Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009, ei daith drwy'r Senedd a deddfwriaeth israddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (y Mesur) yn darparu polisi cyfannol a chynhwysfawr ar faeth sy’n sicrhau bod bwyta’n iach yn cael ei hyrwyddo a’i gefnogi ar gyfer pob disgybl a gofrestrwyd mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru. Mae’r Mesur yn:

  • gosod dyletswydd ar ysgolion a gynhelir ac awdurdodau addysg lleol i hyrwyddo bwyta’n iach ac yfed;
  • rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi’n fanwl gynnwys y bwyd a weinir mewn ysgolion, gan gynnwys pwerau i bennu lefelau uchaf o fraster, braster dirlawn, halen a siwgr mewn bwyd a ddarperir i ddisgyblion;
  • gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod cyflenwad o ddŵr ar gael yn rhad ac am ddim; ac yn
  • ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo’r ffaith fod prydau ysgol a llaeth yn gyffredinol, a chinio ysgol a llaeth am ddim yn benodol.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau:

Darllenwch y Mesur llawn:

Dod i rym

Daeth adran 12 o’r Mesur i rym ar 15 Hydref 2009, sef y diwrnod cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol, yn unol ag adran 12(2).

Mae gweddill y darpariaethau yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 12(3):

Mae’r Gorchymyn canlynol wedi ei wneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 14 Mawrth 2008 gan Jenny Randerson AC. Roedd Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru (ar y pryd) yn darparu y gallai Aelodau meinciau cefn y Cynulliad gyflwyno Mesurau’r Cynulliad os oedd gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd deddfwriaethol mewn maes polisi. Roedd Jenny Randerson AC yn Aelod o feinciau cefn y Cynulliad pan gyflwynodd y Mesur. 

Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 8 Mehefin 2009:

a’r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (i adlewyrchu’r Mesur fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 o’r ystyriaeth):

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Hydref 2009.

Erthyglau neu ddeunydd cysylltiedig