Neidio i'r prif gynnwy

1.Cefndir

1.1. Mae’r Memorandwm hwn yn amlinellu’r berthynas waith rhwng Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) a Llywodraeth Cymru (“y Llywodraeth”). Ei bwrpas yw sicrhau bod y Comisiynydd a’r Llywodraeth yn cydweithio’n effeithiol ac yn adeiladol i weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae’r ddau gorff hefyd yn ymrwymo i gyd-gyfrannu at wireddu amcanion Ffyniant i Bawb - Rhaglen Lywodraethu’r Llywodraeth, a Cymraeg 2050 – Strategaeth y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg. Wrth ymgymryd â’u gwaith bydd y ddau gorff yn gweithio tuag at saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig y nod o greu “Cymru a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu”. Mae’r Memorandwm a’r trefniadau sydd ynddo wedi cael eu cytuno gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ar ran Gweinidogion Cymru, a chan Gomisiynydd y Gymraeg.

1.2. Nid yw’r Memorandwm wedi’i rwymo mewn cyfraith, ond mae’r Comisiynydd a’r Llywodraeth yn cytuno i weithredu yn unol ag ef. Nid yw’r memorandwm ychwaith yn disodli nac yn cymryd blaenoriaeth dros ddarpariaethau’r Mesur.

1.3.Er mwyn cael sefydlogrwydd a chysondeb, mae’r Memorandwm hwn yn sefydlu trefniadau gwaith am dymor y Llywodraeth gyfredol, ac yn dangos aliniad clir â rhaglen lywodraethu’r Llywodraeth a strategaeth Cymraeg 2050. Dylai’r Comisiynydd ystyried Rhaglen Lywodraethu’r Llywodraeth a strategaeth Cymraeg 2050 wrth baratoi Cynllun Gwaith blynyddol.

2.Egwyddorion

2.1 Mae darpariaethau ym Mharagraff 1(4) Atodlen 1 i'r Mesur yn diogelu annibyniaeth y Comisiynydd i weithredu yn annibynnol ar Weinidogion Cymru drwy sicrhau bod rhaid i Weinidogion Cymru roi ystyriaeth i’r ffaith ei bod yn ddymunol sicrhau bod y Comisiynydd o dan gyn lleied o gyfyngiadau ag y bo’n rhesymol. Yn gysylltiedig, mae Adran 16 y Mesur yn nodi pryd mae gan Weinidogion bwerau i gyfarwyddo’r Comisiynydd.

2.2 Mae Gweinidogion Cymru yn parchu bod angen i’r Comisiynydd weithredu’n annibynnol er mwyn bod yn llais annibynnol a chryf dros y Gymraeg, ac i fedru craffu ar waith y Llywodraeth. Mae’r Mesur yn rhoi pwerau i’r Comisiynydd i gyflwyno argymhellion a chyngor i Weinidogion Cymru ac mae’n bwysig bod ganddo’r hyder i wneud hynny heb i Weinidogion ddylanwadu arno.

2.3 Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i gyfarwyddo’r Comisiynydd. Mae Adran 16 y Mesur yn nodi’r eithriadau i’r pwerau hynny:

Pŵer Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd

  1. Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i'r Comisiynydd.
  2. Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r Comisiynydd mewn perthynas â'r materion canlynol -
    1. rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson o dan Bennod 6 o Ran 4 (gan gynnwys cynnwys hysbysiad cydymffurfio sydd i'w roi i berson);
    2. Rhan 5 (gorfodi safonau);
    3. Rhan 6 rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg)
  3. Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

2.4 Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried y Comisiynydd yn bartner allweddol o ran gweithredu strategaeth y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg – Cymraeg 2050.

Mae’r Comisiynydd a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i weithio mewn partneriaeth er mwyn cynnig sylfaen gadarn i gwrdd â thargedau Strategaeth Cymraeg 2050.

2.5 Mae cyd-weithio tuag at wireddu targedau Cymraeg 2050 yn ganolog i’r berthynas rhwng y Llywodraeth a’r Comisiynydd, felly hefyd sicrhau bod y ddau gorff yn deall yn union beth yw cyfraniad y naill a’r llall tuag at hynny. Dau brif darged Cymraeg 2050 yw:

  • Nifer siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050
  • Canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10 y cant (yn 2013–15) i 20 y cant erbyn 2050.

