Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £574,000 o gyllid ar gael i gefnogi pedwar prosiect newydd a fydd yn helpu'r sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru i sicrhau adferiad economaidd tecach a gwyrddach, yn ôl Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.
Bydd y cyllid yn helpu i gyflawni ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol a busnesau sy'n eiddo i weithwyr.
Mae'r prosiectau sy'n cael eu hariannu yn cynnwys:
- Bydd y prosiect Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd yn darparu cynllun grant a chymorth busnes i fentrau cymdeithasol newydd sy'n cytuno i gynllunio, gweithredu ac ymgorffori polisïau 'di-garbon net' y cytunwyd arnynt yn annibynnol. Bydd yn adeiladu enghreifftiau o arfer da o ran sut y gellir integreiddio lliniaru, addasu a gweithredu newid yn yr hinsawdd yn llawn ym mhatrymau gweithredu safonol busnesau cymdeithasol.
- Bydd y prosiect Hyrwyddo Amrywiaeth yn darparu cyllid a chymorth arbenigol i entrepreneuriaid cymdeithasol ymylol yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd lluosog ac i'r rhai sy'n anabl a/neu sydd o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig.
- Bydd y prosiect Prynu'n Lleol, Prynu Cymdeithasol yn hyrwyddo ac yn cefnogi cryfhau economïau lleol drwy weithio gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill i brynu mwy o'u nwyddau a'u gwasanaethau yn lleol. Byddant yn gwneud hynny drwy gomisiynu a chynhyrchu o fewn y gadwyn gyflenwi busnesau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol lleol.
Bydd cefnogaeth ychwanegol hefyd i hyrwyddo perchnogaeth gweithwyr yng Nghymru. Bydd y cyllid yn helpu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu deunyddiau marchnata ac ymgyrchoedd i ddefnyddio perchnogaeth gweithwyr yn y dyfodol.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae mentrau cymdeithasol ledled Cymru wedi bod wrth wraidd ein hymateb cymunedol i Covid-19 - gan roi cymorth gwerthfawr i bobl pan fydd ei angen arnynt fwyaf.
"Mae potensial enfawr i gwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol fod yn fodel busnes o ddewis, gan ddarparu atebion i heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Dyna pam mae cefnogi busnesau cymdeithasol a mentrau cydweithredol ledled Cymru i ddatblygu a thyfu yn un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru.
"Rwy'n falch o sicrhau bod £574,000 ychwanegol ar gael i gefnogi a hyrwyddo'r sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y cyllid yn cefnogi pedwar prosiect newydd a fydd yn helpu'r sector i sicrhau adferiad economaidd tecach a gwyrddach yng Nghymru."