Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (y Mesur) yn sefydlu Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ac yn nodi ei swyddogaethau a’i gylch gorchwyl. 

Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd yn gyfrifol am bennu tâl a lwfansau Aelodau’r Senedd ac am sicrhau bod ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i wneud eu gwaith yn iawn. 

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol. 

Darllenwch y Mesur yn llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau amrywiol o’r Fesur i rym ar 22 Gorffennaf 2017, sef y diwrnod ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor, yn unol ag adran 20(2). Daeth gweddill y darpariaethau i rym ar y diwrnod ar ôl i hysbysiad gael ei osod o dan is-adran (4) yn unol ag adran 20(3). 

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur
TeitlRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rym
Gorchymyn Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (Anghymhwyso o’r Bwrdd Taliadau) 2014 ar legislation.gov.uk2014 Rhif 1004 (Cy. 93)11 Ebrill 201412 Ebrill 2014

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur arfaethedig gan y Gwir Anrh. yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Llywydd ar y pryd, ar 9 Tachwedd 2009. Fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 26 Mai 2010.

Mwy o wybodaeth am y Mesur a gofnod o hynt y Mesur trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Gomisiwn y Cynulliad, fel yr oedd yn cael ei adnabod, wrth gyflwyno’r Mesur arfaethedig:

Cafodd y Mesur Gymeradwyaeth Frenhinol ar 21 Gorffennaf 2010.