Neidio i'r prif gynnwy

Anerchiad gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wrth ail-lansio Tystysgrif Polisi a Chynllunio Ieithyddol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Anerchiad a wnaed yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, 11 Awst 2023

Erbyn hyn, dwi wedi dreulio sawl diwrnod yma yn yr Eisteddfod Genedlaethol.  

Dwi ‘di gweld miloedd lawer o bobl yn mwynhau yn Gymraeg.  

Dwi ‘di gweld llawer o bobl sy’n newydd i’n hiaith ni yn ymuno â’r gofod Cymraeg gwych mae’r Eisteddfod yn ei greu.  

Ac mae hynny’n f’atgoffa unwaith eto byth mai trafod pobl ydyn ni wrth drafod iaith. Peth pobl yw iaith yn anad dim.  

Mae’r Gymraeg yn ganolog i’n diwylliant ac yn ganolog i hunaniaeth pobl Cymru. Mae’n cysylltu ni, ein huno ni ac yn ein cyfoethogi ni. Cymraeg: mae’n perthyn i ni i gyd, p’un a ydyn ni’n ei siarad hi ai peidio. 

Felly mae’n bleser gen i gyhoeddi rhywbeth heddiw sy’n croestorri dwy agwedd ar fy mhortffolio: polisi’r Gymraeg ac addysg. Mae heddiw yn ddatblygiad pwysig yn ein tirwedd academaidd, ail-lansio’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Polisi a Chynllunio iaith ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  

Dwi’n estyn fy ngwerthfawrogiad i’r Brifysgol am ei gweledigaeth. Dwi’n eich canmol chi am sganio’r gorwel a chreu darpariaeth i ateb anghenion polisi cynllunio iaith yn y dyfodol. 

I Lywodraeth Cymru, mae meithrin gallu cynllunio ieithyddol ymhlith llunwyr polisi cyhoeddus yn flaenoriaeth yn ystod cyfnod 2021 i 2026. Mae’r Dystysgrif rydych chi’n ei lansio heddiw, yn sicr yn cyfrannu at y flaenoriaeth.  

Bydd effaith y Dystysgrif yn deillio o’r ffaith ei bod hi’n cynnig profiadau academaidd ac ymarferol. Rwy’n gobeithio y bydd y profiadau hynny’n rhoi dealltwriaeth o gysyniadau allweddol i’r myfyrwyr, ar y lefelau cenedlaethol a rhyngwladol, wrth gwrs fy mod i. Ond dwi hefyd yn disgwyl i hynny gyfrannu at weithgarwch concrid fydd yn cyfrannu at greu dyfodol ffyniannus i’n hiaith. 

Ar ben hynny, bydd y Dystysgrif yn apelio at bobl sydd eisoes yn gweithio ym maes cynllunio ieithyddol ar draws sefydliadau cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector. Fe allai greu cadre o weithwyr proffesiynol medrus newydd a denu swyddogion iaith, datblygwyr polisi, a mwy. 

Bydd ysbryd rhyngwladol y dystysgrif, a dwi’n gweld hynny yma heddiw, yn eu galluogi i fod yn llysgenhadon dros ein hiaith a’n diwylliant i’r byd ehangach. 

Gyda’n gilydd, a gyda graddedigion y dystysgrif, mae cyflawni’r uchelgais am ein hiaith ni. Yr hyn ry’n ni am ei gweld yw Cymru lle mae ein hiaith yn ffynnu, a’n pobl yn ffynnu, gan gofio wrth gwrs mai peth pobl yw iaith. Diolch yn fawr, gobeithio gweld ffrwyth eich gweledigaeth dros y blynyddoedd sy’n dod.