Trosolwg o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010, ei daith drwy'r Senedd a deddfwriaeth israddol.
Cynnwys
Trosolwg
Daeth Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) yn gyfraith yn Ionawr 2010 ond cafodd ei ddiddymu wedi hynny gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016.
Rhoddodd Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 bwerau i Weinidogion Cymru ddatblygu fframwaith mwy cyson i awdurdodau lleol wrth godi tâl ar ddefnyddwyr gwasanaeth unigol am wasanaethau gofal cymdeithasol amhreswyl, gyda’r nod o leihau’r anghysondebau a oedd yn bodoli ar y pryd.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.
Darllenwch y Mesur llawn:
Dod i rym
Daeth adrannau 17 i 19 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 17 Mai 2010), yn unol ag adran 18(2).
Roedd gweddill darpariaethau’r Mesur yn dod i rym yn unol â darpariaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 18(3).
Mae’r gorchymyn canlynol wedi ei wneud:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Mesur ar 29 Mehefin 2009 gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd.
Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 19 Ionawr 2010:
a'r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (i adlewyrchu'r Mesur fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2:
Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 17 Mawrth 2010.
