Memorandwm cyd-ddealltwriaeth: defnyddio cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer y bargeinion twf dinesig a rhanbarth
Cytundeb rhwng llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar yr egwyddorion ar gyfer defnyddio cyllid ar gyfer bargeinion twf dinesig a rhanbarthol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair
Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn seiliedig ar yr egwyddorion cysylltiadau rhynglywodraethol (Mae'r egwyddorion wedi'u nodi yn yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol) ac mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi'i lofnodi yn yr ysbryd o bartneriaeth y cytunwyd arno fel rhan o'r bargeinion dinesig a thwf rhanbarthol. Mae'n crynhoi ac yn ffurfioli'r egwyddorion a'r drefn o ddefnyddio cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer bargeinion dinesig a thwf rhanbarthol y cytunodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a phartneriaethau rhanbarthol awdurdodau lleol arnynt. Mae'n ddatganiad o waith rhynglywodraethol, gan gydnabod y bydd y cyd-destun strategol a'r personél sy'n gysylltiedig â'r bargeinion yn newid dros oes y bargeinion ac nad yw'n creu rhwymedigaethau cyfreithiol rhwng y partïon. Nid yw'r ddogfen hon yn gytundeb chwaith i newid y proffiliau cyllido y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Ymdrinnir â hynny ar wahân. Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) a Swyddfa Cymru (SC) sy'n arwain y gwaith rheoli ac ymgysylltu â bargeinion dinesig a thwf ar ran Llywodraeth y DU yng Nghymru.
Y Cyd-destun
Mae'r ddogfen hon yn ystyried yr egwyddorion a restrir yn:
Statws
- Mae pedair bargen dinesig a thwf rhanbarthol yng Nghymru, sef Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd; Bargen Ddinesig Dinas-Ranbarth Bae Abertawe; Bargen Twf y Gogledd a Bargen Twf y Canolbarth. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi cyfanswm o £791 miliwn yn y pedair bargen dros 10‑15 mlynedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi dros £795m dros 15-20 mlynedd. Mae'r Memorandwm hwn yn ymdrin â'r pedair bargen, gyda threfniadau llywodraethu a sicrwydd cymesur priodol a bennir yn unol ag esblygiad y polisi bargen dinesig a thwf rhanbarthol.
Llywodraethu
- Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydweithio i sicrhau bod y ddwy lywodraeth yn fodlon â defnyddio’r cyllid at ddiben bargeinion dinesig a thwf rhanbarthol sy’n golygu rhyddhau cyllid bob blwyddyn i ranbarthau ac â threfniadau priodol y cytunwyd arnynt ar gyfer rhyddhau'r cyllid hwnnw. Mae bwrdd goruchwylio cydlywodraethol o swyddogion, sef Bwrdd Gweithredu Dinesig a Thwf Cymru (WCGIB), yn gyfrifol am oruchwylio effeithiolrwydd trefniadau partneriaethau rhanbarthol awdurdodau lleol ar gyfer llywodraethu, rhoi sicrwydd a chyflawni prosiectau pob bargen ddinesig a thwf rhanbarthol ac am gytuno ar argymhellion i Weinidogion.
Pwy sy’n atebol am gyllid y DU mewn bargeinion dinesig a thwf rhanbarthol
- Yn unol â natur gydweithredol bargeinion dinesig a thwf rhanbarthol, mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu cyllid wedi'i glustnodi i'r Grant Bloc fel ei chyfraniad ariannol, hynny y tu allan i broses Barnett, i Lywodraeth Cymru ei weinyddu ar ei rhan. Drwy hynny, gellir rheoli a rhyddhau cyllid y ddwy lywodraeth drwy un broses y cytunwyd arni ar gyfer pob bargen. Bydd y cyllid yn cael ei dalu gan Lywodraeth Cymru i Gorff Atebol perthnasol pob bargen, cyn belled â’i fod yn bodloni'r telerau ar gyfer rhyddhau cyllid yn flynyddol. Ar hyn o bryd awdurdod lleol arweiniol yw'r Corff Atebol, wedi'i ddewis gan y partneriaid rhanbarthol a'i gadarnhau mewn cytundeb cydweithio ar gyfer pob rhanbarth. Mae hyn yn adlewyrchu ffocws y bargeinion, lle mae'r ddwy lywodraeth yn cydweithio i gydlynu'r buddsoddiad mewn rhanbarth penodol i sicrhau'r budd economaidd mwyaf ohono.
- Mae Gweinidogion Cymru, yn unol â'u cyfrifoldebau ffurfiol am wariant bargeinion dinesig a thwf rhanbarthol, yn atebol i'r Senedd am y defnydd o’r cyllid a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r rhaglen. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth y DU rôl ymgynghorol o ran cytuno i ryddhau cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer pob bargen drwy WCGIB, ac felly mae hithau’n atebol am argymhellion y Bwrdd sy'n ymwneud â'r cyllid hwnnw.
- Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yw'r Prif Swyddog Cyfrifyddu (PAO), ar ran Llywodraeth Cymru yn rhinwedd Adran 129(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Felly, yr Ysgrifennydd Parhaol sydd bennaf gyfrifol ac atebol am weinyddu'r arian cyhoeddus sy'n llifo drwy Lywodraeth Cymru i'r bargeinion. Cefnogir yr Ysgrifennydd Parhaol yn y rôl hon gan Swyddogion Cyfrifyddu Ychwanegol enwebedig.
- Gweinidogion Llywodraeth Cymru sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch rhyddhau cyllid i'r bargeinion yn unol â thelerau pob Bargen fel y cytunwyd ar y cyd arnynt. Efallai y bydd gofyn i Weinidogion Llywodraeth y DU wneud penderfyniadau ar ryddhau cyllid ar gyfer bargeinion os bydd y WCGIB yn barnu bod angen hynny. Mae penderfyniadau gweinidogion yn cael eu llywio gan argymhellion WCGIB.
- Er mai Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru sy'n atebol yn y pen draw am weinyddu'r cyllid, rhaid i aelodau WCGIB sicrhau ei fod yn gweithredu yn unol â'r egwyddorion yn Rheoli arian cyhoeddus Cymru (yn achos swyddogion Llywodraeth Cymru) a Managing Public Money yr HMT (ar gyfer swyddogion Llywodraeth y DU). Mae hyn yn cynnwys yr angen i sicrhau eu hunain bod mentrau'n bodloni'r pedair safon cyfrifyddu, sef rheoleidd-dra, uniondeb, gwerth am arian a dichonoldeb.
Ymagwedd at sicrwydd
- Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod defnyddio trefniadau a phwyntiau cymeradwyo ffurfiol priodol wrth gynnal prosiectau ynghyd â rhoi sicrwydd, drwy gydol cylch bywyd y prosiect yn helpu i reoli risg ac ennyn hyder. Bydd hynny'n cefnogi pawb sy'n gyfrifol am gyflawni ac yn rhoi hyder i gyllidwyr a rhanddeiliaid eraill y gall y portffolio ddarparu'r prosiect yn brydlon ac yn gywir o ran cost ac ansawdd.
- Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cytuno i ddefnyddio Swyddfa Cyflawni Prosiectau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod safonau sicrwydd cyson yn cael eu defnyddio ar draws pob portffolio. Mae'r Swyddfa Gyflawni wedi'i hawdurdodi i ddarparu'r Porth Sicrwydd gan ddefnyddio adolygwyr achrededig o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae'r Swyddfa Gyflawni wedi'i hachredu gan yr Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau (IPA), sy'n adrodd i Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU a Thrysorlys Ei Fawrhydi (HMT).
- Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi gorchymyn bod Swyddfa Rheoli Portffolio (PoMO) pob bargen ddinesig a thwf rhanbarthol (Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ei threfniadau ei hun) yn cyflwyno ffurflen Asesu Risg Posibl (RPA) i'w llenwi gan y Swyddfa Gyflawni ar gyfer pob prosiect o fewn y portffolio. Yn dilyn yr asesiad, bydd PoMO yn cyflwyno Cynllun Sicrwydd a Chymeradwyo Integredig (IAAP) ar gyfer pob bargen ddinesig a thwf rhanbarthol i'r WCGIB ei adolygu.
- Bydd cynnal IAAP gan y PoMO ar gyfer pob bargen ddinesig a thwf rhanbarthol yn rhoi syniad i'r WCGIB o lefel y sicrwydd priodol a chymesur gydol cylch bywyd y prosiect. Gallai Llywodraethau Cymru a'r DU, gyda'i gilydd neu ar wahân, drefnu bod rhagor o sicrwydd yn cael ei gomisiynu a'i gynnal os gwêl WCGIB bod angen, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
- Bydd Llywodraeth y DU yn rhoi cyngor amserol ac o ansawdd i'r WCGIB yn seiliedig ar ei diwydrwydd dyladwy ei hun i lywio penderfyniadau ar ryddhau cyllid y fargen. Swyddogion Cyfrifyddu Llywodraeth Cymru fydd yn atebol yn y pen draw am weinyddu a rhyddhau cyllid, ar sail argymhellion WCGIB.
- Pan fydd Llywodraeth y DU yn cynghori nad yw bargen neu ran o fargen a fyddai'n cael ei chyllido trwy gyllid Llywodraeth y DU yn cael ei chefnogi, ni fydd Llywodraeth Cymru yn rhannu cyllid heb gydsyniad WCGIB.
Gwariant
- Clustnodir cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer bargeinion dinesig a thwf rhanbarthol bob blwyddyn fel taliad chwyddo neilltuedig i'r Grant Bloc yn unol â phroffiliau cyllido Llywodraeth y DU y cytunwyd arnynt ymlaen llaw ar gyfer bargeinion, ar y ddealltwriaeth y caiff ei rannu gan Lywodraeth Cymru yn ystod blwyddyn ei ddyrannu rhwng ymrwymiadau Llywodraeth y DU y cytunwyd arnynt fel rhan o bob bargen.
- Felly, pan fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu na all rannu arian Llywodraeth y DU yn unol ag ymrwymiadau Llywodraeth y DU, ni wnaiff ddyrannu'r cyllid hwn (waeth beth a ddywed WCGIB) i fusnes datganoledig arall.
- Llywodraeth Cymru, yn unol â'i chyfrifoldeb ffurfiol fel y Swyddog Cyfrifyddu, sy'n gwneud y penderfyniad terfynol ar sut mae tanwariant Llywodraeth y DU ar fargeinion dinesig a thwf rhanbarthol yn cael ei drin. Cyn gwneud penderfyniad, bydd Llywodraeth Cymru yn trafod â swyddogion Llywodraeth y DU, drwy WCGIB, i lywio cyngor y Swyddog Cyfrifyddu ar sut i drin cyllid sydd heb ei wario gan Lywodraeth y DU. Mae'r opsiynau yn cynnwys:
- Dychwelyd tanwariant y flwyddyn i HMT gyda chais am broffil newydd sy'n nodi'r achos strategol am broffil newydd. Mae angen i unrhyw gais am broffil newydd ystyried proffil cyllido Llywodraeth y DU ar gyfer pob bargen;
- Rhoi gwybod i HMT y caiff y tanwariant ei wario ar Fargen Gymreig arall, gan nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd cwantwm cywir Llywodraeth y DU yn cael ei ddyrannu i bob Bargen dros ei hoes;
- Fel y gwêl Llywodraeth Cymru yn dda, ceir opsiwn i ystyried defnyddio'r hyblygrwydd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru i reoli proffil cyllido Llywodraeth y DU rhwng blynyddoedd ariannol.
- Os bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu mai'r opsiwn gorau yw dychwelyd tanwariant i HMT, bydd angen i Weinidogion HMT gydsynio i hynny ac i broffil cyllido newydd Llywodraeth y DU ar gyfer y fargen fel rhan o'r brif broses neu'r broses ategol ar gyfer pennu Amcangyfrifon.
- Mae'r Memorandwm hwn yn esbonio sut y caiff cyllid a thanwariant eu trin yng nghyd-destun proffiliau blynyddol Llywodraeth y DU y cytunwyd arnynt ymlaen llaw ar gyfer Bargeinion. Mae Llywodraethau Cymru a'r DU wedi ymrwymo i sicrhau bod bargeinion yn mynd rhagddynt yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni. Ystyrir newidiadau i broffiliau ehangach o dan amgylchiadau eithriadol yn unig.
Osgoi a datrys anghydfodau
- Mae'r ddwy ochr wedi ymrwymo i ddatrys anghytundebau sy'n ymwneud â'r Memorandwm hwn ar y lefel briodol isaf bosibl o fewn y strwythurau rhynglywodraethol presennol sy'n ymwneud â bargeinion dinesig a thwf rhanbarthol yng Nghymru. Os na ellir datrys anghydfod, gall y naill lywodraeth neu'r llall ei gyfeirio at Ysgrifenyddiaeth IGR o dan y trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghydfodau a ddisgrifir yn yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol.
Adolygu
- Bydd y ddogfen hon yn cael ei hadolygu'n ffurfiol o leiaf bob blwyddyn ac ar adegau eraill pan fydd WCGIB yn ystyried bod angen (yn unol â Chylch Gorchwyl WCGIB) a'i diweddaru yn ôl yr angen.
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rebecca Evans AS/MS
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning
Llywodraeth y DU / Llywodraeth y DU:
Y Fonesig Nia Griffith AS
Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru
Ysgrifennydd Gwladol Cymru