Neidio i'r prif gynnwy

1. Sefydliadau Llofnodwyr

Y llofnodwyr i'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn ("MoU") yw:

  • Yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net ("DESNZ"), a
  • Llywodraeth Cymru, ("LlC")

(pob un yn "Cyfranogwr" a, gyda'i gilydd, y "Cyfranogwyr").

2. Diben

2.1 Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn nodi'r ddealltwriaeth rhwng DESNZ a LlC ynghylch y trefniadau gweithio a throsglwyddo £4.8 miliwn o gyllid ar gyfer cyflawni prosiect Hwb Hydrogen Caergybi ("HHH") ar Ynys Môn.

2.2 Nid yw'r MoU hwn yn gyfreithiol rwymol nac yn orfodadwy ac nid yw'n honni creu unrhyw hawliau neu rwymedigaethau cyfreithiol, boed hynny rhwng y Cyfranogwyr neu fel arall.

2.3 Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn amlinellu:

  • Amcanion y cyllid
  • Amserlen ariannu a chyfrifoldebau Swyddog Cyfrifyddu
  • Sicrwydd a gwybodaeth
  • Trefniadau llywodraethu a rheoli.
  • Protocol cyfathrebu

3. Cefndir a phwrpas y Cyllid

3.1 Yn 2021 dyrannwyd £4.8m o gyllid i'r HHH gan DESNZ i gefnogi'r gwaith o adeiladu cyfleuster hydrogen electrolytig ar Ynys Môn.

3.2 Mae DESNZ a Thrysorlys Ei Fawrhydi (HMT) wedi cytuno â LlC y bydd y cyllid hwn yn cael ei drosglwyddo o DESNZ i LlC er mwyn iddynt reoli'r cyllid a'r cyfrifoldeb cyflawni llawn ar gyfer HHH.

3.3 Yn unol â hynny, mae'r Cyllid (fel y'i diffinnir isod) sydd i'w drosglwyddo o DESNZ i LlC yn unol â'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn ar gyfer ariannu adeiladu'r HHH.

4. Amserlen ariannu

4.1 Bydd DESNZ yn trosglwyddo £4.8m o gyllid cyfalaf i LlC ar gyfer prosiect HHH (y "Cyllid") gan ddefnyddio'r broses Amcangyfrifon Atodol ym Mlwyddyn Ariannol 2025/26

5. Swyddog Cyfrifyddu

5.1 Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yw'r Prif Swyddog Cyfrifyddu (PAO) (Atodiad B), ar ran Llywodraeth Cymru yn rhinwedd Adran 129(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru sydd ag atebolrwydd cyffredinol am weinyddu'r Cyllid. Cefnogir yr Ysgrifennydd Parhaol yn y rôl hon gan Swyddogion Cyfrifyddu Ychwanegol enwebedig. Mae hyn yn cynnwys yr angen i sicrhau eu hunain bod dosbarthu'r Cyllid yn bodloni'r pedwar safon cyfrifyddu, sef rheoleidd-dra, uniondeb, gwerth am arian a dichonoldeb.

5.2 Er mwyn galluogi Prif Swyddog Cyfrifyddu DESNZ i gyflawni ei gyfrifoldebau personol o dan Rheoli Arian Cyhoeddus ar gyfer arian a drosglwyddir i LlC, bydd LlC yn darparu sicrwydd a gwybodaeth amserol, cywir a chynhwysfawr yn unol â pharagraff 6 isod.

6. Sicrwydd a gwybodaeth

6.1 Bydd LlC yn darparu adroddiad cynnydd chwarterol i DESNZ ar ddiwedd pob chwarter ariannol ar gyflawni'r HHH sy'n cynnwys:

  1. Cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd yn y chwarter blaenorol, er enghraifft FID a gymerwyd, cytundebau dargymryd wedi'u llofnodi, cynnydd gydag adeiladu, dechrau gwaith ac ati.
  2. Crynodeb o dalu unrhyw ran o'r Cyllid i adeiladu'r HHH yn unol â'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn.
  3. Crynodeb lefel uchel sy'n nodi cerrig milltir cyflawni prosiect disgwyliedig dros y chwarter nesaf.
  4. Sicrwydd gan LlC o gydymffurfio â'r pedwar prawf Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer penderfyniadau a chymeradwyaethau a wnaed ar brosiect HHH yn ystod y chwarter sy'n ymwneud â gwariant y Cyllid.