2.6 Mae’r Comisiynydd yn ystyried Llywodraeth Cymru yn ariannwr ac yn bartner allweddol. Mae’r Comisiynydd yn cytuno i ddarparu gwybodaeth reolaidd ar ei raglen waith, ac ar unrhyw fater arall o bwys, fel bo Gweinidogion Cymru yn gallu cael eu briffio mewn modd amserol a phriodol. Yn yr un modd, mae’r Llywodraeth yn ymrwymo i ddarparu unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i waith y Comisiynydd yn amserol, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â phrosiectau a pholisïau’r Llywodraeth a materion ariannol a chyllidol sy’n effeithio ar y Comisiynydd. Mae Adran 4 yn rhoi mwy o fanylion ynglŷn a rhannu dogfennau a datganiadau.

3. Llywodraethiant

3.1 Mae’r adran hon yn amlinellu trefniadau llywodraethiant y Comisiynydd:

Swyddogaeth Swyddog Cyfrifyddu

3.2 Mae’r Comisiynydd yn cael ei benodi gan y Prif Weinidog o dan ddarpariaethau’r Mesur. Mae paragraff 16 (1) o Atodlen 1 i’r Mesur yn datgan mai’r Comisiynydd yw swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa’r Comisiynydd.

3.3 Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol, ymysg pethau eraill, am lofnodi’r cyfrifon, ac yn bersonol gyfrifol am briodoldeb a rheoleidd-dra gwario’r cyllid cyhoeddus y mae’n gyfrifol amdano. Mae’r swyddog cyfrifyddu hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod adnoddau yn cael eu defnyddio yn ddarbodus, effeithiol ac effeithlon.

3.4 Mae cyfrifoldebau llawn y Swyddog Cyfrifyddu wedi’u pennu gan Trysorlys y DU.

Llywodraethiant Swyddfa’r Comisiynydd

Panel Cynghori’r Comisiynydd

3.5 Mae Adran 23 y Mesur yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru benodi aelodau o banel o gynghorwyr i’r Comisiynydd. Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod o leiaf 3 ond nid mwy na 5 o aelodau ar y Panel Cynghori ar unrhyw adeg. Wrth benodi aelodau bydd Gweinidogion Cymru yn gweithredu yn unol â rheoliadau- y rhai cyfredol (pan arwyddwyd y memorandwm hwn) yw Rheoliadau Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2012.

Pan fydd tymor aelodau’r Panel Cynghori yn dod i ben, fe fydd Gweinidogion Cymru yn trafod â’r Comisiynydd er mwyn adnabod anghenion am arbenigedd y Panel Cynghori cyn mynd ati i ddechrau proses penodiadau cyhoeddus.

Bydd y Comisiynydd yn ymgynghori â’r Panel Cynghori yn unol â darpariaethau’r Mesur. Mae cyfeiriadau yn y Mesur at ymgynghori â’r Panel Cynghori yn caniatáu i’r Comisiynydd ymgynghori ag unrhyw un neu ragor neu bob un o aelodau’r Panel.

Pwyllgor Archwilio a Risg y Comisiynydd

3.6 Fel Swyddog Cyfrifyddu, mae’r Comisiynydd yn gyfrifol am sicrhau bod swyddfa’r Comisiynydd yn cael ei rhedeg mewn ffordd ddarbodus, effeithiol ac effeithlon er mwyn sicrhau gwerth am arian cyhoeddus. Mae gan y Comisiynydd bwyllgor archwilio a risg er mwyn rhoi sicrwydd o hynny i Weinidogion Cymru, y Cynulliad a’r cyhoedd. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn cynghori’r Comisiynydd ar brosesau strategol ar gyfer risg, rheolaeth a llywodraethiant. Mater i’r Comisiynydd yw pennu nifer yr aelodau, penodi aelodau, a threfnu cyfarfodydd.

Tîm Rheoli’r Comisiynydd

3.7 Mater i’r Comisiynydd fydd penderfynu ar aelodaeth y Tîm Rheoli ac ar amlder a ffurf y cyfarfodydd. Prif bwrpas y Tîm Rheoli yw cynnig cefnogaeth a chyngor i’r Comisiynydd ar gyfeiriad strategol a rhaglen waith y corff. Y Tîm Rheoli sy’n gyfrifol am arweinyddiaeth strategol y corff, a rheoli’r corff o ddydd i ddydd.

4. Rhannu Gwybodaeth

Dogfennau

4.1 Pan fydd y Comisiynydd yn cyhoeddi adroddiad ynglŷn â Llywodraeth Cymru, neu adroddiad yn ymwneud â maes polisi mae’r Llywodraeth yn gyfrifol amdano, bydd y Comisiynydd yn rhannu copi drafft o flaen llaw ac yn rhoi cyfle i’r Llywodraeth roi sylwadau ac yn eu hystyried cyn cyhoeddi copi terfynol.

