Trosolwg o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, ei daith drwy'r Senedd a deddfwriaeth israddol.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (‘y Mesur’) yn gam tuag at weithredu’r Llwybrau Dysgu 14-19 ar gyfer pobl ifanc. Prif ddiben y Mesur yw sicrhau bod modd i ddysgwyr rhwng 14 a 19 oed ddewis o ystod eang o gyrsiau galwedigaethol a chyffredinol sy’n ffurfio cwricwlwm lleol, a’u bod yn cael cyfle cyfartal i wneud hynny, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru.
Mae’r Mesur:
- yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n pennu isafswm y cyrsiau astudio sydd i’w cynnwys mewn cwricwlwm lleol ac uchafswm y cyrsiau astudio y mae gan ddysgwr yr hawl i ddewis eu dilyn;
- yn pennu ar ba seiliau y gall pennaeth ysgol neu sefydliad addysg bellach benderfynu nad oes gan ddysgwr, mewn amgylchiadau penodol, yr hawl i ddilyn cwrs y mae wedi ei ddewis;
- yn gosod dyletswydd ar gyrff llywodraethu a phenaethiaid ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach i gynorthwyo i gynllunio’r cwricwlwm lleol a dyletswydd gyfatebol ar awdurdodau addysg lleol i gynorthwyo Gweinidogion Cymru;
- yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a sefydliadau addysg bellach geisio sicrhau bod cymaint â phosib o gyrsiau ar gael i’w astudio mewn cwricwlwm lleol.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.
Darllenwch y Mesur llawn:
Dod i rym
Daeth adrannau 46 a 48 i 50 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 13 Gorffennaf 2009), yn unol ag adran 49(1).
Daw gweddill darpariaethau’r Mesur i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 49(2).
Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur
| Teitl | Rhif y dyfyniad | Dyddiad gwneud | Dod i rym | Dogfennaeth ategol |
|---|---|---|---|---|
| Rheoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 2013 ar legislation.gov.uk | 2013 Rhif 1793 (Cy. 180) | 16 Gorffennaf 2013 | 1 Medi 2013 | 2013 Rhif 1793 (Cy. 180): Memorandwm Esboniadol ar senedd.wales (Saesneg yn unig) |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Mesur ar 7 Gorffennaf 2008 gan John Griffiths AC, sef y Dirprwy Weinidog Sgiliau ar y pryd.
Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 17 Mawrth 2009:
a’r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (i adlewyrchu’r Mesur fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 o’r ystyriaeth):
Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 13 Mai 2009.
Erthyglau neu ddeunydd cysylltiedig
- Mae’r canllawiau statudol hyn yn rhoi manylion ynghylch sut mae’r Mesur yn sicrhau manteision i bobl ifanc 14–19 oed, i’r economi ac i gymunedau Cymru – Ebrill 2014
- Mae’r canllawiau statudol hyn yn rhoi manylion ynghylch sut mae’r Mesur, fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cwriwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) (Diwygio) 2014, yn gweithio yn ymarferol er budd pobl ifanc, yr economi a chymunedau yng Nghymru – Mawrth 2014
- Ymchwiliad i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 – Senedd Cymru
- 14 – 19 Learning Pathways – Briefing produced by Senedd Research (Saesneg yn unig)
- Pwnc: Addysg a sgiliau
