Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Bwriad Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) yw sicrhau, os yw gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu darparu, eu bod yn canolbwyntio’n fwy priodol ar anghenion unigol pobl. Mae chwe Rhan i’r Mesur, ac mae Rhannau 1 i 4 yn gosod dyletswyddau cyfreithiol newydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol i wella’r ffordd y darperir gwasanaethau: 

  • mae Rhan 1 yn ceisio sicrhau bod mwy o wasanaethau iechyd meddwl ar gael o fewn gofal sylfaenol; 
  • mae Rhan 2 yn rhoi’r hawl i bawb sy’n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd gael Cynllun Gofal a Thriniaeth; 
  • mae Rhan 3 yn rhoi’r hawl i bob oedolyn sy’n cael ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd gyfeirio ei hun yn ôl at y gwasanaethau hynny; 
  • mae Rhan 4 yn cynnig mynediad i gymorth eiriolwr iechyd meddwl annibynnol i bob claf mewnol.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau:#

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth Rhan 6 (ac eithrio adrannau 53(1) a 54) a’r darpariaethau yn y Mesur sy’n rhoi pŵer i wneud rheoliadau neu orchymyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (hynny yw ar 15 Chwefror 2011), yn unol ag adran 55(1) a (2).

Daw gweddill darpariaethau’r Mesur i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 55(3):

Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2012 ar legislation.gov.uk2012 Rhif 1428 (Cy. 178)29 Mai 2012      6 Mehefin 2012  2012 Rhif 1428 (Cy. 178): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru 
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwystra i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012 ar legislation.gov.uk2012 Rhif 1305 (Cy. 166)
 
15 Mai 20121 Hydref 2012    2012 Rhif 1305 (Cy. 166): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012 ar legislation.gov.uk2012 Rhif 1244 (Cy. 152)   8 Mai 2012    8 Mai 2012 a  6 Mehefin 2012    Memorandwm 2012 Rhif 1244 (Cy. 152): Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 ar legislation.gov.uk2011 Rhif 2942 (Cy. 318)6 Rhagfyr 2011   6 Mehefin 2012   2011 Rhif 2942 (Cy. 318): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Asesu Defnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2011 ar legislation.gov.uk2011 Rhif 2500 (Cy. 272)18 Hydref 20116 Mehefin 2012    Memorandwm 2011 Rhif 2500 (Cy. 272): Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Cod Ymarfer ar Rannau 2 a 3 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ar legislation.gov.ukNid yw'n berthnasolNid yw'n berthnasol6 Mehefin 2012 Nid yw'n berthnasol

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 22 Mawrth 2010 gan Edwina Hart AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 2 Tachwedd 2010.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Rhagfyr 2010.