Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething yn agor seminar a gynhelir gan Fydwragedd Ymgynghorol Cymru i gyflwyno canfyddiadau arolwg 'Eich Babi, Eich Gofal'.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ariannwyd yr arolwg gan Lywodraeth Cymru ac mae’n edrych ar brofiadau menywod o fod yn feichiog a rhoi genedigaeth yng Nghymru. 

Bydd bydwragedd a menywod o fforymau defnyddwyr lleol yr holl fyrddau iechyd ledled Cymru yn cyfarfod yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd i glywed y canfyddiadau ac i drafod sut y gellid gwella gwasanaethau i ymateb i farn menywod amdanynt.

Nod yr arolwg, a gaeodd ym mis Ebrill eleni, oedd gwerthuso barn menywod am wasanaethau cynenedigol a'r modd y gall darpariaethau'r gwasanaethau presennol baratoi menywod ar gyfer esgor, rhoi genedigaeth a magu plentyn. Bydd hefyd yn datblygu gweledigaeth ar y cyd, wedi'i seilio ar ganfyddiadau'r arolwg, ar gyfer gwasanaethau a arweinir gan fydwragedd yn y dyfodol.

Cwblhawyd yr arolwg cyfan gan 3,968 o fenywod o bob cwr o Gymru. Roedd pob grŵp oedran wedi'i gynrychioli, o famau newydd i famau sydd wedi geni nifer o blant.

Canfu'r arolwg y byddai menywod yn hoffi'r canlynol:

  • Meithrin perthynas â bydwragedd gwybodus, tosturiol a charedig, nid yn unig er mwyn gwneud i'r menywod deimlo'n ddiogel ond hefyd i'w galluogi i ymddiried yn yr wybodaeth a roddir iddynt.
  • Rhagor o wybodaeth am yr opsiynau geni sydd ar gael iddynt, fel eu bod nhw yn gallu penderfynu lle i roi genedigaeth, yn hytrach na bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn gwneud y penderfyniad.
  • Gwell mynediad at ddosbarthiadau sy'n eu paratoi'n ddigonol at y geni.
  • Bod eu dewisiadau'n cael eu parchu, lle bynnag y maen nhw'n rhoi genedigaeth.

Dywedodd yr Athro Jean White,  Prif Swyddog Nyrsio Cymru:

"Rhaid i anghenion y fam a'r teulu fod yn ganolog i ddarparu gofal o fewn gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru, i sicrhau bod y profiad o fod yn feichiog a rhoi genedigaeth yn ddiogel ac yn gadarnhaol, a bod menywod yn teimlo'n gyfforddus ac yn hyderus ynghylch eu penderfyniadau. 

"Mae'r arolwg hwn yn gam tuag at feithrin a chryfhau'r berthynas bwysig hon rhwng bydwragedd a mamau.

Dywedodd  Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:

"Mae beichiogrwydd a rhoi genedigaeth yn brofiadau personol iawn, felly mae'n bwysig bod menywod yn cael cyfle i roi adborth ynghylch y gofal a'r cyngor a gawsant yn ystod y cyfnod hwnnw.

"Dw i'n hyderus y bydd canlyniadau arolwg "Eich Babi, Eich Gofal", a gyhoeddwyd heddiw, yn mynd â gwasanaethau mamolaeth Cymru i'r lefel nesaf, gan sicrhau bod menywod a'u teuluoedd wedi'u grymuso  yn ystod y cyfnod hwn i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch eu gofal cynenedigol a'u cynlluniau geni.”