Trosolwg o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) yn gwneud darpariaeth i leihau faint o wastraff a sbwriel sydd yng Nghymru ac i gyfrannu at ddatblygu dull mwy effeithiol a chynaliadwy o ymdrin â threfniadau rheoli gwastraff. Mae’r Mesur yn:
- diwygio Atodlen 6 o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 i roi pŵer i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fanwerthwyr drosglwyddo’r enillion net o dâl ar fagiau siopa untro i ddibenion penodol neu bersonau penodedig;
- sefydlu targedau statudol ar gyfer y ganran o wastraff trefol awdurdod lleol sydd i’w ailgylchu, gyda’r nod o sicrhau bod Cymru’n dod yn “gymdeithas ailgylchu uchel”;
- yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru sefydlu targedau gwastraff eraill ar gyfer awdurdodau lleol a phennu cosbau ariannol os na fyddant yn cydymffurfio;
- rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wahardd neu gyfyngu ar waredu mathau penodol o wastraff mewn safle tirlenwi yng Nghymru; ac yn
- rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch ffioedd a chynlluniau codi tâl mewn perthynas â chynlluniau rheoli gwastraff safle a fydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer y sector adeiladu a dymchwel yng Nghymru.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth adran 3 o’r Mesur i rym yn unol â darpariaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 21(1).
Daeth gweddill y darpariaethau i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 15 Chwefror 2011), yn unol ag adran 21(2).
Mae’r Gorchymyn canlynol wedi ei wneud:
Gorchymyn Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011 ar legislation.gov.uk
Is-deddfwriaeth sydd wedi ei gwneud o dan y Ddeddf
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Mesur ar 22 Chwefror 2010 gan Jane Davidson AC, sef Gweinidog yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 2 Tachwedd 2010.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl ystyriaeth Cyfnod 2):
Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Rhagfyr 2010.