4.2 Lle mae gan Weinidogion Cymru rôl i gymeradwyo neu cydsynio dogfen sy’n cael ei lunio gan y Comisiynydd, bydd y Comisiynydd yn rhannu drafft cynnar gyda Gweinidogion ac yn ystyried sylwadau cyn ymgynghori ar y ddogfen.

4.3 Bydd y Comisiynydd yn rhoi gwybod i’r Llywodraeth o leiaf ddau ddiwrnod gwaith o flaen llaw, gan amgáu copi, os bydd yn bwriadu cyhoeddi unrhyw adroddiad neu ddogfen (gan gynnwys adroddiadau neu ddogfennau y mae’r Llywodraeth wedi rhoi sylwadau arnynt eisoes). Ni fydd y Llywodraeth yn trafod nac yn rhannu’r rhain yn allanol cyn i’r Comisiynydd wneud cyhoeddiad.

4.4 Yn yr un modd fe fydd y Llywodraeth yn rhoi gwybod i’r Comisiynydd o leiaf ddau ddiwrnod gwaith o flaen llaw, gan rannu copi, os yw’n bwriadu cyhoeddi unrhyw adroddiad neu ddogfen sy’n effeithio’n uniongyrchol ar waith y Comisiynydd. Ni fydd y Comisiynydd yn trafod nac yn rhannu’r rhain yn allanol cyn i’r Llywodraeth wneud cyhoeddiad.

4.5 Mae adroddiadau sydd wedi eu llunio o dan Rhan 5 o’r Mesur (gorfodi safonau), ac adroddiadau sy’n ymwneud â materion yn Adran 16(2) y Mesur (gweler pwynt 2.3 o’r Memorandwm), wedi’u heithrio o’r trefniant uchod.

4.6 Pan fydd y Comisiynydd yn ymateb i ymgynghoriad sy’n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru, bydd copi o’r ymateb yn cael ei anfon at Isadran y Gymraeg.

Datganiadau

4.7 Bydd y Comisiynydd a’r Llywodraeth yn rhoi blaen rybudd i’w gilydd pan fydd bwriad gan y naill neu’r llall i gyhoeddi datganiad i’r wasg sy’n ymwneud â gwaith y llall. Fe fydd copi o’r datganiad yn cael ei rhannu mor fuan ag sy’n ymarferol phosib.

4.8 Fe fydd y Llywodraeth yn rhoi blaen rybudd i’r Comisiynydd pan fydd Gweinidog yn gwneud datganiad llafar neu ysgrifenedig sy’n ymwneud â gwaith y Comisiynydd i Aelodau’r Cynulliad ac yn rhannu copi wedi i’r datganiad gael ei wneud i Aelodau.

5. Cyfarfodydd

Cyfarfodydd rhwng y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg a’r Comisiynydd

5.1 Bydd y Gweinidog yn cyfarfod â Chomisiynydd y Gymraeg o leiaf bedair gwaith mewn blwyddyn galendr er mwyn rhannu gwybodaeth am weithgareddau’r cyrff a’r hyn a gyflawnwyd yn erbyn eu hamcanion, gan gynnwys yng nghyd-destun gweithio tuag at gyflawni targedau Cymraeg 2050. Caiff un o’r cyfarfodydd hyn bob blwyddyn ei glustnodi ar gyfer trafod cyllideb y Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol. Bydd agenda ar gyfer y cyfarfodydd yn cael eu cytuno wythnos cyn dyddiad y cyfarfod.

Cyfarfodydd rhwng y Comisiynydd a Gweinidogion eraill

5.2 O bryd i’w gilydd mae’n bosibl y bydd y Comisiynydd eisiau cwrdd â Gweinidogion sy’n gyfrifol am feysydd polisi eraill. Bydd y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg yn cael ei hysbysu ymlaen llaw o gyfarfodydd o’r fath, ond mater i’r Comisiynydd drefnu yn uniongyrchol â swyddfeydd Gweinidogion eraill yw’r cyfarfodydd hynny.

6. Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Y Gymraeg

6.1 Mae Adran 18(2) y Mesur yn gosod gofynion o ran Adroddiad Blynyddol, ac mae Adran 19(3) yn nodi bod rhaid cyhoeddi’r Adroddiad erbyn 31 Awst yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

6.2 Mae Adran 18(2) yn gwneud y ddarpariaeth ganlynol:

(2)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys y materion a ganlyn -

  1. crynodeb o'r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau'r Comisiynydd;
  2. adolygiad o faterion sy'n berthnasol i'r Gymraeg;
  3. crynodeb o raglen waith y Comisiynydd;
  4. cynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol;
  5. crynodeb o'r cwynion a wnaed yn unol â'r weithdrefn a sefydlwyd o dan adran 14.

