Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Sadwrn 2 Mehefin), dringodd merch 12 oed o Fae Colwyn i ben yr Wyddfa i nodi 10 mlynedd ers iddi gael trawsblaniad iau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ôl ddioddef clefyd iau pan oedd yn fabi, cafodd Ella Noon drawsblaniad iau a achubodd ei bywyd pan nad oedd ond yn 26 mis oed. Bu Ella'n lwcus iawn gan iddi fod ar y rhestr aros lai nag wythnos pan ddaeth organ ar gael.

Roedd hi am nodi'r garreg filltir bwysig hon yn ei bywyd drwy ddringo'r mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rhoi organau, ac i annog pawb i ystyried gwneud hynny a dweud wrth eraill am eu penderfyniad i achub bywyd rhywun arall.

Cyn cychwyn ar ei thaith yng nghwmni teulu, ffrindiau a chefnogwyr, dywedodd Ella: 

“Dw i erioed wedi eisiau gwneud rhywbeth sy'n dangos i'r byd nad ydy cael trawsblaniad yn eich stopio rhag gwneud pethau cyffrous a heriol. Ro’n i'n meddwl bod hi'n bwysig nodi'r 10 mlynedd ers imi gael fy nhrawsblaniad. Heb hwnnw fyddwn i ddim yma heddiw. Mae'r iau ges i wedi rhoi cyfle arall imi gael byw, felly dw i'n bendant yn mynd i fyw fy mywyd mewn ffordd sy'n anrhydeddu'r person sydd wedi ei roi imi.”

Wrth ymuno â hi ar ei thaith, dywedodd mam Ella, Andrea Noon: 

“Pan oedd Ella'n ddifrifol wael fel babi, dywedodd y meddygon fod angen iddi gael trawsblaniad iau ar frys. Ro’n ni mor lwcus bod iau wedi dod ar gael mewn pryd; yn drist iawn, dydy pob teulu ddim mor lwcus. Dw i'n meddwl ei fod o mor bwysig bod teuluoedd a ffrindiau’n trafod eu penderfyniad i roi organau, yn enwedig rŵan bod y gyfraith wedi newid yng Nghymru. Gall eich penderfyniad i roi eich organau gael effaith anferth ar fywyd rhywun arall.”  

Ar ôl cynnal ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, daeth Ella o hyd i fam y rhoddwr a oedd wedi newid ei bywyd, ac mae hithau hefyd wedi ymuno â nhw ar y daith. Dywedodd Lindsey Adderson : 

“Heddiw rydyn ni wedi dod ynghyd i ddathlu bywyd Ella, ac i gofio fy merch Jessica, y gwnaeth ei marwolaeth drasig arbed bywyd rhywun arall.”

Bu farw Jessica yn 17 oed, ac ychydig wythnosau ynghynt roedd wedi siarad â'i mam ynghylch ei dymuniad i roi ei horganau. Ychwanegodd Lindsay: 

“Daeth y sgwrs honno yn ôl ataf pan gododd y pwnc o roi organau. I mi, roedd yn benderfyniad hawdd ei wneud, er nad oedd aelodau eraill y teulu ddim mor siŵr. Dw i'n falch fy mod i wedi cadw at benderfyniad Jessica, ac wedi helpu i barchu ei dymuniad i roi organau. 

“Dim ond drwy ofyn ‘fyddech chi'n rhoi eich organau?’, gallech gychwyn trafodaeth bwysig iawn a allai arbed bywyd rhywun, fel y digwyddodd pan arbedodd Jessica fywyd Ella.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

“Mae Ella'n ferch ryfeddol sy'n hollol benderfynol o wneud y gorau o'i bywyd ar ôl ei thrawsblaniad, sy'n dangos pa mor bwysig yw'r penderfyniad ynghylch rhoi organau. Dw i hefyd am dalu teyrnged i'r holl roddwyr a'u teuluoedd - heb eu haelioni a'u cymorth nhw, ni fyddai pobl fel Ella yn cael y trawsblaniad y mae ei angen i achub eu bywydau.

“Rydyn ni'n awyddus i annog pawb yng Nghymru i siarad â'u hanwyliaid am eu penderfyniad ynghylch rhoi organau. Rydyn ni'n gwybod bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn cynyddu, ond mae'n bwysig iawn bod ein neges yn cyrraedd cynifer o bobl Cymru â phosibl.

“Rydyn ni wedi gweld gwelliannau mawr yn ein cyfraddau cydsynio. Ym mis Mawrth 2013, dim ond 50% oedd yn rhoi eu caniatâd ond ym mis Mawrth 2018, roedd y ganran honno wedi cynyddu i 70%. Fodd bynnag, gan fod pobl yn marw wrth aros am drawsblaniad, rhaid inni weithio'n galetach i gynyddu’r ganran ymhellach cyn inni weld gostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sydd ar y rhestrau aros am drawsblaniad.

"Bydd eich teulu yn rhan o unrhyw drafodaeth am roi organau os byddwch mewn sefyllfa i roi eich organau pan fyddwch yn marw. Gallai hynny achosi mwy o boen meddwl mewn cyfnod anodd i deuluoedd sydd erioed wedi trafod rhoi organau. 

“Dw i'n annog pawb yng Nghymru i siarad â'u hanwyliaid am eu penderfyniad ynghylch rhoi organau i wneud yn siŵr y bydd y penderfyniad hwnnw'n cael ei barchu.”

Gall un sgwrs fel hon ddod â budd i bobl yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig drwy leihau nifer y bobl sy'n marw wrth ddisgwyl i organ addas ddod ar gael, a thrawsnewid bywydau.

Gallwch gofrestru eich penderfyniad unrhyw amser drwy ffonio 0300 123 23 23 (gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG fydd yn ateb y galwadau hyn), drwy fynd i www.rhoiorganau.org  neu drwy ddweud wrth eich teulu a'ch ffrindiau.