Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008, ei daith drwy'r Senedd a deddfwriaeth israddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 ('y Mesur') oedd y Mesur cyntaf a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd.

Mae'r Mesur yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru greu'r prosesau sydd i'w dilyn gan gyrff y GIG yng Nghymru wrth ddelio â sefyllfaoedd lle, yn dilyn ymchwiliad cychwynnol, y penderfynir y gallai fod esgeulustod ond lle mae'r iawndal sy'n deillio o hyn yn debygol o fod o werth cymharol isel. Mae hyn er mwyn rhoi'r gallu i gleifion sicrhau iawn heb droi at achosion cyfreithiol ffurfiol yn y llysoedd.

Mae'r Nodiadau Esboniadol i'r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Darllenwch y Mesur llawn:

Dod i rym

Daeth adran 14 i rym ar 9 Gorffennaf 2008, sef y diwrnod y cafodd y Mesur y Cydsyniad Brenhinol:

Daeth gweddill y darpariaethau i rym ar 7 Chwefror 2011 yn unol â’r Gorchymyn canlynol:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 2 Gorffennaf 2007 gan Edwina Hart AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd.

Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (a elwid bryd hynny yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru) ar 6 Mai 2008:

a'r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 9 Gorffennaf 2008.