‘Meithrin parch ar y ddwy ochr’ Hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol mewn ysgolion uwchradd: ymateb y llywodraeth
Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i adroddiad ac argymhellion Estyn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion yr adroddiad
Gofynnodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg (ar y pryd) i Estyn am gyngor ar ymddygiad dysgwyr mewn ysgolion yn y llythyr cylch gwaith blynyddol at Estyn ar gyfer 2024 i 2025. Bwriad hyn oedd ategu cais am gyngor ar ymddygiad dysgwyr mewn colegau addysg bellach.
Crynodeb o'r prif ganfyddiadau
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr heriau y mae ysgolion uwchradd yn eu hwynebu mewn perthynas ag ymddygiad dysgwyr ac mae'n cynnwys astudiaethau achos ymarfer effeithiol. Mae'n awgrymu dulliau o hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol mewn ysgolion uwchradd. Mae'r adroddiad yn tynnu ar wybodaeth o ymweliadau â 24 o ysgolion uwchradd a phob oed, trafodaethau gyda swyddogion o 10 awdurdod lleol a chanfyddiadau arolygon cenedlaethol a gynhaliwyd gyda phenaethiaid, staff a disgyblion, yn ogystal â gwerthusiadau o arolygiadau a gynhaliwyd rhwng 2022 i 2024.
Argymhellion 8 i 10, ar gyfer Llywodraeth Cymru
Argymhelliad 8
Gwneud gwaith ymchwil ar draws ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion pob oed i nodi tueddiadau mewn ymddygiad a darparu arweiniad cyfoes ar gyfer ysgolion ar y cymorth mwyaf effeithiol i helpu gwella ymddygiad.
Argymhelliad 9
Datblygu ymgyrch genedlaethol mewn partneriaeth ag ysgolion i hyrwyddo ac esbonio pwysigrwydd ymddygiad da gyda rhieni neu gofalwyr a disgyblion.
Argymhelliad 10
Sicrhau bod rhaglenni addysg gychwynnol athrawon a rhaglenni ymsefydlu yn cynnwys sylfaen fwy trylwyr mewn dulliau rheoli ymddygiad ac yn cynnig rhaglen gymorth strwythuredig i athrawon newydd gymhwyso i sicrhau eu bod yn gallu rheoli ymddygiad yn effeithiol yn yr ystafell ddosbarth.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn Argymhellion 8 i 10 yn llawn.
Rydym eisoes wedi cynnal ymchwil i'r hyn sy'n ysgogi ymddygiad gwael a'r camau y gellir eu cymryd i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol. Fodd bynnag, fel y mae'r adroddiad hwn yn amlygu, mae yna feysydd ychwanegol lle byddai rhagor o wybodaeth yn gwella ein dealltwriaeth a'n gallu i gefnogi ysgolion, staff, dysgwyr a theuluoedd. Mae'r ffactorau sy'n ysgogi ymddygiad gwael, llawer ohonynt wedi'u gwreiddio mewn heriau cymdeithasol ehangach, yn parhau i esblygu a bydd angen i ni sicrhau sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer ymyriadau.
Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar ymgyrch genedlaethol, ac yn datblygu adnoddau y gellir eu defnyddio mewn lleoliadau addysg i godi ymwybyddiaeth o effaith ymddygiad gwael. Bydd yr adnoddau hyn hefyd yn tynnu sylw at y problemau o gam-drin geiriol a chorfforol sy'n wynebu staff a dysgwyr. Er y bydd angen mwy o waith yn y maes hwn, mae hyn yn dangos ymrwymiad clir i dynnu sylw at y materion a'r angen i fynd i'r afael â nhw.
Er ein bod yn cytuno bod angen mwy o gefnogaeth i staff ysgolion er mwyn deall a datblygu arferion rheoli ymddygiad effeithiol, credwn fod hyn yn mynd y tu hwnt i Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae angen cefnogaeth ar bob rhan o'r gweithlu addysg a thrwy gydol eu gyrfaoedd. Byddwn yn ystyried beth mwy y gellir ei wneud trwy AGA fel rhan o'n rhaglen gyffredinol o adolygiadau, ond byddwn hefyd yn ystyried gofynion dysgu proffesiynol ehangach.
Bydd yr Uwchgynhadledd Ymddygiad Genedlaethol ym mis Mai yn darparu sbardun cychwynnol i edrych ymhellach ar ddulliau o weithredu'r argymhellion.
Manylion cyhoeddi
Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 8 Mai 2025, a gellir ei weld ar wefan Estyn.
