Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i Gymru ar lwyfan y byd. Mae cydweithio â gwledydd a rhanbarthau eraill yn ychwanegu gwerth at ddatblygu economaidd yng Nghymru drwy alluogi partneriaid i gynyddu gweithgarwch, sicrhau màs critigol a chodi proffil. Mae cydweithio yn rhoi cyfle i gyfnewid syniadau ac arferion gorau, i ymestyn arloesedd a chystadleurwydd ac i fynd i'r afael â materion allweddol sy'n croesi ffiniau. Rydym am weld “Cymru Ystwyth” sy'n edrych tuag allan at bartneriaid presennol a phartneriaid y dyfodol yn y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol, i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a rennir a mynd i'r afael â'n heriau cyffredin.

Mae Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru yn nodi'r angen i dargedu sectorau, rhanbarthau a rhwydweithiau pwysig. Mae Llywodraeth Cymru felly wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth Lywyddiaethol Oita, Japan, yn mynegi eu hawydd gwirioneddol i gryfhau cysylltiadau, gan gynnwys drwy gyfnewid economaidd.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn nodi pum maes ble y mae cyfle syweddol i ddatblygu’r berthynas rhwng Oita a Chymru: Celfyddyd a Diwylliant; Chwaraeon; Academia; Twristiaeth; Bwyd a Diod. 

Y Fenter

Mae'r ddogfen hon yn annog ceisiadau gan sefydliadau yng Nghymru sydd â'r potensial i gynyddu cydweithio economaidd â Oita, Japan. Canolbwyntir ar wariant a hawlir erbyn diwedd mis Mawrth 2024.

Bydd cais cryf yn adlewyrchu’r cyd-destun strategol a nodir uchod ac yn:

  • Cefnogi ac adeiladu cysylltiadau strategol rhwng Cymru a Japan.
  • Creu amrywiaeth o gyfleoedd mewn maes arwyddocaol ar gyfer economi Cymru.
  • Cynnwys sefydliad neu rwydwaith pwysig a pherthnasol yn Oita.
  • Trosglwyddo gwybodaeth ryngwladol i Gymru i effeithio ar flaenoriaethau polisi Cymru.
  • Adeiladu ar y gweithgarwch presennol sydd â’r potensial i dyfu.
  • Bod â llwybr clir i ddod â chyllid arall i mewn, neu lwybr arall at weithgarwch economaidd parhaus a chynaliadwy.

Dylech hefyd ystyried yr allbynnau a’r canlyniadau a nodir yng nghanllawiau Cymru Ystwyth.

Rhaid i bob cais ddangos hyfywedd a gwerth am arian.

Nid oes trothwyon grant sefydlog, ond, yn seiliedig ar brofiad:

ar gyfer prosiectau bach, fel teithio, ymgysylltu a gwasanaeth ymgynghori, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £5,000 fesul cais gael ei ystyried yn rhesymol.

Budd economaidd i Gymru yw sail y fenter ariannu hon, ond nid oes cyfyngiad ar y partneriaid o ran y gwledydd a’r rhanbarthau sydd am sicrhau'r budd hwnnw. Fodd bynnag, byddai o leiaf un partner Ewropeaidd fesul cais yn ddisgwyliedig.

Gall y fenter hon gefnogi hyd at 100% o'r costau cymwys lle mae cyfiawnhad dros hynny, ond mae’n annog manteisio ar gyllid arall lle bynnag y bo modd.

Mae'r gyllideb a ddyrennir ar gyfer y fenter hon hyd at £30,000 ond byddwn yn ystyried ymrwymiadau eraill a thanwariant adeg y penderfyniad. Os bydd y galw'n fwy na'r arian sydd ar gael, defnyddir ‘rhestr wrth gefn’ a chaiff ymgeiswyr eu hannog i nodi a ellir cynnal eu gweithgarwch ar ôl mis Mawrth 2024.

Costau Cymwys

Oni nodir yn benodol yn yr alwad hon, mae canllawiau Cymru Ystwyth yn berthnasol.   

Gall y gwariant gynnwys gweithgarwch partneriaid nad ydynt o Gymru, ar yr amod bod y partner yng Nghymru yn ysgwyddo'r costau a hawlir a’u bod yn cynrychioli gwerth ychwanegol. Fodd bynnag, rydym yn eich cynghori i gysylltu â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn gynnar yn y broses o ddatblygu eich cais er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio.

Rhaid gwario'r grant a’i hawlio cyn 31 Mawrth 2024. Lle y rhagwelir gweithgarwch blynyddol neu hirdymor yn ddiweddarach, gellir rhoi'r gweithgaredd perthnasol ar y ‘rhestr wrth gefn’ i'w ystyried yn y dyfodol ond nid oes unrhyw sicrwydd o gymorth.

Er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol a diffyg hyblygrwydd, nid ydym yn nodi rhestr gaeedig o gostau cymwys, ond rhaid i gostau fod yn angenrheidiol ar gyfer hyrwyddo, gweithredu a lledaenu'r prosiectau y cytunwyd arnynt drwy'r broses ymgeisio a’r cynnig grant ysgrifenedig. Rhaid iddynt fod yn rhesymol, yn wiriadwy a chael eu hysgwyddo gan yr ymgeisydd. Edrychwch ar ganllawiau Cymru Ystwyth i gael rhagor o fanylion. Rydym hefyd yn cynghori eich bod yn canolbwyntio ar eitemau gwariant uwch gyda thrywydd tystiolaeth cryf er mwyn symleiddio’r broses hawlio.

Nid yw'r costau yr eir iddynt cyn y dyddiad cymeradwyo yn gymwys oni bai bod Tîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn cadarnhau fel arall yn ysgrifenedig.

Cyflwyno ceisiadau

Rydym yn agored i geisiadau nawr. Anogir ymgeiswyr i drafod eu cynigion gyda Llywodraeth Cymru cyn eu cyflwyno, e-bostiwch:
CymruYstwyth@llyw.cymru.

Bydd ceisiadau'n cael eu barnu yn unol â nodau'r fenter hon a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniad terfynol. Efallai y byddwn yn gofyn am gyngor arbenigol a chyngor gan gydweithwyr polisi perthnasol yng Nghymru neu mewn gwledydd/rhanbarthau perthnasol. Ymdrinnir â cheisiadau cymwys ar sail ‘y cyntaf i'r felin’ ond prin fydd y cyfle i gael eglurhad pellach a gall ceisiadau nad ydynt yn cael eu hystyried yn gryf fel y'u diffinnir yn y ddogfen hon gael eu rhoi ar y ‘rhestr wrth gefn’ i ganiatáu cyfleoedd ar gyfer ceisiadau eraill. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn mabwysiadu dull portffolio er mwyn rheoli cydbwysedd risg ac ystod y canlyniadau; gallai hyn effeithio ar y gyllideb sydd ar gael a'r math o brosiectau a gefnogir. Felly, anogir ymgeiswyr i drafod â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn gynnar yn y broses i sicrhau bod cryfderau eu cynnig yn cael eu deall.