Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd adolygiad annibynnol o’r Rhaglen Cefnogi Pobl yn 2010. Argymhellodd yr adolygiad y dylid ailedrych ar sut y mesurir canlyniadau prosiectau Cefnogi Pobl, a sut y monitrir y prosiectau hynny.

Adolygiad cwmpasu

Comisiynwyd yr astudiaeth cwmpasu hwn yn Ebrill 2012 cyn lansio’r Grant Rhaglen Cefnogi Pobl unedig newydd.  Roedd yr astudiaeth yn bwriadu gosod sylfaen i natur a chwmpas y prosiectau cyn lansio’r Grant newydd.

Gofynnwyd i’r ymchwilwyr sgopio’r opsiynau comisiynu ar gyfer prosiect ymchwil mawr i werthuso effaith y Rhaglen Cefnogi Pobl newydd.

Canfyddiadau prif o dan y cynllun grant blaenorol

  • Roedd yna anghysonderau o ran sut yr oedd prosiectau Cefnogi Pobl yn cael eu diffinio, eu dosbarthu a’u cofnodi gan wahanol awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau.  Bellach, mae Cymru wedi symud i ffrwd ariannu sengl ar gyfer Cefnogi Pobl.
  • Bryd hynny, doedd hi ddim yn bosibl mapio holl brosiectau Cefnogi Pobl yn gywir.
  • Yn 2012, doedd y dosbarthiadau oedd yn ymddangos ddim yn adlewyrchu’n llawn amrywiaeth prosiectau a defnyddwyr gwasanaethau Cefnogi Pobl.
  • Dyma oedd y prif bwyntiau a ddaeth o’r data a gasglwyd (mae’r holl bwyntiau’n ymwneud â chiplun 30 Ebrill 2012): Yn bennaf, roedd prosiectau Cefnogi Pobl yn canolbwyntio ar bobl hŷn (75%o unedau) gyda gwasanaethau gweddol isel o ran dwyster fel cynlluniau larymau cymunedol; Y gwasanaethau oedd yn cael eu darparu amlaf ar gyfer grwpiau eraill o gleientiaid oedd y rheini ar gyfer anawsterau dysgu (9% o unedau), pobl ddigartref (4%) a phobl â phroblemau iechyd meddwl (4%); Roedd eithaf tipyn o bobl yn defnyddio trefniadau comisiynu hyblyg ac roedd gan rai awdurdodau lleol nifer hyblyg o unedau Cefnogi Pobl ar gael; Roedd bron 1 o bob 10 o unedau oedd yn cael eu hariannu gan Cefnogi Pobl yn unedau ‘generig’ wedi’u dylunio i helpu amrywiaeth eang o grwpiau cleientiaid.
  • Roedd rhai darparwyr gwasanaethau’n monitro’u canlyniadau gan ddefnyddio arolygon hydredol (ffordd o olrhain defnyddwyr gwasanaethau dros gyfnod o amser er mwyn gweld a oedd y canlyniadau positif yn parhau).  Roedd hyn yn anarferol ac nid oedd yn ddull safonol o weithio.
  • Mae’r adroddiad yn amlinellu’r fethodoleg bosibl a’r heriau all godi wrth gasglu arolygon hydredol er mwyn Cefnogi Pobl.

Adroddiadau

Mesur effaith cefnogi pobl: adolygiad cwmpasu , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Mesur effaith cefnogi pobl: adolygiad cwmpasu (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 177 KB

PDF
177 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.