7. Ariannu Comisiynydd y Gymraeg

7.1 Mae paragraff 17 o Atodlen 1 i’r Mesur yn gwneud darpariaethau ar gyfer y Comisiynydd yn paratoi amcangyfrifon blynyddol. Yn unol â pharagraff 17(2) rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno’r amcangyfrif i Weinidogion Cymru o leiaf 5 mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol mae’r amcangyfrif yn ymwneud â hi. Bydd Gweinidogion Cymru yn archwilio’r amcangyfrif ac yn ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol (gyda addasiadau os ydynt yn meddwl bod hynny yn briodol).

7.2 Yn dilyn cymeradwyaeth cyllideb Llywodraeth Cymru gan y Cynulliad Cenedlaethol, bydd y Comisiynydd yn cael ei hysbysu o’r gyllideb fydd ar gael i’r Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol mor fuan ag sy’n bosibl.

7.3 Mae’n bosibl bydd Llywodraeth Cymru o bryd i’w gilydd yn trosglwyddo cyllid i’r Comisiynydd at ddibenion penodol. Pan fydd hynny’n digwydd bydd yr amodau yn cael eu hamlinellu’n glir mewn llythyr.

7.4 Bydd y Comisiynydd yn anfonebu’r Llywodraeth yn chwarterol a bydd cyllid yn cael ei drosglwyddo yn amserol. Bydd y taliad yn cael ei brosesu yn unol â threfniadau ac amserlenni cyllidol Llywodraeth Cymru.

7.5 Mae’r Comisiynydd yn cydnabod bod gan yr Ysgrifennydd Parhaol, fel Prif Swyddog Cyfrifyddu Llywodraeth Cymru, ddyletswydd i roi trefniadau digonol yn eu lle er mwyn sicrhau bod y dyraniad blynyddol yn cael ei ddefnyddio o ran yr angen am reoleidd-dra, priodoldeb, a gwerth am arian. Yn hynny o beth, bydd y Comisiynydd yn darparu unrhyw wybodaeth berthnasol i Lywodraeth Cymru y gall fod arni ei hangen ymlaen llaw drafodaeth mewn cyfarfodydd perthnasol.

7.6 Bydd y Llywodraeth yn hysbysu’r Comisiynydd a’r Pwyllgor Risg ac Archwilio mor fuan â phosibl o unrhyw archwiliad neu adolygiad y bydd yn ei gynnal a allai effeithio ar y Comisiynydd. Bydd y Llywodraeth yn darparu gwybodaeth am yr archwiliad neu’r adolygiad, a’r adroddiad terfynol i’r Comisiynydd mor fuan ag sy’n bosibl. Mae’r Comisiynydd yn ymrwymo i ddarparu pob cymorth phosibl wrth baratoi at, a chynnal adolygiadau ac archwiliadau.

8. Llywodraeth Cymru a Strategaeth Cymraeg 2050

8.1 Mae Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd trwy Adran 78 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i baratoi strategaeth yn nodi sut mae’n bwriadu hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Ar hyn o bryd, Cymraeg 2050 yw’r strategaeth honno. Llywodraeth Cymru felly sy’n gyfrifol am bennu polisïau cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg, ac am sefydlu cynllun blynyddol, strwythurau a systemau ar gyfer gweithredu’r strategaeth honno.

8.2 Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r holl offer polisi sydd ar gael iddi i fwrw amcanion strategaeth Cymraeg 2050 yn eu blaen. I’r perwyl hwn, bydd Is-adran y Gymraeg, yn gweithredu ar draws Llywodraeth Cymru er mwyn prif-ffrydio’r Gymraeg drwy bob agwedd ar weithgarwch Llywodraeth Cymru.

8.3 Mae cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg wedi cael eu hamlinellu yn Atodiad 1. Bydd y rhaniad hwn yn cael ei adolygu’n flynyddol i sicrhau bod amcanion Cymraeg 2050 yn cael eu gweithredu.

9. Egwyddorion ar gyfer cydweithio

Wrth arfer eu swyddogaethau, mae’r Comisiynydd a’r Llywodraeth yn gytûn y dylid gweithredu yn y modd canlynol:

9.1 Bydd Tîm Rheoli Is-adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru a Thîm Rheoli’r Comisiynydd yn cael cyfarfodydd ffurfiol ar y cyd o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Pwrpas y cyfarfodydd fydd cynllunio rhaglenni gwaith a sicrhau cyd-ddealltwriaeth am sut mae gweithgareddau’r cyrff yn cyfrannu at gyflawni amcanion Cymraeg 2050. Bydd trafodaeth benodol yn cael ei chynnal ar waith a wneir i gynyddu defnydd o’r Gymraeg.

