Ystadegau, Dogfennu
Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: Ebrill i Fehefin 2025
Data ar atgyfeiriadau ac amserau aros ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol (asesiadau ac ymyriadau therapiwtig) ay gyfer Ebrill i Fehefin 2025.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)
O dan 18 oed
- Cafodd 1,075 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2025.
- Ym mis Mehefin 2025, roedd 94.4% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 67.6% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2025.
18 oed a throsodd
- Cafodd 5,675 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2025.
- Ym mis Mehefin 2025, roedd 81.5% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 87.7% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2025.
Pob oedran
- Cafodd 6,750 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2025.
- Ym mis Mehefin 2025, roedd 83.8% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 83.2% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2025.
Rhan 2: Cynlluniau Gofal a Thriniaeth
O dan 18 oed
- Roedd 777 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mehefin 2025; o'r rhain, roedd gan 751 (96.7%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.
18 oed a throsodd
- Roedd 16,613 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mehefin 2025; o'r rhain, roedd gan 13,017 (78.4%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.
Pob oedran
- Roedd 17,390 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mehefin 2025; o'r rhain, roedd gan 13,768 (79.2%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.
Rhan 3: Asesiadau ar Ddefnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd
- Yn ystod mis Mehefin 2025, roedd 92.7% o adroddiadau ar ganlyniadau asesiadau yn cael eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i asesiad Rhan 3 gael ei gynnal.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Helen Roberts
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
