Defnyddiwch y canllaw hwn i wirio os yw gwaith adeiladu ar adeilad presennol yn ei dynnu i'r rheolwr adeiladau perygl uchel yng Nghymru.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r meini prawf ar gyfer ystyried bod adeilad yn adeilad risg uwch yn ystod gwaith adeiladu mewn adeilad risg uwch. Mae hyn yn cynnwys gwaith adeiladu ar adeilad sy'n bod a fydd yn ei wneud yn adeilad risg uwch (er enghraifft ychwanegu llawr) neu ar gyfer adeilad y newidir ei ddefnydd. Daw adeiladau risg uwch o dan ofynion y drefn risg uwch newydd a nodir yn Rheoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025 sy'n cael ei goruchwylio gan awdurdodau lleol.
Diffinnir adeiladau risg uwch yn ystod gwaith adeiladu mewn adeilad sy'n bod ar gyfer cyfnod dylunio ac adeiladu gwaith adeiladu, yn Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 ("y Rheoliadau").
Mae adeiladau risg uwch yn adeiladau sydd ag o leiaf un uned breswyl, cartrefi gofal, cartrefi plant neu ysbytai sydd o leiaf 18 metr o uchder neu sydd ag o leiaf 7 llawr. Mae rhai mathau o adeiladau wedi'u heithrio o fod yn adeilad risg uwch, fel y rheini sy’n gyfan gwbl yn westai, sefydliadau preswyl diogel a barics milwrol neu lety arall y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Nid yw'r diffiniad hwn yn newid diffiniadau o adeiladau risg uwch mewn deddfwriaeth arall. Er enghraifft, y diffiniad o adeiladau tebyg sydd wedi'u meddiannu yn y Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026.
Mae'r canllaw hwn yn cynnwys y testun perthnasol o Ddeddf 1984 ac o'r Rheoliadau gydag esboniadau a diagramau. Bydd yn helpu darpar ddeiliaid dyletswyddau (hynny yw, y cleient, dylunydd, prif ddylunydd, contractwr, a phrif gontractwr) a phobl atebol i benderfynu a yw eu hadeilad yn adeilad risg uwch. Dylid defnyddio'r canllaw hwn ar y cyd â chanllawiau eraill sy'n ymdrin ag adeiladau, mesur uchder a/neu rifo lloriau i benderfynu a yw'ch adeilad yn cyd-fynd â'r diffiniad o adeilad risg uwch a nodir yn y gyfraith. Mae angen i chi ystyried y canllaw hwn ac amgylchiadau penodol eich adeilad wrth ichi wneud eich dyletswyddau o dan y rheoliadau adeiladu.
Yn ogystal â chael ei ddiffinio'n adeilad risg uwch o dan y Rheoliadau, gall eich adeilad ddod hefyd o dan ddeddfwriaeth a dyletswyddau statudol eraill, megis Gorchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Diogelwch Tân) 2005. Bydd angen i chi weithio gyda'r deiliaid dyletswyddau perthnasol yn yr adeilad i sicrhau ei fod yn ddiogel.
Mae diagramau yn y canllaw hwn yn dangos enghreifftiau o adeiladau posibl, hynny at ddibenion darluniadol yn unig. Bydd angen i chi ystyried y ddeddfwriaeth yn ofalus i ddeall ai chi sy'n gyfrifol am adeilad risg uwch o dan y drefn risg uwch. Efallai y dylech ofyn am farn gyfreithiol.
Fe welwch ddiffiniadau o brif dermau'r canllaw hwn yn yr Eirfa.
Canllaw ar gyfer deall a yw'ch adeilad yn adeilad risg uwch yn ystod gwaith adeiladu mewn adeilad sy'n bod
Dyma'r prif feini prawf i'w hystyried wrth benderfynu a yw adeilad yn risg uwch:
- Meini prawf defnyddio: Beth yw pwrpas fy adeilad? A yw'n bodloni unrhyw un o'r categorïau o adeiladau sydd wedi'u cynnwys neu sydd wedi'u heithrio?
