Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Fesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010, ei daith drwy'r Senedd a deddfwriaeth israddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) yn nodi paramedrau sylfaenol yr ardoll y mae’r diwydiant cig coch yn cael ei gefnogi’n ariannol drwyddi. Mae’r arian a godir yn cael ei wario ar ddatblygu a hyrwyddo’r amrywiol weithgareddau a nodir yn Atodlen 1. Mae’r “diwydiant cig coch” yn cyfeirio at bob gweithgaredd sy’n ymwneud â bridio, cadw, prosesu, marchnata a dosbarthu gwartheg, defaid a moch (byw neu farw) a chynhyrchion sy’n deillio o’r anifeiliaid hynny (ar wahân i laeth a chynhyrchion llaeth, gwlân cnu a chrwyn).

Mae'r Mesur:

  • yn dileu'r angen am Gorff Cyhoeddus a Noddir gan Senedd Cymru i fod ar waith at ddibenion rheoli datblygiad a hyrwyddo diwydiant cig coch Cymru
  • yn gwneud Gweinidogion Cymru yn uniongyrchol atebol am y diwydiant hwnnw
  • yn cyflwyno cytundeb dirprwyo newydd rhwng Gweinidogion Cymru a Hybu Cig Cymru i ddarparu fframwaith hyblyg sy'n gallu cefnogi mecanweithiau amgen ar gyfer pennu a chasglu'r ardoll cig coch

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau:

Darllenwch y Mesur llawn:

Dod i rym

Daeth adran 17 i 19 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 11 Gorffennaf 2010), yn unol ag adran 18(1).

Daw gweddill darpariaethau’r Mesur i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 18(2).

Mae’r Gorchymyn canlynol wedi ei wneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 19 Hydref 2009 gan Elin Jones AS, y Gweinidog Materion Gwledig ar y pryd.

Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 10 Mawrth 2010:

a'r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (i adlewyrchu'r Mesur fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2:

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 11 Mai 2010.