6.2 Bydd Llywodraeth Cymru yn hysbysu DESNZ cyn gynted â phosibl os:

  1. Y daw LlC yn ymwybodol o risgiau sylweddol i gyflawni'r HHH (e.e. methu â sicrhau digon o gwmniau dargymryd ar gyfer ei hydrogen)
  2. Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld na fydd prosiect HHH wedi gwario'r holl Gyllid ar ôl ei gwblhau; mewn amgylchiadau o'r fath bydd Llywodraeth Cymru yn hysbysu DESNZ i drafod dychwelyd Cyllid heb ei wario.
  3. Bydd LlC yn gwneud penderfyniad ar unrhyw gam i derfynu prosiect HHH cyn ei gwblhau, ac yn yr achos hwnnw, bydd Llywodraeth Cymru yn hysbysu DESNZ cyn gynted â phosibl i drafod dychwelyd cyllid neu cyllid heb ei ddyrannu. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn sicrhau bod unrhyw lythyr dyfarnu cyllid yn ymgorffori dulliau ad-dalu.

7. Egwyddorion Cydweithio

7.1 Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn wedi'i ategu gan yr egwyddorion ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol, fel y'u nodir yn yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol. Yn unol â'r egwyddorion hyn, mae'r Cyfranogwyr yn penderfynu ar y cyd ar y canlynol:

  1. Mae'r ddau Gyfranogwr yn ymrwymo i gyfathrebu agored a thryloyw a byddant yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu yn ôl yr angen ar gynnydd y prosiect.
  2. Bydd cyhoeddusrwydd a chyfathrebu yn cael eu cydlynu rhwng y Cyfranogwyr, gyda negeseuon ar y cyd gan y ddwy lywodraeth ar y prosiect.
  3. Dylai brandio ac arwyddion ar gyfer prosiect HHH adlewyrchu bod y prosiect wedi'i ariannu gan DESNZ a Llywodraeth Cymru.

8. Rheoli a Llywodraethu

8.1 Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am ddyrannu, dosbarthu a gweinyddu'r Cyllid.

8.2 Bydd Llywodraeth Cymru yn rheoli ystyriaethau cydraddoldeb, risg twyll, a rheoli cymorthdaliadau.

8.3 Mae'r ddau Gyfranogwr wedi ymrwymo i atal a dileu caethwasiaeth fodern o fewn cadwyni cyflenwi gweithgareddau a gefnogir gan y Cyllid. Bydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i brosiectau sy'n derbyn Cyllid gymryd mesurau cymesur i atal a dileu caethwasiaeth fodern o fewn eu cadwyni cyflenwi, gan gynnwys drwy ymgorffori cymalau caethwasiaeth fodern priodol mewn unrhyw gyllid pellach neu ddogfennaeth gytundebol. Bydd y ddau Gyfranogwr yn cymryd camau cymesur a rhesymol i nodi a mynd i'r afael â risgiau caethwasiaeth fodern yn y cam priodol cynharaf, gan gydnabod y gall asesiad llawn o risgiau o'r fath, mewn rhai achosion, gael ei gynnal fel rhan o brosesau diwydrwydd dyladwy a chytundebau cyllido yn y dyfodol.

9. Rhannu Data

9.1 Bydd y Cyfranogwyr yn rhannu data perthnasol i alluogi cyfnewid gwybodaeth briodol mewn perthynas â'r Cyllid a'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn.

10. Datrys Anghydfodau

10.1 Mae'r ddwy ochr wedi ymrwymo i ddatrys anghytundebau sy'n ymwneud â'r Memorandwm hwn ar y lefel briodol isaf bosibl o fewn y strwythurau rhynglywodraethol presennol sy'n ymwneud â HHH. Os na ellir datrys anghydfod, gall y naill Gyfranogwr neu’r llall ei gyfeirio at Ysgrifenyddiaeth IGR fel anghydfod o dan y trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghydfodau a ddisgrifir yn yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol.

11. Rhyddid Gwybodaeth

11.1 Bydd pob Cyfranogwr yn darparu gwybodaeth y gofynnir amdani yn rhesymol gan y llall, yn amodol ar gyfyngiadau cyfrinachedd a rheolau statudol ar ddatgelu. Bydd y Cyfranogwyr yn ymgynghori â'i gilydd cyn datgeliadau sylweddol o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

12. Hyd

12.1 Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn dechrau o ddyddiad y llofnod olaf isod a daw i ben ar 31 Mawrth 2028, oni bai ei fod wedi'i ymestyn neu ei derfynu gan benderfyniad ar y cyd gan y Cyfranogwyr yn ysgrifenedig.