- Diffiniad cyfreithiol o adeilad: Sut mae'r cyfeiriad at adeilad (gan gynnwys strwythur) yn y Rheoliadau yn berthnasol i fy adeilad?
- Uchder a lloriau: Sut mae'r dulliau ar gyfer mesur uchder a chyfrif lloriau yn y Rheoliadau yn berthnasol i fy adeilad? A yw fy adeilad yn cwrdd â'r trothwy uchder 18 metr neu 7 llawr wrth ddefnyddio'r dulliau hyn?
Bydd angen i chi ystyried y 3 maen prawf.
Meini prawf defnyddio
Er mwyn cael ei ystyried yn adeilad risg uwch yn ystod gwaith adeiladu mewn adeilad sy'n bod, rhaid i adeilad fodloni set benodol o feini prawf defnyddio. Mae hyn yn ychwanegol at y trothwy uchder neu loriau.
Os yw adeilad yn cwrdd â'r trothwy uchder neu loriau ac yn cynnwys o leiaf un uned breswyl neu os yw neu os y ceir ynddo ysbyty, cartref gofal neu gartref plant, yna mae'n adeilad risg uwch. Mae hyn yn berthnasol oni bai bod yr adeilad cyfan yn cael ei ddefnyddio fel sefydliad preswyl diogel, gwesty, neu farics milwrol, neu os y ceir yn yr adeilad unrhyw lety byw a ddarperir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer personél milwrol. Mae'r adeiladau hyn wedi'u heithrio.
Meini prawf defnyddio ar gyfer adeiladau yn ystod gwaith adeiladu mewn adeilad sy'n bod o dan Ddeddf Adeiladau 1984 a Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Y Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023
Maeadrn 120I o Ddeddf Adeiladu 1984 yn nodi'r adeiladau sydd wedi'u cynnwys yn rhan dylunio ac adeiladu'r drefn risg uwch.
120I. Adeiladau risg uwch a gwaith ar adeiladau risg uwch: Cymru
(2) Ystyr “higher-risk building" yw adeilad sy'n cyfateb i ddisgrifiad mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru .
(3) Ystyr "higher-risk building work" yw unrhyw waith ar adeilad risg uwch neu adeilad risg uwch arfaethedig, gan gynnwys—
- unrhyw waith ar adeilad nad yw'n adeilad risg uwch sy'n peri iddo fod yn adeilad o'r fath, a
- unrhyw waith ar adeilad risg uwch sy'n peri iddo beidio â bod yn adeilad o'r fath.
Mae Rheoliad 3 o Reoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 yn nodi'r adeiladau sydd wedi'u cynnwys yn rhan dylunio ac adeiladu y drefn risg uwch.
3. At ddibenion adran 120I(2) o Ddeddf Adeiladu 1984 adeilad risg uwch yw adeilad (gan gynnwys strwythur)
- sydd
- o leiaf 18 metr o uchder (pan gaiff ei fesur yn unol â rheoliad 4), neu
- sydd ag o leiaf 7 llawr (pan gânt eu cyfrifo yn unol â rheoliad 5), a
- o leiaf 18 metr o uchder (pan gaiff ei fesur yn unol â rheoliad 4), neu
- sy’n cynnwys
- o leiaf un uned breswyl,
- ysbyty sydd ag o leiaf un gwely y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gan berson sydd wedi ei dderbyn i’r fangre ar gyfer arhosiad dros nos,
- cartref gofal, neu
- cartref plant, ac
- nad yw'n adeilad a eithrir
Mae rheoliad 6 yn nodi'r adeiladau sydd wedi'u heithrio o ran dylunio ac adeiladu y gyfundrefn risg uwch.