9.2 Bydd Comisiynydd yn darparu data a dadansoddiad ysgrifenedig i’r Llywodraeth yn flynyddol o sut mae ei waith wedi cyfrannu at Strategaeth Cymraeg 2050.

9.3 Bydd pwyllgorau o swyddogion rhwng y ddau gorff yn cael eu sefydlu er mwyn trafod gwaith penodol yn ôl y galw. Bydd rhai ohonynt yn cael eu sefydlu yn barhaol ac eraill dros-dro i ddelio gyda mater neu brosiect penodol.

9.4 Bydd y Comisiynydd a’r Llywodraeth ill dau yn cofleidio cydweithio, cyd-gynhyrchu, rhannu gwybodaeth a rhannu arbenigedd.

9.5 Bydd y Comisiynydd yn gweithredu’n hyd-braich o Lywodraeth – ac yn annibynnol ei farn – ond gyda ffocws clir ar weithredu ei rôl o ran cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn modd sy’n cyfrannu at wireddu strategaeth Cymraeg 2050.

9.6 Bydd y Comisiynydd yn gorff sy’n creu partneriaethau ar draws gwahanol sectorau, ac yn ysbrydoli eraill i weithredu er lles y Gymraeg.

9.7 Bydd y Comisiynydd yn cynnig cefnogaeth ymarferol ac arweiniad i gynorthwyo cyrff sy’n dod o dan y drefn Cynlluniau Iaith neu Safonau’r Gymraeg i gynyddu’r defnydd a wneir o’u gwasanaethau Cymraeg.

Arwyddwyd gan:

Eluned Morgan AC/AM, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ar ran Gweinidogion Cymru

Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg

Atodiad 1

Fel y nodir yn 8.3, uchod, bydd y rhaniad hwn o gyfrifoldebau yn cael ei adolygu’n flynyddol i sicrhau bod amcanion Cymraeg 2050 yn cael eu gweithredu.

1.1 Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gweithredu swyddogaethau statudol Mesur y Gymraeg gan gynnwys gosod, monitro a gorfodi safonau’r Gymraeg, yn ogystal â gweithredu trefn Cynlluniau Iaith Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Bydd y Comisiynydd hefyd yn arwain ar y meysydd polisi canlynol:

  • Trydydd sector: gweithio gydag elusennau a mudiadau gwirfoddol i gynyddu darpariaeth Cymraeg ac i gynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg
  • Gweithio â banciau, archfarchnadoedd, a busnesau mawr i gynyddu darpariaeth Cymraeg ac i gynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg
  • Darparu cyngor i Awdurdodau Lleol ac eraill ar enwau lleoedd
  • Darparu cyngor i Awdurdodau Lleol ar ddatblygu strategaethau iaith 5 mlynedd yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg
  • Datblygu polisi i gynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn gweithleoedd, ac i gynorthwyo cyrff i gynllunio’u gweithluoedd
  • Polisi: craffu’n annibynnol ar bolisïau’r Llywodraeth o ran y Gymraeg.

1.2 Bydd Llywodraeth Cymru yn arwain ar sicrhau bod egwyddorion cynllunio ieithyddol yn cael eu dilyn wrth weithredu polisi yn unol â rhaglen waith Cymraeg 2050. Bydd y Llywodraeth yn arwain ar y meysydd polisi canlynol:

  • Trosglwyddo’r Gymraeg rhwng rhieni a’u plant,
  • Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith plant a phobl ifanc.
  • Technoleg a'r Gymraeg.
  • Corpws a therminoleg.
  • Y Gymraeg mewn busnes
  • Creu porth (y gelwir yn ‘Llinell Gyswllt’ yn ystod y cyfnod datblygu cyn ei lansio) er mwyn cyfeirio unigolion a busnesau at ffynonellau priodol o gymorth er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
  • Ymyraethau cynllunio ieithyddol ar lefel rhanbarthol/ardal: er enghraifft Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg; cynllunio gwlad a thref; datblygu economaidd; mentrau iaith.
  • Ymchwil, data a gwerthuso.
  • Arwain ar fentrau Ymwybyddiaeth Iaith (fel rhan o raglen Deall dwyieithrwydd) a’r negeseuon priodol i’w defnyddio i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
  • Defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau.