ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cefnogi ymarferwyr, gan sicrhau bod athrawon newydd sy'n ymuno â'r proffesiwn yn meddu ar yr wybodaeth a'r sgiliau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr yn yr ystafell ddosbarth.

Bydd deilliannau arfaethedig cwricwlwm a gyflwynir yn llwyddiannus drwy ddysgu ac addysgu o ansawdd uchel yn gwella addysg plant a phobl ifanc.

Sut mae eich cynnig yn gwella neu’n herio hawliau plant, fel a bennir gan yr Erthyglau CCUHP a’i Brotocolau Dewisol?

Cyfeiriwch at yr Erthyglau i weld pa rai sy’n berthnasol i’ch polisi chi.

Sut mae eich cynnig yn gwella neu’n herio hawliau plant?
Erthyglau CCUHP neu Brotocol Dewisol

Gwelliannau (X)

Heriau (X)

Eglurhad
Erthygl 3 1. “In all actions concerning children, whether undertaken by public or private social welfare institutions, courts of law, administrative authorities or legislative bodies, the best interests of the child shall be a primary consideration.”

X

 

Mae gwella ansawdd cymwysterau AGA a'r hyfforddiant y maent yn ei ddarparu i athrawon sy’n fyfyrwyr o fudd uniongyrchol i blant a phobl ifanc mewn lleoliadau a gynhelir yng Nghymru drwy sicrhau gweithlu addysgu o ansawdd uchel.
Erthygl 29 1. “States Parties agree that the education of the child shall be directed to: (a)The development of the child’s personality, talents and mental and physical abilities to their fullest potential;”

X

 

Mae'r Meini Prawf yn benodol yn ei gwneud yn ofynnol i gymwysterau AGA sicrhau bod athrawon sy’n fyfyrwyr yn diwallu anghenion pob plentyn o ran dysgu ac addysgu (o fewn eu cyfnod oedran a’u harbenigedd pwnc fel y bo'n briodol). Mae hyn yn cynnwys:

  • Y Cod ADY ac ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • addysgu gwrth-hiliol a chreu amgylcheddau dysgu cynhwysol
  • deall a dileu’r rhwystrau y gall dysgwyr unigol eu hwynebu o ran eu cyrhaeddiad oherwydd anfantais a thlodi a/neu ADY

Erthygl 30. (plant o grwpiau lleiafrifol neu frodorol) “'In those States in which ethnic, religious or linguistic minorities or persons of indigenous origin exist, a child belonging to such a minority or who is indigenous shall not be denied the right, in community with other members of his or her group, to enjoy his or her own culture, to profess and practise his or her own religion, or to use his or her own language”

 

X

 

Mae’r Meini Prawf yn benodol yn ei gwneud yn ofynnol i raglenni fynd i'r afael â phynciau sy'n cwmpasu astudiaethau proffesiynol ac addysgegol craidd sy’n defnyddio amrywiaeth o ddamcaniaethau, ymchwil ac adnoddau deallusol eraill i feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth athrawon sy’n fyfyrwyr ynghylch, ymysg pethau eraill, y canlynol:

  • natur amrywiol a chyfnewidiol y boblogaeth ysgolion yng Nghymru a pha mor berthnasol yw hyn i addysgu a dysgu
  • deall a rheoli'r rhwystrau amrywiol y mae dysgwyr yn eu hwynebu yn yr ysgol sy'n effeithio ar gyrhaeddiad addysgol a thegwch, dylai hyn gynnwys:
    • diwallu anghenion dysgwyr o gefndiroedd diwylliannol, ieithyddol, a chrefyddol amrywiol

Mae'r Meini Prawf yn gosod gofynion eglur ac ehangach (o iteriad 2018) yn ymwneud â datblygu darpariaeth Gymraeg mewn Partneriaethau AGA, darparu cymwysterau AGA drwy gyfrwng y Gymraeg, y gofynion ar yr holl athrawon sy'n fyfyrwyr o ran eu sgiliau Cymraeg a’r gofynion ar athrawon sy’n fyfyrwyr sydd am weithio yn y sector ysgolion cyfrwng Cymraeg/dwyieithog. Bydd hyn yn gwella dysgu ac addysgu Cymraeg a dysgu ac addysgu drwy gyfrwng Cymraeg i bob plentyn a pherson ifanc mewn lleoliadau a gynhelir.

Ystyriwch a oes unrhyw un neu ragor o Hawliau Dinasyddion yr UE (fel y cyfeirir atynt yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb) yn ymwneud â phobl ifanc hyd at 18 oed

Nid yw'r diwygiadau a wnaed yn cael unrhyw effeithiau ar Hawliau Dinasyddion yr UE nac ychwaith yn ymwneud â Dinasyddion yr UE hyd at 18 oed. Mae cymwysterau addysgu yng Nghymru yn gymwysterau lefel gradd felly nid ydynt ar gael i bobl o dan 18 oed.

I gael rhagor o wybodaeth am CCUHP a'i Brotocolau Dewisol, ewch i’r dudalen Hawliau Plant ar y fewnrwyd.

Cyngor a phenderfyniad gweinidogol

Sut bydd eich dadansoddiad o'r effeithiau hyn yn cyfrannu at eich cyngor gweinidogol?

Bydd yr effeithiau cadarnhaol yn rhan o'r rhesymeg dros y cyngor i argymell bod y Gweinidog yn cytuno i’r newidiadau i'r Meini Prawf diwygiedig a chyhoeddi'r ddogfen.

  • Ar ôl iddo gael ei gwblhau, rhaid i'ch Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant gael ei lofnodi gan eich Dirprwy Gyfarwyddwr.
  • Dylai eich canfyddiadau o’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant ddod yn rhan o'ch cyngor gweinidogol i lywio’r penderfyniad.

Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Os ydych chi wedi ceisio barn plant a phobl ifanc ar eich cynnig, sut y byddwch yn eu hysbysu o'r canlyniad?

Ni chymerodd unrhyw blant na phobl ifanc ran yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Monitro ac adolygu

Mae'n hanfodol ailedrych ar eich Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant i weld a wnaeth yr effeithiau a nodwyd gennych yn wreiddiol ddwyn ffrwyth, ac a oedd unrhyw ganlyniadau anfwriadol.

Os ydych yn bwrw ymlaen ag is-ddeddfwriaeth, ni fydd yn ddigon dibynnu ar yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant ar gyfer y ddeddfwriaeth sylfaenol; bydd angen ichi ddiweddaru'r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant i ystyried sut y gall manylion y cynigion yn y rheoliadau neu’r canllawiau effeithio ar blant.

Gall arweinydd y polisi ailedrych ar y fersiwn gyhoeddedig o'u Hasesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant, ei hailenwi fel adolygiad o'r Asesiad gwreiddiol, a diweddaru'r dystiolaeth o effaith. Dylid cyflwyno'r asesiad effaith a adolygwyd i’r Gweinidogion gydag unrhyw gynigion i ddiwygio'r polisi, yr ymarfer neu'r canllawiau. Dylai'r Asesiad a adolygwyd hwn o’r Effaith ar Hawliau Plant gael ei gyhoeddi hefyd.

Amlinellwch pa ddull monitro ac adolygu y byddwch yn ei roi ar waith i adolygu'r Asesiad hwn o’r Effaith ar Hawliau Plant

Gohiriwyd gwerthusiad ffurfiannol o'r diwygiadau AGA oherwydd y pandemig. Er hynny, bwriedir ei gynnal yn dilyn cyhoeddi'r ddogfen Meini Prawf diwygiedig. Bydd y canfyddiadau'n cyfrannu at yr iteriad nesaf o'r ddogfen a fydd yn cefnogi'r trydydd cylch achredu (2028 i 2029). Bydd yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant yn cael ei adolygu fel rhan o'r gwaith gwerthuso hwn a bydd yn cael ei ddefnyddio i helpu i ddatblygu iteriad o’r ddogfen yn y dyfodol.

Yn dilyn yr adolygiad hwn, a oes angen unrhyw ddiwygiadau i'r polisi neu i’r ffordd y caiff ei weithredu?

Nid ar hyn o bryd.