6. Mae adeilad yn adeilad a eithrir
- os yw’n cynnwys yn gyfan gwbl
- sefydliad preswyl diogel,
- gwesty,
- barics milwrol,
- llety byw a ddarperir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, neu
- llety byw ar gyfer
(aa) lluoedd ei Fawrhydi, neu
(bb)unrhyw lu ar ymweliad neu bencadlys rhyngwladol neu sefydliad amddiffyn a ddynodir at ddiben Deddf Pencadlys Rhyngwladol a Sefydliadau Amddiffyn 1964;
- os yw’n cynnwys defnydd preswyl a defnydd amhreswyl, lle y darperir yr holl lety byw gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae hyn yn golygu bod adeiladau y bwriedir eu bod yn adeiladau defnydd cymysg yn dod o dan y drefn risg uwch. Er enghraifft, os yw adeilad yn cynnwys canolfan siopa ond bod ganddo hefyd un neu fwy o unedau preswyl, yna mae'n adeilad risg uwch, os yw'n cwrdd â'r trothwy uchder neu loriau. Mae adeiladau sy'n llety preswyl mewn ysgolion a llety prifysgol hefyd yn cael eu hystyried yn adeiladau risg uwch, cyn belled â'u bod yn cwrdd â'r trothwy uchder neu loriau ar gyfer adeilad risg uwch a bod ynddynt unedau preswyl.
Bydd adeiladau a fydd yn cynnwys llety gwarchod a llety â chymorth yn cael eu hystyried yn adeiladau risg uwch os ydynt yn cwrdd â'r trothwy uchder neu loriau, gan y bydd ynddynt unedau preswyl. Gall llety gwarchod a llety â chymorth a allai ddod o dan y drefn risg uwch gynnwys llochesi cam-drin domestig, cartrefi gwarchod neu gartrefi â chymorth i bobl hŷn a phobl ag anghenion gofal ychwanegol.
Unedau Preswyl:
Mae uned breswyl yn annedd neu'n unrhyw fath arall o uned llety byw ac yn cael ei ddiffinio yn rheoliad 2 y Rheoliadau.
Mae fflat, fflat stiwdio, cartref amlfeddiannaeth, llety a rennir o fewn neuadd prifysgol (e.e. ystafell wely gyda chegin ac ystafell ymolchi a rennir) neu ystafell mewn hostel i gyd yn enghreifftiau o’r un rydym yn ei ystyried yn unedau preswyl.
Gall uned breswyl fod yn rhan o unrhyw fath o adeilad a gallai fod ag unrhyw ddeiliadaeth. Mae unedau preifat, unedau rhent preifat ac unedau rhent cymdeithasol i gyd yn cael eu hystyried yn unedau preswyl o dan y drefn risg uwch.
Cartrefi gofal, cartrefi plant ac ysbytai
Mae cartrefi gofal yn lleoedd sy'n darparu gwasanaethau cartrefi gofal i bobl 18 oed neu'n hŷn yn unig neu’n bennaf. Yn gyffredinol, llety yw hwn, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, mewn man yng Nghymru, i bobl gan eu bod yn agored i newid neu oherwydd eu hangen.
Mae cartrefi plant yn lleoedd sy'n darparu gwasanaethau cartref gofal neu wasanaethau llety diogel i bobl o dan 18 oed yn unig neu’n bennaf. Yn gyffredinol, llety yw hwn, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, mewn man yng Nghymru, i bobl gan eu bod yn agored i newid neu oherwydd eu hangen (gwasanaethau cartrefi gofal), neu ddarparu llety at ddibenion cyfyngu ar ryddid plant mewn eiddo preswyl yng Nghymru lle darperir gofal a chymorth i'r plant hynny (gwasanaethau llety diogel).
Fodd bynnag, nid yw cartrefi plant yn cynnwys sefydliadau addysg bellach na llety a ddarperir ar gyfer gwyliau, neu weithgareddau hamdden, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol (lle mae person o dan 18 oed yn cael llety am fwy na 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis).
Fe welwch fanylion y diffiniadau o wasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau llety diogel yn Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Mae ysbytai yn sefydliadau sy'n derbyn ac yn trin pobl sâl, pobl sy'n ymadfer neu sy'n cael eu hadsefydlu'n feddygol, neu gartref mamolaeth.
Nid yw adeiladau a ddefnyddir i dderbyn a thrin pobl sâl, pobl sy'n ymadfer neu sy'n cael eu hadsefydlu'n feddygol, neu gartref mamolaeth, sydd heb o leiaf un gwely ar gyfer arhosiad dros nos yn cael eu hystyried yn ysbytai o dan y drefn risg uwch. Er enghraifft, ni fyddai meddygfa meddyg teulu nad yw'n caniatáu cleifion i aros dros nos yn bodloni'r diffiniad o ysbyty at ddiben y Rheoliadau.
Eithriadau
Sefydliadau preswyl diogel
Mae adeiladau a ddefnyddir yn gyfan gwbl fel sefydliadau preswyl diogel wedi'u heithrio o'r drefn risg uwch. Mae sefydliadau preswyl diogel yn cynnwys carchardai, sefydliadau troseddwyr ifanc, canolfannau cadw, canolfannau hyfforddi diogel, dalfeydd, canolfannau cadw tymor byr, ysbytai diogel neu lety diogel awdurdodau lleol ar gyfer pobl 18 oed neu hŷn.
Gwestai a llety arall â gwasanaeth
Mae adeiladau a ddefnyddir yn gyfan gwbl fel gwestai wedi'u heithrio o'r drefn risg uwch. Ni fydd gwestai fel arfer yn cynnwys unrhyw unedau preswyl. Yn hytrach byddant yn darparu llety dros nos i gwsmeriaid sy'n aros at ddibenion hamdden neu fusnes.
Rydym yn ystyried bod hosteli sy’n darparu llety dros nos i gwsmeriaid at ddibenion hamdden neu fusnes yn debyg i westai ac felly os yw adeilad yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl fel y math o hostel, yna nid yw'n cael ei ystyried yn adeilad risg uwch. Mae gwestai wedi'u heithrio waeth pa mor hir y mae'r adeiladau hyn yn cael eu meddiannu gan unigolion neu grwpiau o gwsmeriaid.
Nid yw fflatiau â gwasanaeth yn dod o fewn ystyr gwesty ac rydym yn ystyried eu bod yn adeiladau risg uwch os ydynt yn cwrdd â'r trothwy uchder neu loriau.
Yn ein barn ni, mae llety gosod tymor byr (er enghraifft, eiddo rhent tymor byr a osodir ar-lein) yn uned breswyl. Pe bai uned breswyl arall o fewn yr adeilad a bod y trothwy uchder neu loriau yn cael ei fodloni, yna byddai'r adeilad cyfan, gan gynnwys yr eiddo gosod tymor byr, yn cael ei ystyried yn adeilad risg uwch.
Adeiladau milwrol
Mae adeiladau a ddefnyddir yn gyfan gwbl fel barics milwrol wedi'u heithrio o'r drefn risg uwch.
Mae adeiladau sy'n cynnwys unrhyw lety byw naill ai ar gyfer lluoedd Ei Fawrhydi, unrhyw luoedd ymweld neu bencadlys rhyngwladol neu sefydliad amddiffyn hefyd wedi'u heithrio.
Cyfrif lloriau a mesur uchder
Er mwyn i adeilad fod yn adeilad risg uwch, mae angen iddo fodloni'r trothwy uchder neu loriau - nid oes angen iddo fodloni'r ddau (er y gall). Mae'r trothwy uchder wedi'i osod ar 18 metr neu uwch. Mae'r trothwy lloriau wedi'i osod ar 7 llawr neu fwy.
Os yw adeilad yn bodloni'r trothwy 7 llawr ac yn bodloni'r meini prawf defnydd a nodir yn y canllaw hwn yna mae'n adeilad risg uwch ac nid oes angen ei fesur yn erbyn y trothwy uchder. Os yw'r adeilad yn 18 metr o uchder ac yn bodloni'r meini prawf defnydd, yna mae'n adeilad risg uwch ac nid oes angen iddo fodloni'r trothwy lloriau.
Os nad yw'r adeilad yn bodloni'r trothwy uchder 18 metr na'r trothwy 7 llawr (er enghraifft, mae'n 17 metr a 6 llawr o uchder), yna nid yw'n adeilad risg uwch, hyd yn oed os yw'n bodloni'r meini prawf defnydd.
Dull rhagnodedig o fesur uchder a chyfrif lloriau yn Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023.
Mae rheoliad 4 yn nodi'r dull ar gyfer mesur uchder:
(1) Mesurir uchder adeilad o lefel y ddaear hyd at ben uchaf arwyneb llawr llawr uchaf yr adeilad.
(2) Ond anwybyddir unrhyw lawr sy’n ardal peiriannau pen to neu gyfarpar pen to neu sy’n cynnwys ystafelloedd peiriannau pen to neu gyfarpar pen to yn unig.
Mae rheoliad 5 yn nodi'r dull ar gyfer cyfrif lloriau:
(1) Cyfrifir nifer y lloriau mewn adeilad yn y safle sy’n rhoi’r nifer mwyaf o loriau, cyn belled â —
(a) bod unrhyw loriau sydd o dan lefel y ddaear yn cael eu hanwybyddu;
(b) bod unrhyw lawr sy’n ardal peiriannau pen to neu gyfarpar pen to neu sy’n cynnwys ystafelloedd peiriannau pen to neu gyfarpar pen to yn unig yn cael eu hanwybyddu; (c) yr ystyrir unrhyw lawr mesanîn yn llawr os yw ei arwynebeddau llawr mewnol yn o leiaf hanner arwynebedd llawr mewnol y llawr mwyaf yn yr adeilad nad yw o dan lefel y ddaear.
(2) Mae llawr o dan lefel y ddaear os yw arwyneb gorffenedig nenfwd y llawr o dan lefel y ddaear.
Mae rheoliad 2 yn diffinio lefel y ddaear ar gyfer y Rheoliadau hyn.
ystyr “lefel y ddaear” (“ground level”), mewn perthynas ag adeilad, yw—
(a) pan fo lefel arwyneb y ddaear y lleolir yr adeilad arno yn unffurf, lefel arwyneb y ddaear yn union gyfagos i’r adeilad; neu
(b) pan nad yw lefel arwyneb y ddaear y lleolir yr adeilad arno yn unffurf, lefel y rhan isaf o arwyneb y ddaear sydd union gyfagos i’r adeilad;
Dylid cyfrif lloriau o'r llawr ar lefel y ddaear i'r llawr uchaf. Dylid mesur uchder adeilad o lefel y ddaear hyd at ben uchaf arwyneb llawr llawr uchaf yr adeilad. Dylid defnyddio'r dull a nodir yn y canllaw hwn wrth benderfynu a yw eich adeilad arfaethedig yn adeilad risg uwch, yn hytrach na dulliau a nodir mewn dogfennau eraill.
Lefel y ddaear
Wrth gyfrif lloriau a mesur uchder, dylech eu mesur o lefel y ddaear. Bydd angen i chi ystyried yn ofalus ble mae lefel daear eich adeilad. Mewn ambell sefyllfa, efallai y bydd mannau bach wedi'u creu yn gyfagos i'r adeilad sydd o dan lefel mynediad arferol y llawr gwaelod fel ffynhonnau golau. Mae'n annhebygol y bydd yn briodol ystyried ardaloedd o'r fath at ddiben nodi lefel y ddaear.
Os yw'r adeilad sy'n cael ei fesur yn sefyll ar dir gwastad unffurf, yna lefel y ddaear yw wyneb y ddaear sy'n union gyfagos i'r adeilad. Dangosir hyn yn Niagram 1.
Wrth gyfrif lloriau, ni ddylech gyfrif unrhyw lawr sydd o dan lefel y ddaear. Ystyrir bod llawr yn is na lefel y ddaear ac ni ddylid ei gyfrif os yw arwyneb gorffenedig nenfwd y llawr yn is na lefel daear yr adeilad. Yn yr un modd, wrth fesur uchder, ni ddylid mesur rhannau o'r adeilad sydd o dan lefel y ddaear. Mae mesuriadau bob amser yn dechrau o lefel y ddaear. Dangosir hyn yn Niagram 1.
Mae diagram 1 yn dangos tŵr preswyl 7 llawr ar dir gwastad.
Ar gyfer y math o adeilad a ddangosir yn Niagram 1, dylid cyfrif lloriau o'r llawr cyntaf uwchben lefel y ddaear, fel y dangosir gan y saeth ar y chwith. Ni ddylid cyfrif y llawr o dan lefel y ddaear. Dylid mesur uchder o lefel y ddaear i wyneb llawr y llawr uchaf, fel y nodir gan y saeth ar y dde.
O ran yr adeilad a ddangosir yn Niagram 1, ar sail y dull cyfrif lloriau a ddisgrifir yn y Rheoliadau, mae gan y strwythur hwn 7 llawr.
Wrth gyfrif lloriau a mesur uchder, os yw'r adeilad sy'n cael ei fesur yn sefyll ar dir anwastad (er enghraifft, tir ar oleddf), yna lefel y ddaear yw'r rhan isaf o arwyneb y ddaear sy'n union gyfagos i’r adeilad. Dangosir hyn yn Niagram 2.
Mae Diagram 2 yn dangos tŵr preswyl 7 llawr ar dir ar oleddf.
Yn yr enghraifft hon, ar sail y dull cyfrif lloriau a ddisgrifir yn y Rheoliadau, mae gan y strwythur hwn 7 llawr.
Toeau
Wrth gyfrif lloriau adeilad, ni ddylid cyfrif unrhyw lawr sy'n cynnwys ystafelloedd peiriannau pen to neu gyfarpar pen to yn unig. Ystyrir bod peiriannau pen to yn beiriannau sy'n gwasanaethu'r adeilad (er enghraifft, system aerdymheru). Ystyrir bod ystafelloedd peiriannau'n ardaloedd sy'n cynnwys peiriannau neu offer sy'n gwasanaethu'r adeilad. Dim ond ystafelloedd ac ardaloedd cyfarpar pen to sy'n cynnwys dim ond peiriannau pen to sydd wedi'u heithrio - er enghraifft, os yw llawr 3 adeilad 7 llawr yn cynnwys dim ond ystafelloedd cyfarpar a pheiriannau, dylid ei gyfrif fel llawr.
Wrth fesur uchder adeilad, dylid mesur yr adeilad hyd at ben uchaf arwyneb llawr y llawr uchaf nad yw'n ystafell peiriannau pen to neu gyfarpar pen to yn unig. Dangosir hyn yn Niagram 3.
Mae Diagram 3 yn dangos tŵr preswyl 6 llawr.
Yn yr enghraifft hon, dylid mesur ei uchder i wyneb llawr y llawr uchaf, fel y nodir gan y saeth. Dylid cyfrif lloriau o'r llawr cyntaf uwchlaw'r ddaear. Mae gan yr adeilad arfaethedig yn Niagram 3 6 llawr.
Os yw'r llawr uchaf yn ystafelloedd peiriannau pen to neu gyfarpar pen to yn unig, yna dylid mesur uchder yr adeilad hyd at ben wyneb llawr uchaf y llawr islaw. Dangosir hyn yn Niagram 4.
Mae diagram 4 yn dangos tŵr preswyl 7 llawr ar dir ar oleddf gydag ystafell cyfarpar pen to.
Yn yr enghraifft hon, dylid mesur ei uchder o lefel y ddaear i wyneb llawr y llawr uchaf, nad yw'n ystafell gyfarpar, fel y nodir gan y saeth. Dylid cyfrif lloriau o'r llawr cyntaf uwchlaw'r ddaear. Ni ystyrid bod llawr cyntaf yr adeilad hwn o dan lefel y ddaear gan nad oes unrhyw ran o'i nenfwd gorffenedig o dan lefel y ddaear ar gyfer yr adeilad cyfan.
Ar sail y dull cyfrif lloriau a ddisgrifir yn y Rheoliadau, ystyrir bod yr adeilad hwn yn 7 llawr ac mae'n adeilad risg uwch gan ei fod yn cynnwys dwy neu fwy o unedau preswyl.
Lloriau mesanîn
Efallai y bydd gan rai adeiladau loriau mesanîn. Enw arall am lawr mesanîn yw llawr oriel. Mae mesanîn yn ardal fewnol o fewn adeilad. Ystyrir bod lloriau mesanîn yn ardaloedd rhannol rhwng dau brif lawr nad ydynt yn gorchuddio'r adeilad ar ei hyd.
Dylid cyfrif lloriau mesanîn fel llawr dim ond os yw arwynebedd llawr mewnol llawr y mesanîn o leiaf 50% o arwynebedd llawr mewnol y llawr mwyaf uwchlaw'r ddaear. Unwaith y bydd llawr mesanîn yn cyrraedd y trothwy o 50%, bydd yn dod yn llawr a dylid ei gyfrif fel y cyfryw. Er enghraifft, os oes gan lawr mesanîn, sy'n ffurfio trydydd llawr adeilad, arwynebedd llawr mewnol sy'n hanner arwynebedd, neu fwy y llawr mwyaf arall, yna dylid cyfri'r llawr mesanîn hwn fel llawr ar wahân. Os yw'r llawr mesanîn yn llai na hanner arwynebedd y llawr mwyaf, yna ni ddylid ei gyfrif fel llawr ar wahân. Rhoddir enghraifft o sut y dylid cyfrif lloriau mesanîn yn Niagram 5.
Mae Diagram 5 yn dangos un tŵr preswyl 7 llawr gyda llawr mesanîn sydd ag arwynebedd sy'n fwy na 50% o'r llawr uwchben.
Yn yr enghraifft hon, mae arwynebedd llawr mewnol y llawr mesanîn yn fwy na 50% o arwynebedd llawr mewnol y lloriau uwch ei ben. Ar sail y dull cyfrif lloriau a ddisgrifir yn y Rheoliadau, byddai llawr y mesanîn yn y strwythur hwn yn cael ei ystyried yn llawr, a byddai gan yr adeilad felly 7 llawr.
Rhestr o'r prif dermau a ddefnyddir yn y canllaw hwn
Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (y Ddeddf)
Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (y Ddeddf) ar 28 Ebrill 2022. Mae'n gweithredu'r argymhellion a wnaed yn adroddiad Adeiladu Dyfodol Mwy Diogel y Fonesig Judith Hackitt i greu system reoleiddio newydd gryfach ar gyfer adeiladau risg uwch. Mae ei hargymhellion yn nodi dyletswyddau a chyfrifoldebau clir i'r rhai sy'n comisiynu, dylunio, adeiladu ac adnewyddu adeiladau risg uwch, a'r rhai sy'n gyfrifol am sicrhau bod adeiladau'n cael eu rheoli'n ddiogel pan fyddant yn cael eu meddiannu. Mae Rhan 3 o Ddeddf 2022 yn ymwneud â chyfundrefn deliad dyletswydd ar gyfer adeilad risg uwch yn ystod y cyfnod dylunio ac adeiladau ac mae’n gymwys yng Nghymru. I weld Deddf 2022, cliciwch ar Deddf Diogelwch Adeiladau 2022.
Deiliaid dyletswyddau
Mae deiliaid dyletswyddau (boed unigolion neu sefydliadau) yn cyflawni'r rolau allweddol y neilltuir cyfrifoldebau penodol iddynt yn ystod cyfnodau penodol yng nghylch bywyd yr adeilad.
Adeilad risg uwch
Adeilad risg uwch yw'r term technegol ar gyfer adeiladau o fewn cwmpas y drefn risg uwch. Mae'r canllaw hwn wedi'i greu i helpu defnyddwyr i ddeall a yw adeilad yn bodloni'r meini prawf i gael ei ystyried yn adeilad risg uwch.
Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 (y Rheoliadau)
Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 (y Rheoliadau) yw'r rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 1984 i ddisgrifio'r diffiniad cyfreithiol o adeilad risg uwch. Maent i'w gweld yn Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023
Ystafell gyfarpar
Ystyr ystafell gyfarpar yw ardal sy'n cynnwys peiriannau neu gyfarpar sy'n gwasanaethu'r adeilad.
Uned breswyl
Ystyr uned breswyl yw annedd neu unrhyw uned arall o lety byw. Ystyrir bod enghreifftiau’n cynnwys fflat, fflat stiwdio, llety a rennir mewn neuadd prifysgol neu uned o fewn adeilad llety â chymorth.
